Neidio i'r cynnwys
Darparwr data: Llywodraeth Cymru Meddygon teulu cwbl gymwysedig (cyfrif pennau a chyfwerth ag amser llawn) yn ôl rhyw a bwrdd iechyd lleol
None
Dyddiad[Hidlwyd]
Cod ardal[Hidlo]
Mesur[Hidlwyd]
Measure1
[Lleihau]Rhyw[Hidlo]
-
Rhyw 1
Bwrdd iechyd lleol[Hidlo]
[Lleihau]PoblCliciwch yma i ddidoliPobl
Cliciwch yma i ddidoliDynionCliciwch yma i ddidoliMerchedCliciwch yma i ddidoliArall/anhysbysCliciwch yma i ddidoliHeb ei nodi
Cymru9631,300182.Nid yw\'r eitem ddata yn berthnasol2,445
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr20826034.Nid yw\'r eitem ddata yn berthnasol502
Bwrdd Iechyd Addysgu Powys456020.Nid yw\'r eitem ddata yn berthnasol125
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda16114923.Nid yw\'r eitem ddata yn berthnasol333
Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe14016229.Nid yw\'r eitem ddata yn berthnasol331
Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg15921546.Nid yw\'r eitem ddata yn berthnasol420
Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan17628954.Nid yw\'r eitem ddata yn berthnasol519
Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro17624944.Nid yw\'r eitem ddata yn berthnasol469

Metadata

Teitl

Meddygon teulu cwbl gymwysedig (cyfrif pennau a chyfwerth ag amser llawn) yn ôl rhyw a bwrdd iechyd lleol

Diweddariad diwethaf

29 Chwefror 2024 29 Chwefror 2024

Diweddariad nesaf

I gael ei gadarnhau

Sefydliad cyhoeddi

Llywodraeth Cymru

Ffynhonnell 1

System Adrodd Genedlaethol ar gyfer Gweithlu Cymru

Cyswllt ebost

ystadegau.iechyd@llyw.cymru

Lefel isaf o ddadelfennu daearyddol

Byrddau iechyd lleol

Cwmpas daearyddol

Cymru

Cwmpas ieithyddol

Saesneg a Chymraeg

Trwyddedu data

Gallwch ddefnyddio ac ailddefnyddio'r data hwn am ddim mewn unrhyw fformat neu gyfrwng, dan delerau'r Drwydded Llywodraeth Agored - gweler http://www.nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence-cymraeg

Allweddeiriau

Ymarferydd cyffredinol, practisau cyffredinol

Disgrifiad cyffredinol

Mae hyn yn dangos nifer (cyfrif pennau) a swm cyfwerth ag amser llawn y meddygon teulu cwbl gymwysedig a gyflogir mewn practisau cyffredinol yn ôl rhyw a bwrdd iechyd lleol, ar ddyddiad pob ciplun chwarterol ers 30-Meh-21.

Casgliad data a dull cyfrifo

Meddygon teulu cwbl gymwysedig: mae hyn yn cynnwys partneriaid, darparwyr, meddygon teulu cyflogedig, meddygon teulu wrth gefn a meddygon teulu locwm yn unig.

Mae'r ffigurau ar gyfer cyfrif pennau yn gyfrifiadau unigryw. Felly mae unigolyn sydd â mwy nag un contract yn yr un bwrdd iechyd lleol yn cael ei gyfrif unwaith yn y bwrdd hwnnw. Fodd bynnag, byddai unigolyn sydd â chontract mewn mwy nag un bwrdd iechyd lleol yn ymddangos unwaith yn erbyn pob bwrdd. Felly ni ellir cyfrifo’r ffigurau yn ôl bwrdd iechyd lleol.

Mae'r ffigurau ar gyfer CALl yn cyfrif tuag at y data ynghylch rhyw a’r bwrdd iechyd y mae pob contract yn perthyn iddo. Felly bydd y ffigurau CALl ar gyfer pob bwrdd iechyd gyda’i gilydd yn cyfateb i ffigur Cymru a bydd y swm CALl ar gyfer dynion, menywod, arall/anhysbys a heb ei nodi yn cyfateb i'r swm CALl ar gyfer 'personau', yn amodol ar wahaniaethau talgrynnu bach.

Caiff staff locwm eu cyfrif os oedd unrhyw waith wedi'i gofnodi drwy Locum Hub Wales ar unrhyw adeg yn ystod y chwarter a ddaeth i ben ar ddyddiad y ciplun yn unig. Ar gyfer yr holl fathau eraill o feddygon teulu, mae'n seiliedig ar cyfrif pennau a CALI ar ddyddiad y ciplun.

Mae’r System Adrodd Genedlaethol ar gyfer Gweithlu Cymru yn darparu adnodd diogel ar-lein sydd wedi ei ddatblygu i gasglu gwybodaeth am staff sy’n gweithio mewn practisau cyffredinol yng Nghymru.

Yn gyffredinol, mae’r system yn gweithio drwy fod rheolwyr practisau’n bwydo manylion eu staff i mewn i’r system, gan gadarnhau’r manylion bob chwarter. Mae’r data wedyn yn cael eu tynnu ar ddiwrnod olaf bob chwarter (Mawrth, Mehefin, Medi, Rhagfyr). Mae Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru hefyd yn cwblhau dilysiadau er mwyn gwella ansawdd y data cyn i’r data dienw gael eu rhannu gydag ystadegwyr yn Llywodraeth Cymru, i’w dilysu ymhellach a chynhyrchu’r ystadegau swyddogol hen.

Mae data o ffynonellau eraill yn ategu’r data a geir gan y System Adrodd Genedlaethol ar gyfer Gweithlu Cymru, ac mae’r ffynonellau hynny’n cynnwys:

• Locum Hub Wales: Nifer y staff locwm oedd gweithio mewn practisau yn ystod y chwarter hyd at ddyddiad y ciplun.

Amlder cyhoeddi

Blynyddol

Cyfnodau data dan sylw

Mae’r data’n cael eu dangos fel y maent yn ymddangos ar 31 Mawrth, 30 Mehefin, 30 Medi, a 31 Rhagfyr.

Defnyddwyr, defnydd a chyd-destun

Cewch gael yr wybodaeth hon yn y cyhoeddiad ystadegol perthnasol, yn ôl y ddolen a ddarperir.

Talgrynnu wedi'u ddefnyddio

Data CALl wedi’u talgrynnu i 1 lle degol.

Ansawdd ystadegol

Noder nad yw'n ofynnol i staff locwm nodi eu rhyw wrth gofnodi gwaith yn Locum Hub Wales, ac felly y rhain sydd i’w cyfrif am gyfran fawr o feddygon teulu cwbl gymwysedig nad oes gwybodaeth hysbys ar eu cyfer.

Ni wnaeth nifer o bractisau gadarnhau bod data System Adrodd Genedlaethol y Gweithlu yn gyfredol yn y chwarter hyd at ddyddiad pob ciplun. Gweler y datganiad ystadegol am ragor o wybodaeth.

Efallai na fydd y cyfanswm bob amser yn hafal i swm y categorïau rhyw oherwydd gall person gael ei gofnodi yn erbyn sawl categori.