Nifer y staff eraill yn y practis a gyflogir mewn practisau cyffredinol, yn ôl chategori staff a’r bwrdd iechyd lleol
None
|
Metadata
- Gwybodaeth cryno
- Gwybodaeth lefel uchel
- Allweddeiriau
- Dolenni'r we
- Gwybodaeth ansawdd ystadegol
- Data agored
Disgrifiad cyffredinol
Mae hyn yn dangos nifer y (cyfrif pennau) a chyfwerth ag amser llawn staff eraill a gyflogir mewn practisau cyffredinol yn ôl chategori staff a’r bwrdd iechyd lleol, ar ddyddiad pob cipolwg chwarterol.Casgliad data a dull cyfrifo
Mae'r ffigurau ar gyfer cyfrif pennau yn gyfrifiadau unigryw. Felly mae unigolyn sy’n cael ei gyflogi nifer o weithiau mewn un bwrdd iechyd lleol neu chategori staff yn cael ei gyfrif unwaith yn unig (ond os bydd unigolyn hefyd yn cael ei gyflogi mewn bwrdd iechyd lleol neu chategori staff arall, bydd yn cael ei gyfrif unwaith ym mhob bwrdd neu chategori staff). Felly, ni ellir cyfrif ffigurau yn ôl bwrdd iechyd lleol na chategori staff.Mae'r ffigurau ar gyfer CALl yn cyfrif tuag at y grwp staff a'r bwrdd iechyd y mae pob contract yn perthyn iddo. Felly bydd y ffigurau CALl ar gyfer pob bwrdd iechyd gyda’i gilydd yn cyfateb i ffigur Cymru a bydd swm y staff cyfwerth ag amser llawn ar gyfer nyrsys, staff gofal uniongyrchol i gleifion a staff gweinyddol yn cyfateb i’r swm CALl ar gyfer 'staff eraill y practisau’, yn amodol ar wahaniaethau talgrynnu bach.
Mae’r System Adrodd Genedlaethol ar gyfer Gweithlu Cymru yn darparu adnodd diogel ar-lein sydd wedi ei ddatblygu i gasglu gwybodaeth am staff sy’n gweithio mewn practisau cyffredinol yng Nghymru.
Yn gyffredinol, mae’r system yn gweithio drwy fod rheolwyr practisau’n bwydo manylion eu staff i mewn i’r system, gan gadarnhau’r manylion bob chwarter. Mae’r data wedyn yn cael eu tynnu ar ddiwrnod olaf bob chwarter (Mawrth, Mehefin, Medi, Rhagfyr). Mae Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru hefyd yn cwblhau dilysiadau er mwyn gwella ansawdd y data cyn i’r data dienw gael eu rhannu gydag ystadegwyr yn Llywodraeth Cymru, i’w dilysu ymhellach a chynhyrchu’r ystadegau swyddogol hen.
Amlder cyhoeddi
ChwarterolCyfnodau data dan sylw
Mae’r data’n cael eu dangos fel y maent yn ymddangos ar 31 Mawrth, 30 Mehefin, 30 Medi, a 31 Rhagfyr o 2020.Talgrynnu wedi'u ddefnyddio
Data CALl wedi’u talgrynnu i 1 lle degol.Gwybodaeth am ddiwygiadau
Nid yw data cyhoeddedig yn cael eu diwygio fel mater o drefn a gall unrhyw newidiadau ymylol o chwarter i chwarter fod o ganlyniad i welliannau yn ansawdd y data.Teitl
Nifer y staff eraill yn y practis a gyflogir mewn practisau cyffredinol, yn ôl chategori staff a’r bwrdd iechyd lleolDiweddariad diwethaf
24 Hydref 2024Diweddariad nesaf
I gael ei gadarnhauSefydliad cyhoeddi
Llywodraeth CymruFfynhonnell 1
System Adrodd Genedlaethol ar gyfer Gweithlu CymruCyswllt ebost
ystadegau.iechyd@llyw.cymruLefel isaf o ddadelfennu daearyddol
Byrddau iechyd lleolCwmpas daearyddol
CymruCwmpas ieithyddol
Saesneg a ChymraegTrwyddedu data
Gallwch ddefnyddio ac ailddefnyddio'r data hwn am ddim mewn unrhyw fformat neu gyfrwng, dan delerau'r Drwydded Llywodraeth Agored - gweler http://www.nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence-cymraegAllweddeiriau
Ymarferydd cyffredinol, staff eraill yn y practis, practisau cyffredinolAnsawdd ystadegol
