Neidio i'r cynnwys
Darparwr data: Llywodraeth Cymru Ystadegau Gwladol Hunaniaeth genedlaethol yn ôl blwyddyn a hunaniaeth
None
[Lleihau]Ardal[Hidlwyd]
-
Ardal 1[Hidlo]
Measure2
[Lleihau]Hunaniaeth Genedlaethol[Hidlo]
-
Hunaniaeth Genedlaethol 1
BlwyddynMae ymatebion i\’r Arolwg Poblogaeth Blynyddol (APS) yn cael eu pwysoli i ragamcaniadau poblogaeth swyddogol. Roedd y rhagamcaniadau ar gyfer 2020 yn seiliedig ar 2018, ac, felly, roeddent yn seiliedig ar dueddiadau demograffig a oedd yn rhagddyddio\’r pandemig COVID-19.<br />Er mwyn caniatáu ar gyfer gwahanol dueddiadau yn ystod y pandemig, mae\'r ymatebion ar gyfer yr APS wedi\'u hail-bwysoli ar 9 Medi 2021 i boblogaethau newydd sy\'n deillio o gyfraddau twf o Wybodaeth Amser Real (RTI) o Refeniw a Thollau EM (HMRC). Mae\'r ail-bwysoli wedi\'i gymhwyso o\'r flwyddyn data sy\’n diweddu Mawrth 2020 ymlaen ac mae\'n rhoi amcangyfrifon gwell o\'r cyfraddau a\'r lefelau. Dylai\'r newidiadau mae\'r SYG wedi\'u gwneud i\'r pwysoli leihau gogwydd yr amcangyfrifon ar lefelau uchel o gyfanrediadau. Efallai y bydd rhai dadansoddiadau llai yn cael eu heffeithio\'n negyddol a gellir gweld newidiadau mwy eithafol o ystyried maint llai y sampl sylfaenol ers dechrau\'r pandemig.[Hidlwyd]
[Lleihau]Pob PersonPob person (gan gynnwys y rhai nad oedd yn pennu hunaniaeth)Cliciwch yma i ddidoliPob PersonPob person (gan gynnwys y rhai nad oedd yn pennu hunaniaeth)[Ehangu]Cliciwch yma i ddidoliCanran y bobl sy'n ystyried eu hunain yn GymraegMae’r ganran yn seiliedig ar y rhai a atebodd y cwestiwn yn unig.
Cliciwch yma i ddidoliHunaniaeth GymreigCliciwch yma i ddidoliHunaniaeth di-Gymraeg
Blwyddyn sy'n dod i ben ar 30 Med 20052,005,500927,9002,934,10068.4
Blwyddyn sy'n dod i ben ar 30 Med 20062,008,500939,3002,948,90068.1
Blwyddyn sy'n dod i ben ar 30 Med 20071,990,900975,5002,968,10067.1
Blwyddyn sy'n dod i ben ar 30 Med 20081,927,200986,7002,987,40066.1
Blwyddyn sy'n dod i ben ar 30 Med 20091,949,2001,049,8003,001,60065.0
Blwyddyn sy'n dod i ben ar 30 Med 20101,961,4001,049,5003,012,80065.1
Blwyddyn sy'n dod i ben ar 30 Med 2011.Nid yw\'r eitem ddata yn berthnasol.Nid yw\'r eitem ddata yn berthnasol.Nid yw\'r eitem ddata yn berthnasol.Nid yw\'r eitem ddata yn berthnasol
Blwyddyn sy'n dod i ben ar 30 Med 20121,929,3001,100,5003,037,00063.7
Blwyddyn sy'n dod i ben ar 30 Med 20131,963,3001,081,3003,046,00064.5
Blwyddyn sy'n dod i ben ar 30 Med 20141,952,0001,092,6003,055,10064.1
Blwyddyn sy'n dod i ben ar 30 Med 20151,954,4001,106,4003,062,00063.9
Blwyddyn sy'n dod i ben ar 30 Med 20161,959,4001,113,4003,075,00063.8
Blwyddyn sy'n dod i ben ar 30 Med 20171,942,1001,143,4003,086,80062.9
Blwyddyn sy'n dod i ben ar 30 Med 20181,968,3001,129,0003,099,60063.5
Blwyddyn sy'n dod i ben ar 30 Med 20191,958,0001,152,4003,112,30062.9
Blwyddyn sy'n dod i ben ar 30 Med 20201,975,4001,144,8003,122,60063.3
Blwyddyn sy'n dod i ben ar 30 Med 20211,976,5001,147,6003,125,30063.3
Blwyddyn sy'n dod I ben ar 30 Med 20221,957,3001,175,7003,136,10062.5
Blwyddyn sy'n dod I ben ar 30 Med 20231,932,5001,210,1003,146,00061.5

