Dadansoddiad o nodweddion poblogaeth yn ôl amddifadedd ardal (Cyfrifiad 2021) - cyn-filwyr lluoedd arfog y Deyrnas Unedig
None
|
Metadata
Ansawdd ystadegol
Gweler tab y gwe-ddolenni i gael dolenni i wybodaeth am ansawdd mewn perthynas â Chyfrifiad 2021, a dolenni i wybodaeth am ansawdd a chanllawiau i'r dangosyddion mewn perthynas â MALlC 2019. Gellir dod o hyd i fwy o wybodaeth am ansawdd a methodoleg yn y bwletin ystadegol cysylltiedig.Dolenni'r we
https://www.ons.gov.uk/censushttps://www.ons.gov.uk/datasets/create
https://www.llyw.cymru/mynegai-amddifadedd-lluosog-cymru-diweddariad-llawn-ir-mynegai-gyda-graddfeydd-2019
Teitl
Dadansoddiad o nodweddion poblogaeth yn ôl amddifadedd ardal (Cyfrifiad 2021) - cyn-filwyr lluoedd arfog y Deyrnas UnedigDiweddariad diwethaf
8 Tachwedd 2023Sefydliad cyhoeddi
Llywodraeth CymruFfynhonnell 1
Casgliad data am gyfrifiad plant mewn angen (CiN), Llywodraeth CymruFfynhonnell 2
Cyfrifiad 2021, y Swyddfa Ystadegau GwladolFfynhonnell 1
Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru, Llywodraeth CymruCyswllt ebost
ystadegau.cynhwysiant@llyw.cymruCwmpas ieithyddol
Saesneg yn unigDisgrifiad cyffredinol
Mae'r dadansoddiad hwn yn defnyddio data Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (MALlC) 2019 a Chyfrifiad 2021 i amcangyfrif y cyfrannau o'r grwpiau poblogaeth sy'n byw yn ardaloedd pob un o grwpiau amddifadedd MALlC 2019. Mae'n nodi lle mae pobl o wahanol grwpiau yn fwyaf tebygol o fyw o safbwynt amddifadedd cymharol ardal fach (Ardal Gynnyrch Ehangach Haen Is neu AGEHI) ac a yw hyn yn amrywio ar draws grwpiau.Mae'r dadansoddiad hwn yn cyflwyno trosolwg o ddosbarthiad gwahanol boblogaethau ledled Cymru adeg Cyfrifiad 2021. Nid yw'n ystyried perthynas gwahanol nodweddion â'i gilydd nac ag amddifadedd. Er enghraifft, mae grwpiau hyn yn llai tebygol o fyw yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig, a allai effeithio ar boblogaethau sydd â phroffiliau oedran gwahanol fel rhai grwpiau ethnig, cyn-aelodau o'r lluoedd arfog neu'r rhai sydd mewn iechyd gwael. Yn syml iawn, dylid dehongli'r canlyniadau ar lefel pa mor debygol yr oedd y boblogaeth o fyw yn ardaloedd amddifadedd amrywiol Cymru adeg Cyfrifiad 2021, yn hytrach na cheisio sefydlu perthynas rhwng nodweddion penodol ac amddifadedd.
Casgliad data a dull cyfrifo
Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (MALlC) yw'r mesur swyddogol o amddifadedd cymharol ar gyfer ardaloedd bach yng Nghymru. Nod MALlC yw canfod yr ardaloedd bach hynny yng Nghymru sydd â'r crynodiadau uchaf o wahanol fathau o amddifadedd. MALlC 2019 yw'r mynegai mwyaf diweddar ac mae'n rhoi safle rhwng 1 (mwyaf difreintiedig) a 1,909 (lleiaf difreintiedig) i'r holl ardaloedd bach yng Nghymru. Cyfeirir at ardal fach o'r fath fel Ardal Gynnyrch Ehangach Haen Is (AGEHI). Mae'r ddaearyddiaeth hon yn seiliedig ar ddata Cyfrifiad 2011, ac mae'n cynrychioli ardaloedd bach, pob un ohonynt â phoblogaeth o tua 1,600 o bobl. Cyfrifir y mynegai ar sail wyth math o amddifadedd, pob un wedi'i lunio ar sail ystod o wahanol ddangosyddion (neu fesurau).Cynhaliwyd Cyfrifiad 2021 yng Nghymru a Lloegr ar 21 Mawrth 2021.
Mae'r amcangyfrifon yn yr erthygl hon wedi'u cynhyrchu trwy gysylltu data AGEHIau Cyfrifiad 2021 o adnodd y Swyddfa Ystadegau Gwladol i greu set ddata wedi'i theilwra â manylion amddifadedd cyffredinol AGEHIau MALlC 2019. Oherwydd dulliau rheoli datgelu ystadegau a ddefnyddir gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol ar gyfer yr adnodd hwn, efallai na fydd canrannau'r dadansoddiadau a gyflwynir yn yr erthygl hon yn cyfateb i 100.0%.