Dadansoddiad o nodweddion y boblogaeth yn ôl amddifadedd ardal (Cyfrifiad 2021)
Mae'r dadansoddiad hwn yn defnyddio data Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (MALlC) 2019 a Chyfrifiad 2021 i amcangyfrif y cyfrannau o'r grwpiau poblogaeth sy'n byw yn ardaloedd pob un o grwpiau amddifadedd MALlC 2019. Mae'n nodi lle mae pobl o wahanol grwpiau yn fwyaf tebygol o fyw o safbwynt amddifadedd cymharol ardal fach (Ardal Gynnyrch Ehangach Haen Is neu AGEHI) ac a yw hyn yn amrywio ar draws grwpiau.