Metadata

Teitl

Hunaniaeth genedlaethol yn ôl awdurdod lleol yng Nghymru

Diweddariad diwethaf

Tachwedd 2023 Tachwedd 2023

Diweddariad nesaf

Chwefror 2023

Sefydliad cyhoeddi

Llywodraeth Cymru

Ffynhonnell 1

Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth, y Swyddfa Ystadegau Gwladol

Cyswllt ebost

ystadegau.cynhwysiant@llyw.cymru

Dynodiad

Ystadegau Gwladol

Lefel isaf o ddadelfennu daearyddol

Awdurdodau lleol

Cwmpas daearyddol

Cymru

Cwmpas ieithyddol

Saesneg a Chymraeg

Trwyddedu data

Gallwch ddefnyddio ac ailddefnyddio'r data hwn am ddim mewn unrhyw fformat neu gyfrwng, dan delerau'r Drwydded Llywodraeth Agored - gweler http://www.nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence-cymraeg

Disgrifiad cyffredinol

Mae'r set ddata hon yn rhoi gwybodaeth am hunaniaeth genedlaethol yn ôl awdurdod lleol yng Nghymru.

Casgliad data a dull cyfrifo

Cymerir y data hyn o'r setiau data BLYNYDDOL o'r Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth ar gyfer 2005 ymlaen ac o Arolwg Llafurlu Lleol Cymru cyn hynny. Y Swyddfa Ystadegau Gwladol sy'n cynnal yr arolygon hyn. Mae'r data ar gyfer Cymru wedi'u seilio ar sampl gwell (oddeutu 350 y cant yn fwy) o gymharu â'r blynyddoedd blaenorol. Mae data'r Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth yn cael eu casglu drwy gydol y flwyddyn a'u cyhoeddi ar gyfer blynyddoedd calendr. Cyhoeddwyd data'r Arolwg Llafurlu ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Chwefror, bob blwyddyn h.y. mae data Arolwg Llafurlu 2001 yn ymwneud â'r flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Chwefror 2002. NID yw'r data'n cyfateb yn union i'r cyfartaleddau blynyddol a ddeilliwyd o'r 4 set ddata CHWARTEROL ym mhob blwyddyn oherwydd gwahaniaethau yn y strwythur samplu.
Mae'r arolwg yn gofyn i'r ymatebwyr beth maent yn barnu yw eu hunaniaeth ethnig. Mae'r tabl hwn yn cyfuno'r grwpiau heb fod yn Gymreig er mwyn gwneud yr amcangyfrifon yn fwy dibynadwy. Mae'r 'heb fod yn Gymreig' yn cynnwys: Seisnig, Albanaidd, Gwyddelig, Prydeinig ac Arall. Mae'n bosibl na fydd y ffigurau ar gyfer awdurdodau lleol a Chymru ar gyfer 2001, 2002 a 2003 yn y tablau hyn yr un peth â ffigurau a gyhoeddwyd mewn mannau eraill, gan fod y niferoedd yma'n cael eu hamcangyfrif gan ddefnyddio pwysoli penodol i Gymru. Mae'r pwysoli hwn yn adlewyrchu'n well yr amcangyfrifon poblogaeth ar gyfer awdurdodau lleol yng Nghymru yn y blynyddoedd hyn.

Nomis yw'r porth swyddogol y Swyddfa Ystadegau Gwladol ar gyfer ystadegau'r farchnad lafur. Sylwer y gall rhai amcangyfrifon o Nomis ar gyfer yr APS fod yn ychydig yn wahanol i'r rhai a gyflwynir yma, oherwydd y gwahaniaethau yn y ffordd mae’r daearyddiaethau awdurdodau lleol yn cael eu hadeiladu.

Amlder cyhoeddi

Chwarterol

Cyfnodau data dan sylw

2001 i 2023

Talgrynnu wedi'u ddefnyddio

Mae'r ffigurau wedi'u talgrynnu i'r 100 agosaf ac felly mae'n bosibl y bydd rhai mân anghysondebau ymddangosiadol rhwng swm yr eitemau sy'n rhan ohonynt a'r cyfansymiau fel y'u dangosir.

Gwybodaeth am ddiwygiadau

Ym mis Mawrth 2019, adolygwyd y data Arolwg Boblogaeth Blynyddol yn ôl i 2012, oherwydd mae'n ystyried yr amcangyfrifon diweddaraf o'r boblogaeth.

