
None
|
Metadata
- Gwybodaeth cryno
- Allweddeiriau
- Dolenni'r we
- Gwybodaeth ansawdd ystadegol
- Gwybodaeth lefel uchel
- Data agored
Disgrifiad cyffredinol
Mae'r wybodaeth a gyflwynir yma yn dangos nifer y practisau cyffredinol gweithredol yn ôl maint y practis a'r bwrdd iechyd lleol ar ddyddiad pob ciplun chwarterol ers 30 Medi 2015.Casgliad data a dull cyfrifo
Diffinnir maint y practis fel nifer y staff cyffredinol (cyfrif pennau) mewn practis, wedi'i grwpio i fandiau o 10. Mae'r data'n cael eu cyflwyno gyda staff locwm (staff dros dro) wedi'u cynnwys yng nghyfanswm y cyfrif pennau, a'u heithrio o'r cyfanswm hwnnw, sy'n pennu maint y practis.Amlder cyhoeddi
BlynyddolCyfnodau data dan sylw
Mae’r data’n cael eu dangos fel y maent yn ymddangos ar 31 Mawrth, 30 Mehefin, 30 Medi, a 31 Rhagfyr.Allweddeiriau
Ymarferydd cyffredinol, practisau cyffredinolAnsawdd ystadegol
Dim ond o fis Mawrth 2020 ymlaen y mae'r dadansoddiad o faint practisau ar gael yn unol â'r dyddiadau lle rydym wedi cael data gan System Genedlaethol Cymru ar gyfer Adrodd ar y Gweithlu (WNWRS).Nid yw'r cyfrif pennau o staff locwm ar gael cyn mis Mehefin 2021, ac felly nid yw'n rhan o gyfanswm y cyfrif pennau a ddefnyddir i bennu maint practisau yn y data 'pob aelod o staff gan gynnwys meddygon teulu locwm' cyn y dyddiad hwn. Ar gyfer cymariaethau ar draws cyfnodau cyn mis Mehefin 2021 ac ar ôl hynny, rydym yn argymell defnyddio'r data 'pob aelod o staff ac eithrio meddygon teulu locwm', gan eu bod yn eithrio staff locwm ar ddyddiad pob ciplun.
Hyd at fis Mawrth 2019, roedd practisau cyffredinol ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn cael eu categoreiddio fel rhan o Fwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg. O fis Mehefin 2019 ymlaen, maent wedi cael eu categoreiddio fel rhan o Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg. O ganlyniad, mae newid sylweddol yn y data.