Neidio i'r cynnwys
Darparwr data: Llywodraeth Cymru Staff eraill y practisau (cyfrif pennau a chyfwerth ag amser llawn) yn ôl ethnigrwydd
None
Dyddiad[Hidlwyd]
Mesur[Hidlo]
Measure1
Staff[Hidlo]
[Lleihau]Ethnigrwydd[Hidlo]
-
-
Ethnigrwydd 1
Cliciwch yma i ddidoli NyrsysCliciwch yma i ddidoli Yn darparu gofal uniongyrchol i gleifionCliciwch yma i ddidoli Gweinyddiaeth/nid yw’n glinigol
[Lleihau]Pobl
PoblGwyn
Asiaidd neu Asiaidd Prydeinig
Du neu Ddu Prydeinig
Grwpiau ethnig cymysg/lluosog
Grwpiau ethnig eraill
Gwrthod
Anhysbys
Heb ei nodi

Metadata

Disgrifiad cyffredinol

Mae hyn yn dangos nifer y nyrsys (cyfrif pennau a chyfwerth ag amser llawn), y staff gofal uniongyrchol i gleifion a’r staff gweinyddol/anghlinigol a gyflogir mewn practisau cyffredinol yn ôl ethnigrwydd, ar ddyddiadau pob ciplun chwarterol ers 31-Rhag-20.

Casgliad data a dull cyfrifo

Mae'r ffigurau ar gyfer cyfrif pennau yn gyfrifiadau unigryw. Felly mae unigolyn sy’n cael ei gyflogi nifer o weithiau mewn un bwrdd iechyd lleol neu chategori staff yn cael ei gyfrif unwaith yn unig (ond os bydd unigolyn hefyd yn cael ei gyflogi mewn bwrdd iechyd lleol neu chategori staff arall, bydd yn cael ei gyfrif unwaith ym mhob bwrdd neu chategori staff). Felly, ni ellir cyfrif ffigurau yn ôl bwrdd iechyd lleol na chategori staff.

Mae'r rhestr ganlynol yn dangos yr ethnigrwydd unigol a gynhwysir yn y grwpiau ethnig a gyflwynir yn y datganiad hwn:
Gwyn: Gwyn Prydeinig
Gwyn: Gwyn Gwyddelig
Gwyn: Gwyn - Unrhyw gefndir Gwyn arall
Asiaidd neu Asiaidd Prydeinig: Asiaidd neu Asiaidd Prydeinig - Indiaidd
Asiaidd neu Asiaidd Prydeinig: Asiaidd neu Asiaidd Prydeinig - Pacistanaidd
Asiaidd neu Asiaidd Prydeinig: Asiaidd neu Asiaidd Prydeinig - Bangladeshaidd
Asiaidd neu Asiaidd Prydeinig: Asiaidd neu Asiaidd Prydeinig - Unrhyw gefndir Asiaidd arall
Asiaidd neu Asiaidd Prydeinig: Malaysiaidd
Asiaidd neu Asiaidd Prydeinig: Tsieineaidd
Du neu Ddu Prydeinig: Du neu Ddu Prydeinig - Affricanaidd
Du neu Ddu Prydeinig: Du neu Ddu Prydeinig - Caribïaidd
Du neu Ddu Prydeinig: Cefndir Du Arall
Du neu Ddu Prydeinig: Nigeraidd Du
Grwp Ethnig Cymysg / Lluosog: Cymysg - Gwyn a Du Affricanaidd
Grwp Ethnig Cymysg / Lluosog: Cymysg Gwyn / Asiaidd
Grwp Ethnig Cymysg / Lluosog: Cymysg Gwyn / Du Caribïaidd
Grwp Ethnig Cymysg / Lluosog: Cefndir cymysg arall
Grwpiau Ethnig Eraill: Grwp ethnig arall
Heb ei nodi/Anhysbys: Ddim yn hysbys
Heb ei nodi/Anhysbys: Heb ei nodi
Heb ei nodi/Anhysbys: Wedi gwrthod

Mae’r System Adrodd Genedlaethol ar gyfer Gweithlu Cymru yn darparu adnodd diogel ar-lein sydd wedi ei ddatblygu i gasglu gwybodaeth am staff sy’n gweithio mewn practisau cyffredinol yng Nghymru.

Yn gyffredinol, mae’r system yn gweithio drwy fod rheolwyr practisau’n bwydo manylion eu staff i mewn i’r system, gan gadarnhau’r manylion bob chwarter. Mae’r data wedyn yn cael eu tynnu ar ddiwrnod olaf bob chwarter (Mawrth, Mehefin, Medi, Rhagfyr). Mae Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru hefyd yn cwblhau dilysiadau er mwyn gwella ansawdd y data cyn i’r data dienw gael eu rhannu gydag ystadegwyr yn Llywodraeth Cymru, i’w dilysu ymhellach a chynhyrchu’r ystadegau swyddogol hen.


Amlder cyhoeddi

Blynyddol

Cyfnodau data dan sylw

Mae’r data’n cael eu dangos fel y maent yn ymddangos ar 31 Mawrth, 30 Mehefin, 30 Medi, a 31 Rhagfyr.

Defnyddwyr, defnydd a chyd-destun

Cewch gael yr wybodaeth hon yn y cyhoeddiad ystadegol perthnasol, yn ôl y ddolen a ddarperir.

Teitl

Staff eraill y practisau (cyfrif pennau a chyfwerth ag amser llawn) yn ôl ethnigrwydd

Diweddariad diwethaf

29 Chwefror 2024 29 Chwefror 2024

Diweddariad nesaf

I gael ei gadarnhau

Sefydliad cyhoeddi

Llywodraeth Cymru

Ffynhonnell 1

System Adrodd Genedlaethol ar gyfer Gweithlu Cymru

Cyswllt ebost

ystadegau.iechyd@llyw.cymru

Cwmpas daearyddol

Cymru

Cwmpas ieithyddol

Saesneg a Chymraeg

Trwyddedu data

Gallwch ddefnyddio ac ailddefnyddio'r data hwn am ddim mewn unrhyw fformat neu gyfrwng, dan delerau'r Drwydded Llywodraeth Agored - gweler http://www.nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence-cymraeg

Ansawdd ystadegol

Ni wnaeth nifer o bractisau gadarnhau bod data System Adrodd Genedlaethol y Gweithlu yn gyfredol yn y chwarter hyd at ddyddiad pob ciplun. Gweler y datganiad ystadegol am ragor o wybodaeth.