Pobl o oedran gweithio ag anableddau yn ôl ardal a math o anabledd
Wedi ei archifo (Saesneg yn unig) – Nid yw’n cael ei ddiweddaru mwyach.
None
|
Metadata
- Gwybodaeth lefel uchel
- Dolenni'r we
- Allweddeiriau
- Gwybodaeth ansawdd ystadegol
- Gwybodaeth cryno
- Data agored
Teitl
Nifer y bobl ag anableddau, yn ôl rhyw ac awdurdod lleol yng NghymruDiweddariad diwethaf
Ebrill 2015Diweddariad nesaf
Dim hwy diweddaruSefydliad cyhoeddi
Llywodraeth CymruFfynhonnell 1
Arolwg Poblogaeth Blynyddol, y Swyddfa Ystadegau GwladolCyswllt ebost
ystadegau.economi@cymru.gsi.gov.ukDynodiad
Ystadegau GwladolLefel isaf o ddadelfennu daearyddol
Awdurdodau lleolCwmpas daearyddol
CymruCwmpas ieithyddol
Saesneg yn unigTrwyddedu data
Gallwch ddefnyddio ac ailddefnyddio'r data hwn am ddim mewn unrhyw fformat neu gyfrwng, dan delerau'r Drwydded Llywodraeth Agored - gweler http://www.nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence-cymraegAllweddeiriau
People with disabiltitiesAnsawdd ystadegol
Gan fod y data'n dod o arolwg, mae'r canlyniadau'n amcangyfrifon wedi'u seilio ar samplau ac felly'n destun graddau gwahanol o amrywioldeb samplu, h.y. mae'r gwir werth ar gyfer unrhyw fesur mewn ystod wahanol o amgylch y gwerth amcangyfrifedig. Mae'r ystod neu amrywioldeb samplu hwn yn cynyddu wrth i'r manylder yn y data gynyddu, er enghraifft mae data awdurdodau lleol yn fwy amrywiol na data rhanbarthol.Mae'r canlyniadau blynyddol hyn yn ymwneud â'r cyfnod Mawrth i Chwefror bob blwyddyn. Fodd bynnag, gan fod y canlyniadau o'r arolygon chwarterol yn cael eu cyfuno â chanlyniadau o bersonau ychwanegol a samplir, maent yn darparu set ddata fwy cadarn (cyfnerthedig), ac mae'r amcangyfrifon yn destun amrywioldeb samplu llawer llai na'r Arolwg chwarterol o'r Llafurlu.
Disgrifiad cyffredinol
Mae'r set ddata hon yn rhoi nifer y bobl ag anableddau, yn ôl rhyw ac awdurdod lleolCasgliad data a dull cyfrifo
Cymerir y data hyn o'r setiau data BLYNYDDOL o'r Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth ar gyfer 2005 ymlaen ac o Arolwg Llafurlu Lleol Cymru cyn hynny. Y Swyddfa Ystadegau Gwladol sy'n cynnal yr arolygon hyn. Mae'r data ar gyfer Cymru wedi'u seilio ar sampl gwell (oddeutu 350 y cant yn fwy) o gymharu â'r blynyddoedd blaenorol. Mae data'r Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth yn cael eu casglu drwy gydol y flwyddyn a'u cyhoeddi ar gyfer blynyddoedd calendr. Cyhoeddwyd data'r Arolwg Llafurlu ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Chwefror, bob blwyddyn h.y. mae data Arolwg Llafurlu 2001 yn ymwneud â'r flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Chwefror 2002. NID yw'r data'n cyfateb yn union i'r cyfartaleddau blynyddol a ddeilliwyd o'r 4 set ddata CHWARTEROL ym mhob blwyddyn oherwydd gwahaniaethau yn y strwythur samplu.Mae anabledd y DGA yn cynnwys y personau hynny y mae Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd 1995 yn ymdrin â’u problem iechyd, tra bo anabledd sy’n cyfyngu ar allu pobl i weithio’n cynnwys y bobl hynny mae eu problem yn effeithio ar y math neu’r maint o waith am dâl y gallant ei wneud. Mae cyfanswm pobl anabl yn cynnwys anabledd y DGA, anabledd sy’n cyfyngu ar allu pobl i weithio neu’r ddau.
Defnyddir y boblogaeth oedran gweithio fel y sail ar gyfer cyfraddau anabledd gan mai dim ond i bobl o oedran gweithio y gofynnir y cwestiynau’n gyson.
*NODWCH*
Oherwydd yr ychwanegwyd cyflwyniad byr ar ddechrau'r modiwl anabledd yn chwarter 1 2010, canfuwyd diffyg parhad yn y gyfres, oedd yn effeithio ar y cyfnod hwn ymlaen.
Credir bod effaith y cyflwyniad hwn yn gadarnhaol gan ei fod yn paratoi'r ymatebwyr ar gyfer y set o gwestiynau am anabledd. Dylai unrhyw gynnydd a achosir gan y newid hwn arwain at fesur mwy cyflawn o anabledd gwirioneddol. Credir mai'r newid hwn i'r cyflwyniad a ychwanegwyd i'r modiwl anabledd yn chwarter 1 2010 yw prif ysgogydd y cynnydd sylweddol mewn anabledd. Gellir dal i ystyried yr amcangyfrifon cynharach yn 'amcangyfrifon gorau' ar gyfer y cyfnodau hynny a dylent roi darlun cadarn o newidiadau dros amser, ond ni ddylid gwneud cymariaethau uniongyrchol rhwng yr amcangyfrifon cyn ac ar ôl chwarter 1 2010. At hynny, oherwydd y cyfnodau amser blynyddol treigl a ddefnyddir yn yr Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth, bydd y newid hwn yn effeithio'n raddol ar yr amcangyfrifon rhwng chwarter 1 2010 a chwarter 4 2010 ac ni fydd yn cyrraedd sail gyson ond o chwarter 4 2010 ymlaen.
Ym mis Ebrill 2013 mabwysiadodd Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth y Swyddfa Ystadegau Gwladol gwestiwn safonedig newydd am unigolion â phroblemau iechyd. Mae hyn wedi arwain at ddiffyg parhad yn y gyfres rhwng yr ymatebion ar gyfer Mawrth 2013 ac Ebrill 2013. Felly, ar hyn o bryd mae'r gyfres amser hon yn mynd hyd at fis Mawrth 2013 yn unig.