Neidio i'r cynnwys
Darparwr data: Llywodraeth Cymru Ystadegau Gwladol Cleifion y GIG a gaiff eu trin ar gyfer oedolion a phlant yn ôl bwrdd iechyd lleol
None
24 mis yn diweddu[Hidlwyd]
Measure1
Mesur[Hidlo]
Ardal[Hidlo]
Cliciwch yma i ddidoliNifer y cleifion a gafodd driniaethCliciwch yma i ddidoliCanran y cleifion a gafodd driniaethCliciwch yma i ddidoli Nifer yr oedolion a gafodd driniaethCliciwch yma i ddidoliCanran yr oedolion a gafodd driniaethCliciwch yma i ddidoliNifer y plant a gafodd driniaethCliciwch yma i ddidoliCanran y plant a gafodd driniaeth
Cymru1,268,31340.8936,25437.6332,05953.9
Betsi Cadwaladr241,84835.2178,57432.363,27447.3
Powys48,65936.438,04734.610,61245.2
Hywel Dda125,01332.789,85528.935,15849.1
Abertawe Bro Morgannwg.Nid yw\'r eitem ddata yn berthnasol.Nid yw\'r eitem ddata yn berthnasol.Nid yw\'r eitem ddata yn berthnasol.Nid yw\'r eitem ddata yn berthnasol.Nid yw\'r eitem ddata yn berthnasol.Nid yw\'r eitem ddata yn berthnasol
Bae AbertaweO 1 Ebrill 2019, symudodd darpariaeth gwasanaeth iechyd trigolion awdurdod lleol Pen-y-bont ar Ogwr o Abertawe Bro Morgannwg i Gwm Taf. Am ragor o wybodaeth gweler y datganiad ar y cyd gan Fyrddau Iechyd Prifysgol Cwm Taf ac Abertawe Bro Morgannwg (gweler y dolenni gwe). Mae enwau\'r byrddau iechyd wedi newid; mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf bellach yn Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, ac mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg bellach yn Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe.168,98744.5124,92640.944,06159.6
Cwm Taf.Nid yw\'r eitem ddata yn berthnasol.Nid yw\'r eitem ddata yn berthnasol.Nid yw\'r eitem ddata yn berthnasol.Nid yw\'r eitem ddata yn berthnasol.Nid yw\'r eitem ddata yn berthnasol.Nid yw\'r eitem ddata yn berthnasol
Aneurin Bevan260,59444.3193,56341.567,03155.2
Caerdydd a'r Fro211,30942.9151,02938.760,28059.5
Cwm Taf MorgannwgO 1 Ebrill 2019, symudodd darpariaeth gwasanaeth iechyd trigolion awdurdod lleol Pen-y-bont ar Ogwr o Abertawe Bro Morgannwg i Gwm Taf. Am ragor o wybodaeth gweler y datganiad ar y cyd gan Fyrddau Iechyd Prifysgol Cwm Taf ac Abertawe Bro Morgannwg (gweler y dolenni gwe). Mae enwau\'r byrddau iechyd wedi newid; mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf bellach yn Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, ac mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg bellach yn Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe.211,90347.9160,26045.651,64356.8

Metadata

Teitl

Cleifion y GIG a gaiff eu trin ar gyfer oedolion a phlant yn ôl bwrdd iechyd lleol

Diweddariad diwethaf

25 Mai 2023 25 Mai 2023

Diweddariad nesaf

28 Medi 2023

Sefydliad cyhoeddi

Llywodraeth Cymru

Ffynhonnell 1

Gwasanaethau Deintyddol, Awdurdod Gwasanaethau Busnes y GIG

Ffynhonnell 2

Amcangyfrifon poblogaeth canol-blwyddyn, y Swyddfa Ystadegau Gwladol

Cyswllt ebost

ystadegau.iechyd@llyw.cymru

Dynodiad

Ystadegau Gwladol

Lefel isaf o ddadelfennu daearyddol

Byrddau iechyd lleol

Cwmpas daearyddol

Cymru

Cwmpas ieithyddol

Saesneg yn unig

Trwyddedu data

Gallwch ddefnyddio ac ailddefnyddio'r data hwn am ddim mewn unrhyw fformat neu gyfrwng, dan delerau'r Drwydded Llywodraeth Agored - gweler http://www.nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence-cymraeg

Disgrifiad cyffredinol

Mae'r wybodaeth a gyflwynir yma yn dangos nifer a chanran y cleifion a gafodd eu trin.

Mae ‘cleifion a gafodd driniaeth’ yn cyfrif nifer y cleifion unigol sydd wedi cael triniaeth yn ystod y 24 mis diwethaf; dim ond unwaith y caiff pob claf ei gyfrif hyd yn oed os yw wedi derbyn sawl cyfnod o ofal dros y cyfnod.

Defnyddir cyfnod o 24 mis ar gyfer yr ystadegau hyn gan fod y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (NICE) yn argymell bod cleifion yn cael eu galw’n ôl i gael archwiliadau bob tri mis i 24 mis, yn dibynnu ar statws iechyd y geg yr unigolyn.


Casgliad data a dull cyfrifo

Mae'r data'n deillio o ffurflenni gweithgaredd deintyddol a gyflwynir ar gyfer taliad ac a brosesir gan Wasanaethau Deintyddol Awdurdod Gwasanaethau Busnes y GIG.

Mae pandemig y coronafeirws (COVID-19) wedi cael effaith sylweddol ar y ffordd mae gwasanaethau deintyddol wedi cael eu darparu yng Nghymru ac felly mae’n effeithio ar y data a gasglwyd o chwarter olaf blwyddyn ariannol 2019-20 a blwyddyn ariannol lawn 2020-21 ymlaen.

