
None
|
Metadata
- Gwybodaeth ansawdd ystadegol
- Allweddeiriau
- Gwybodaeth lefel uchel
- Gwybodaeth cryno
- Dolenni'r we
- Data agored
Ansawdd ystadegol
Dim ond o fis Mawrth 2020 ymlaen y mae'r dadansoddiad o faint practisau ar gael yn unol â'r dyddiadau lle rydym wedi cael data gan System Genedlaethol Cymru ar gyfer Adrodd ar y Gweithlu (WNWRS).Nid yw'r cyfrif pennau o staff locwm ar gael cyn mis Mehefin 2021, ac felly nid yw'n rhan o gyfanswm y cyfrif pennau a ddefnyddir i bennu maint practisau yn y data 'pob aelod o staff gan gynnwys meddygon teulu locwm' cyn y dyddiad hwn. Ar gyfer cymariaethau ar draws cyfnodau cyn mis Mehefin 2021 ac ar ôl hynny, rydym yn argymell defnyddio'r data 'pob aelod o staff ac eithrio meddygon teulu locwm', gan eu bod yn eithrio staff locwm ar ddyddiad pob ciplun.
Hyd at fis Mawrth 2019, roedd practisau cyffredinol ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn cael eu categoreiddio fel rhan o Fwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg. O fis Mehefin 2019 ymlaen, maent wedi cael eu categoreiddio fel rhan o Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg. O ganlyniad, mae newid sylweddol yn y data.