Data mis Mawrth 2020: March 2020 data: ni wnaeth 2 allan o’r 404 o bractisau gweithgar ddarparu data, neu ni wnaethant gadarnhau fod eu data yn y System Adrodd Genedlaethol ar gyfer Gweithlu Cymru yn gyfredol. Fe wnaeth y practisau hyn ddarparu data cychwynnol drwy daenlen Excel ar ddiwedd 2019, a defnyddiwyd y data hynny i roi manylion ymlaen llaw yn y System Adrodd Genedlaethol ar gyfer Gweithlu Cymru, cyn i’r system fynd yn fyw ar gyfer practisau. Felly, y data a ddarparwyd yn y daenlen gychwynnol yw’r data a ddefnyddiwyd ar gyfer y ddau bractis hyn. Nodwch fod y ddau bractis wedi adrodd nad oedd unrhyw ymarferwyr cyffredinol yn y practis, ond bod staff eraill yn gweithio yn y practisau hynny.Data Mehefin 2020: Ni chadarnhaodd 46 o bractisau, o’r 402 o bractisau gweithredol sydd â staff, fod eu data’n gyfredol yn y chwarter hyd at fis Mehefin 2020 (Fe wnaethant gadarnhau hynny ddiwethaf rhwng mis Ionawr a mis Mawrth 2020). Ni wnaeth 50 o bractisau ychwanegol addasu eu data yn y chwarter hyd at fis Mehefin 2020 (er iddynt edrych ar ddata yn y chwarter hwnnw). Fe wnaeth 3 o bractisau ddiweddaru eu data yn fuan ar ôl dyddiad y cipolwg (ar 2 Gorffennaf).
Data Medi 2020: Ni chadarnhaodd 6 o bractisau, o’r 399 o bractisau gweithredol, fod eu data’n gyfredol yn y chwarter hyd at fis Medi 2020 (Fe wnaethant gadarnhau hynny ddiwethaf rhwng mis Ebrill a mis Mehefin 2020).
Data Rhagfyr 2020: Ni chadarnhaodd 36 o bractisau, o’r 396 o bractisau gweithredol sydd â staff, fod eu data’n gyfredol yn y chwarter hyd at fis Rhagfyr 2020.
Data Mawrth 2021: Ni chadarnhaodd 9 o bractisau, o’r 396 o bractisau gweithredol, fod eu data’n gyfredol yn y chwarter hyd at fis Mawrth 2021.
Data Mehefin 2021: Cadarnhaodd yr holl bractisau gweithredol fod eu data'n gyfredol yn y chwarter hyd at fis Mehefin 2021.
Data Medi 2021: Ni chadarnhaodd 11 o bractisau, o’r 391 o bractisau gweithredol, fod eu data’n gyfredol yn y chwarter hyd at fis Medi 2021.
Data Rhagfyr 2021: Ni chadarnhaodd 30 o bractisau, o’r 390 o bractisau gweithredol, fod eu data’n gyfredol yn y chwarter hyd at fis Rhagfyr 2021.
Data Mawrth 2022: Ni chadarnhaodd 6 o bractisau, o’r 388 o bractisau gweithredol, fod eu data’n gyfredol yn y chwarter hyd at fis Mawrth 2022.
Data Mehefin 2022: Ni chadarnhaodd 11 o bractisau, o’r 386 o bractisau gweithredol, fod eu data’n gyfredol yn y chwarter hyd at fis Mehefin 2022.
Data Medi 2022: Ni chadarnhaodd 16 o bractisau, o’r 386 o bractisau gweithredol, fod eu data’n gyfredol yn y chwarter hyd at fis Medi 2022.
Data Rhagfyr 2022: Ni chadarnhaodd 10 o bractisau, o’r 383 o bractisau gweithredol, fod eu data’n gyfredol yn y chwarter hyd at fis Rhagfyr 2022.
Data Mehefin 2023: Ni chadarnhaodd 20 o bractisau, o’r 379 o bractisau gweithredol, fod eu data’n gyfredol yn y chwarter hyd at fis Mehefin 2023.
Data Medi 2023: Ni chadarnhaodd 0 o bractisau, o’r 378 o bractisau gweithredol, fod eu data’n gyfredol yn y chwarter hyd at fis Medi 2023.
Data Rhagfyr 2023: Ni chadarnhaodd 0 o bractisau, o’r 374 o bractisau gweithredol, fod eu data’n gyfredol yn y chwarter hyd at fis Rhagfyr 2023.
Data Mehefin 2024: Ni chadarnhaodd 0 o bractisau, o’r 372 o bractisau gweithredol, fod eu data’n gyfredol yn y chwarter hyd at fis Mehefin 2024.