Medi 2019: Yn flaenorol cyfrifwyd y ganran sy’n ystyried eu hunain yn Gymreig fel canran o bob person – mae hwn bellach wedi ei ddiwygio i fod yn seiliedig ar y rhai ymatebodd i’r cwestiwn yn unig. Diwygiwyd y data a gyhoeddwyd yn flaenorol.

Mae ymatebion i’r Arolwg Poblogaeth Blynyddol (APS) yn cael eu pwysoli i ragamcaniadau poblogaeth swyddogol. Roedd y rhagamcaniadau ar gyfer 2020 yn seiliedig ar 2018, ac, felly, roeddent yn seiliedig ar dueddiadau demograffig a oedd yn rhagddyddio’r pandemig COVID-19.
Er mwyn caniatáu ar gyfer gwahanol dueddiadau yn ystod y pandemig, mae'r ymatebion ar gyfer yr APS wedi'u hail-bwysoli ar 9 Medi 2021 i boblogaethau newydd sy'n deillio o gyfraddau twf o Wybodaeth Amser Real (RTI) o Refeniw a Thollau EM (HMRC). Mae'r ail-bwysoli wedi'i gymhwyso o'r flwyddyn data sy’n diweddu Mawrth 2020 ymlaen ac mae'n rhoi amcangyfrifon gwell o'r cyfraddau a'r lefelau.
Mae’r data diwygiedig wedi'i farcio â (r).

Ansawdd ystadegol

Gan fod y data'n dod o arolwg, mae'r canlyniadau'n amcangyfrifon wedi'u seilio ar samplau ac felly'n destun graddau gwahanol o amrywioldeb samplu, h.y. mae'r gwir werth ar gyfer unrhyw fesur mewn ystod wahanol o amgylch y gwerth amcangyfrifedig. Mae'r ystod neu amrywioldeb samplu hwn yn cynyddu wrth i'r manylder yn y data gynyddu, er enghraifft mae data awdurdodau lleol yn fwy amrywiol na data rhanbarthol.

Mae'r canlyniadau blynyddol hyn yn ymwneud â'r cyfnod Mawrth i Chwefror bob blwyddyn. Fodd bynnag, gan fod y canlyniadau o'r arolygon chwarterol yn cael eu cyfuno â chanlyniadau o bersonau ychwanegol a samplir, maent yn darparu set ddata fwy cadarn (cyfnerthedig), ac mae'r amcangyfrifon yn destun amrywioldeb samplu llawer llai na'r Arolwg chwarterol o'r Llafurlu.

Mae ymatebion i’r Arolwg Poblogaeth Blynyddol (APS) yn cael eu pwysoli i ragamcaniadau poblogaeth swyddogol. Roedd y rhagamcaniadau ar gyfer 2020 yn seiliedig ar 2018, ac, felly, roeddent yn seiliedig ar dueddiadau demograffig a oedd yn rhagddyddio’r pandemig COVID-19.

Er mwyn caniatáu ar gyfer gwahanol dueddiadau yn ystod y pandemig, mae'r ymatebion ar gyfer yr APS wedi'u hail-bwysoli ar 9 Medi 2021 i boblogaethau newydd sy'n deillio o gyfraddau twf o Wybodaeth Amser Real (RTI) o Refeniw a Thollau EM (HMRC). Mae'r ail-bwysoli wedi'i gymhwyso o'r flwyddyn data sy’n diweddu Mawrth 2020 ymlaen ac mae'n rhoi amcangyfrifon gwell o'r cyfraddau a'r lefelau. Dylai'r newidiadau mae'r SYG wedi'u gwneud i'r pwysoli leihau gogwydd yr amcangyfrifon ar lefelau uchel o gyfanrediadau. Efallai y bydd rhai dadansoddiadau llai yn cael eu heffeithio'n negyddol a gellir gweld newidiadau mwy eithafol o ystyried maint llai y sampl sylfaenol ers dechrau'r pandemig.

Nododd y Swyddfa Ystadegau Gwladol broblemau yn y pwysau newydd hwn yn 2022. Mae'r data o'r flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2020 i'r flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Rhagfyr 2021 wedi'i ddiwygio ar 10 Tachwedd 2022 i ymgorffori pwysau newydd sy'n cywiro'r materion hyn.

Noder: Mae data ar gyfer 2011 C1-3 wedi ei dynnu oherwydd newid yn y cwestiynau sydd wedi arwain at doriad yn y gyfres.