Mae’r newid i ffiniau byrddau iechyd wedi effeithio ar niferoedd y cleifion a driniwyd o fewn cyfnod o 24 mis, ar ôl i Ben-y-bont ar Ogwr symud i fwrdd iechyd Cwm Taf Morgannwg ar 1 Ebrill 2019. Mae’r set ddata yn cyfrif unigolion unigryw a ddefnyddiodd wasanaethau deintyddol yn y cyfnod o 24 mis. Pan fo unigolyn wedi defnyddio gwasanaethau deintyddol fwy nag unwaith yn y cyfnod o 24 mis yn yr un bwrdd iechyd, dim ond manylion y driniaeth ddiwethaf a fyddai’n cael eu cyfrif yn y set ddata er mwyn osgoi ei gyfrif ddwywaith. Serch hynny, gan fod data yn cael eu casglu dros gyfnod o 24 mis lle mae ffin bwrdd iechyd wedi newid, mae’n bosibl y caiff yr un unigolyn ei gyfrif ym mwrdd iechyd blaenorol Pen-y-bont ar Ogwr (Abertawe Bro Morgannwg) a’i fwrdd iechyd newydd (Cwm Taf Morgannwg neu Fae Abertawe) gan ddibynnu ar ddyddiad y driniaeth ddiwethaf. Er enghraifft, os cafodd claf ei drin ym Mhen-y-bont ar Ogwr ym mis Chwefror 2019 ac eto ym mis Mai 2019, bydd yn cael ei gyfrif yn nata Abertawe Bro Morgannwg ar gyfer rhestr mis Mawrth 2019 ond data Cwm Taf Morgannwg ar gyfer rhestr mis Mehefin 2019 ymlaen. Ac os cafodd claf ei drin ym Mhen-y-bont ar Ogwr ym mis Mawrth 2019 ac nid yw wedi mynd at ddeintydd ers hynny, bydd yn cael ei gyfrif yn nata Abertawe Bro Morgannwg ar gyfer rhestr mis Mawrth 2019, a data Bae Abertawe ar gyfer rhestr mis Mehefin 2019 ymlaen. I roi ffigur sy’n adlewyrchu’r sefyllfa yn well ar gyfer canran y cleifion a driniwyd (cyfanswm, oedolion a phlant), mae amcangyfrifon o boblogaeth y byrddau iechyd newydd wedi’u creu gan ddefnyddio data ychwanegol cleifion a driniwyd ym Mhen-y-bont ar Ogwr ar ôl 1 Ebrill 2019 (ffynhonnell: Awdurdod Gwasanaethau Busnes y GIG). Er enghraifft, o blith y cleifion a driniwyd ym Mhen-y-bont ar Ogwr, mae data ar gyfer Gorffennaf-Medi 2019 yn dangos y cafodd 56% driniaeth ar ôl 1 Ebrill 2019 yng Nghwm Taf Morgannwg. Felly, ar gyfer y 24 mis a ddaeth i ben ym mis Medi 2019, dyma’r amcangyfrifon o’r enwadur ar gyfer y byrddau iechyd newydd:
Poblogaeth gymwys Bae Abertawe = Abertawe + Castell-nedd Port Talbot + ((0.44) * Pen-y-bont ar Ogwr)
Poblogaeth gymwys Cwm Taf Morgannwg = Rhondda Cynon Taf + Merthyr Tudful + ((0.56) * Pen-y-bont ar Ogwr)

Data ar gyfer y cyfnod o 24 mis a ddaw i ben ym mis Ebrill 2021 fydd y cyfnod amser cyntaf na fydd y newid i’r ffiniau yn effeithio ar ei ddata. Cynghorir gofal wrth ddefnyddio’r data ar gyfer y cyfnodau amser sy’n cwmpasu’r newid i ffiniau’r byrddau iechyd.

Amlder cyhoeddi

Chwarterol

Cyfnodau data dan sylw

Dangosir data ar gyfer cleifion a welwyd yn ystod y 2 flynedd a ddaeth i ben ar 31 Rhagfyr 2009 ymlaen

Defnyddwyr, defnydd a chyd-destun

Gallwch chi weld y wybodaeth hon yn y cyhoeddiad ystadegol perthnasol trwy ddilyn y ddolen we.

Gwybodaeth am ddiwygiadau

Ar ôl rhyddhau amcangyfrifon poblogaeth ganol blwyddyn 2021 ym mis Rhagfyr 2022, mae data ar ganran y cleifion a gafodd eu trin ar gyfer y 24 mis a ddaeth i ben ym mis Medi 2021, mis Rhagfyr 2021, mis Mawrth 2022 a mis Mehefin 2022 yn awr yn seiliedig ar amcangyfrifon poblogaeth ganol blwyddyn 2021 (yn hytrach na 2020) o ryddhad 23 Chwefror 2023. Hefyd, bydd y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) yn ail-seilio'r amcangyfrifon canol blwyddyn ar gyfer y cyfnod canol blwyddyn 2012 i ganol blwyddyn 2020 gan ddefnyddio data Cyfrifiad 2021 yng ngwanwyn 2023. Mae hyn yn golygu y bydd ystadegau ar gyfer canran y boblogaeth a dderbyniodd wasanaethau deintyddol y GIG cyn y 24 mis a ddaeth i ben ym mis Medi 2021 yn cael eu hadolygu maes o law.

Ansawdd ystadegol

Gallwch chi weld y wybodaeth hon yn y cyhoeddiad ystadegol perthnasol trwy ddilyn y ddolen we.

Allweddeiriau

Deintyddol;
Gwasanaethau Deintyddol y GIG; Cleifion wedi cael eu trin