Meddygon teulu cwbl gymwysedig (cyfrif pennau a chyfwerth ag amser llawn) yn ôl ethnigrwydd
None
|
Metadata
- Gwybodaeth lefel uchel
- Gwybodaeth cryno
- Dolenni'r we
- Gwybodaeth ansawdd ystadegol
- Allweddeiriau
- Data agored
Teitl
Meddygon teulu cwbl gymwysedig (cyfrif pennau a chyfwerth ag amser llawn) yn ôl ethnigrwyddDiweddariad diwethaf
29 Chwefror 2024Diweddariad nesaf
I gael ei gadarnhauSefydliad cyhoeddi
Llywodraeth CymruFfynhonnell 1
System Adrodd Genedlaethol ar gyfer Gweithlu CymruCyswllt ebost
ystadegau.iechyd@llyw.cymruCwmpas daearyddol
CymruCwmpas ieithyddol
Saesneg a ChymraegTrwyddedu data
Gallwch ddefnyddio ac ailddefnyddio'r data hwn am ddim mewn unrhyw fformat neu gyfrwng, dan delerau'r Drwydded Llywodraeth Agored - gweler http://www.nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence-cymraegDisgrifiad cyffredinol
Mae hyn yn dangos nifer (cyfrif pennau a chyfwerth ag amser llawn) y meddygon teulu cwbl gymwysedig a gyflogir mewn practisau cyffredinol yn ôl ethnigrwydd, ar ddyddiad pob ciplun chwarterol ers 30-Meh-21.Casgliad data a dull cyfrifo
Meddygon teulu cwbl gymwysedig: mae hyn yn cynnwys partneriaid, darparwyr, meddygon teulu cyflogedig, meddygon teulu wrth gefn a meddygon teulu locwm yn unig.Caiff staff locwm eu cyfrif os oedd unrhyw waith wedi'i gofnodi drwy Locum Hub Wales ar unrhyw adeg yn ystod y chwarter a ddaeth i ben ar ddyddiad y ciplun yn unig. Ar gyfer yr holl fathau eraill o feddygon teulu, mae'n seiliedig ar cyfrif pennau a CALI ar ddyddiad y ciplun.
Mae'r rhestr ganlynol yn dangos yr ethnigrwydd unigol a gynhwysir yn y grwpiau ethnig a gyflwynir yn y datganiad hwn:
Gwyn: Gwyn Prydeinig
Gwyn: Gwyn Gwyddelig
Gwyn: Gwyn - Unrhyw gefndir Gwyn arall
Asiaidd neu Asiaidd Prydeinig: Asiaidd neu Asiaidd Prydeinig - Indiaidd
Asiaidd neu Asiaidd Prydeinig: Asiaidd neu Asiaidd Prydeinig - Pacistanaidd
Asiaidd neu Asiaidd Prydeinig: Asiaidd neu Asiaidd Prydeinig - Bangladeshaidd
Asiaidd neu Asiaidd Prydeinig: Asiaidd neu Asiaidd Prydeinig - Unrhyw gefndir Asiaidd arall
Asiaidd neu Asiaidd Prydeinig: Malaysiaidd
Asiaidd neu Asiaidd Prydeinig: Tsieineaidd
Du neu Ddu Prydeinig: Du neu Ddu Prydeinig - Affricanaidd
Du neu Ddu Prydeinig: Du neu Ddu Prydeinig - Caribïaidd
Du neu Ddu Prydeinig: Cefndir Du Arall
Du neu Ddu Prydeinig: Nigeraidd Du
Grwp Ethnig Cymysg / Lluosog: Cymysg - Gwyn a Du Affricanaidd
Grwp Ethnig Cymysg / Lluosog: Cymysg Gwyn / Asiaidd
Grwp Ethnig Cymysg / Lluosog: Cymysg Gwyn / Du Caribïaidd
Grwp Ethnig Cymysg / Lluosog: Cefndir cymysg arall
Grwpiau Ethnig Eraill: Grwp ethnig arall
Heb ei nodi/Anhysbys: Ddim yn hysbys
Heb ei nodi/Anhysbys: Heb ei nodi
Heb ei nodi/Anhysbys: Wedi gwrthod
Mae’r System Adrodd Genedlaethol ar gyfer Gweithlu Cymru yn darparu adnodd diogel ar-lein sydd wedi ei ddatblygu i gasglu gwybodaeth am staff sy’n gweithio mewn practisau cyffredinol yng Nghymru.
Yn gyffredinol, mae’r system yn gweithio drwy fod rheolwyr practisau’n bwydo manylion eu staff i mewn i’r system, gan gadarnhau’r manylion bob chwarter. Mae’r data wedyn yn cael eu tynnu ar ddiwrnod olaf bob chwarter (Mawrth, Mehefin, Medi, Rhagfyr). Mae Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru hefyd yn cwblhau dilysiadau er mwyn gwella ansawdd y data cyn i’r data dienw gael eu rhannu gydag ystadegwyr yn Llywodraeth Cymru, i’w dilysu ymhellach a chynhyrchu’r ystadegau swyddogol hen.
Mae data o ffynonellau eraill yn ategu’r data a geir gan y System Adrodd Genedlaethol ar gyfer Gweithlu Cymru, ac mae’r ffynonellau hynny’n cynnwys:
• Locum Hub Wales: Nifer y staff locwm oedd gweithio mewn practisau yn ystod y chwarter hyd at ddyddiad y ciplun.
Amlder cyhoeddi
BlynyddolCyfnodau data dan sylw
Mae’r data’n cael eu dangos fel y maent yn ymddangos ar 31 Mawrth, 30 Mehefin, 30 Medi, a 31 Rhagfyr.Defnyddwyr, defnydd a chyd-destun
Cewch gael yr wybodaeth hon yn y cyhoeddiad ystadegol perthnasol, yn ôl y ddolen a ddarperir.Talgrynnu wedi'u ddefnyddio
DimAnsawdd ystadegol
Noder nad yw'n ofynnol i staff locwm nodi eu hethnigrwydd wrth gofnodi gwaith yn Locum Hub Wales, ac felly y rhain sydd i’w cyfrif am gyfran fawr o feddygon teulu cwbl gymwysedig nad oes gwybodaeth hysbys ar eu cyfer.Ni wnaeth nifer o bractisau gadarnhau bod data System Adrodd Genedlaethol y Gweithlu yn gyfredol yn y chwarter hyd at ddyddiad pob ciplun. Gweler y datganiad ystadegol am ragor o wybodaeth.