Meddygon teulu cwbl gymwysedig cyfwerth ag amser llawn fesul 10,000 o'r boblogaeth, yn ôl bwrdd iechyd lleol
None
|
Metadata
- Gwybodaeth lefel uchel
- Gwybodaeth cryno
- Dolenni'r we
- Allweddeiriau
- Gwybodaeth ansawdd ystadegol
- Data agored
Teitl
Meddygon teulu cwbl gymwysedig cyfwerth ag amser llawn fesul 10,000 o'r boblogaeth, yn ôl bwrdd iechyd lleolDiweddariad diwethaf
29 Chwefror 2024Diweddariad nesaf
I gael ei gadarnhauSefydliad cyhoeddi
Llywodraeth CymruFfynhonnell 1
System Adrodd Genedlaethol ar gyfer Gweithlu CymruFfynhonnell 2
Amcangyfrifon poblogaeth canol-blwyddyn, y Swyddfa Ystadegau GwladolCyswllt ebost
ystadegau.iechyd@llyw.cymruLefel isaf o ddadelfennu daearyddol
Byrddau iechyd lleolCwmpas daearyddol
CymruCwmpas ieithyddol
Saesneg a ChymraegDisgrifiad cyffredinol
Mae hyn yn dangos nifer y meddygon teulu cwbl gymwysedig cyfwerth ag amser llawn fesul 10,000 o'r boblogaeth yn ôl bwrdd iechyd lleol, ar bob dyddiad cipolwg chwarterol ers 31-Rhag-21.Casgliad data a dull cyfrifo
Meddygon teulu cwbl gymwysedig: mae hyn yn cynnwys partneriaid, darparwyr, meddygon teulu cyflogedig, meddygon teulu wrth gefn a meddygon teulu locwm yn unig.Mae’r cyfraddau’n seiliedig ar y niferoedd cyfwerth ag amser llawn ac ar amcangyfrifon poblogaeth canol blwyddyn y Swyddfa Ystadgau Gwladol. Mae'r data poblogaeth yn ymwneud â'r un flwyddyn â data'r gweithlu: mae hyn yn golygu bod y cyfraddau a gyhoeddwyd ddiweddaraf ar gyfer 31 Mawrth, 30 Mehefin a 30 Medi yn seiliedig ar amcangyfrifon poblogaeth y flwyddyn flaenorol a byddant yn cael eu diwygio gan ddefnyddio amcangyfrifon poblogaeth y flwyddyn ddilynol yn y datganiad ystadegol nesaf.
Caiff staff locwm eu cyfrif os oedd unrhyw waith wedi'i gofnodi drwy Locum Hub Wales ar unrhyw adeg yn ystod y chwarter a ddaeth i ben ar ddyddiad y ciplun yn unig. Ar gyfer yr holl fathau eraill o feddygon teulu, mae'n seiliedig ar cyfrif pennau ar ddyddiad y ciplun.
Mae’r System Adrodd Genedlaethol ar gyfer Gweithlu Cymru yn darparu adnodd diogel ar-lein sydd wedi ei ddatblygu i gasglu gwybodaeth am staff sy’n gweithio mewn practisau cyffredinol yng Nghymru.
Yn gyffredinol, mae’r system yn gweithio drwy fod rheolwyr practisau’n bwydo manylion eu staff i mewn i’r system, gan gadarnhau’r manylion bob chwarter. Mae’r data wedyn yn cael eu tynnu ar ddiwrnod olaf bob chwarter (Mawrth, Mehefin, Medi, Rhagfyr). Mae Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru hefyd yn cwblhau dilysiadau er mwyn gwella ansawdd y data cyn i’r data dienw gael eu rhannu gydag ystadegwyr yn Llywodraeth Cymru, i’w dilysu ymhellach a chynhyrchu’r ystadegau swyddogol hen.
Mae data o ffynonellau eraill yn ategu’r data a geir gan y System Adrodd Genedlaethol ar gyfer Gweithlu Cymru, ac mae’r ffynonellau hynny’n cynnwys:
• Locum Hub Wales: Nifer y staff locwm oedd gweithio mewn practisau yn ystod y chwarter hyd at ddyddiad y ciplun.