

Wedi ei archifo (Saesneg yn unig) – Nid yw’n cael ei ddiweddaru mwyach.
None
|
Metadata
- Gwybodaeth lefel uchel
- Gwybodaeth cryno
- Gwybodaeth ansawdd ystadegol
- Allweddeiriau
- Dolenni'r we
- Data agored
Teitl
Cleifion sydd wedi cofrestru â phractis meddyg teuluDiweddariad diwethaf
28 Gorffennaf 2022Diweddariad nesaf
I'w gadarnhauSefydliad cyhoeddi
Llywodraeth CymruFfynhonnell 1
Gwasanaethau Contractwyr, Partneriaeth Cydwasanaethau GIG CymruCyswllt ebost
ystadegau.iechyd@llyw.cymruDynodiad
Gwybodaeth reolaetholCwmpas daearyddol
CymruCwmpas ieithyddol
Saesneg a ChymraegTrwyddedu data
Gallwch ddefnyddio ac ailddefnyddio'r data hwn am ddim mewn unrhyw fformat neu gyfrwng, dan delerau'r Drwydded Llywodraeth Agored - gweler http://www.nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence-cymraegDisgrifiad cyffredinol
Mae’r wybodaeth a geir yma yn dangos nifer y cleifion sydd wedi cofrestru â phob practis meddyg teulu yng Nghymru yn ôl rhyw, band oedran 5 mlynedd, a phractis meddyg teulu. Mae data ar gael hefyd ar gyfer clystyrau gofal sylfaenol a byrddau iechyd lleol.Casgliad data a dull cyfrifo
Mae'r wybodaeth a gyflwynir yma yn cael ei darparu i Lywodraeth Cymru gan Bartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru.Nid yw’r data ar gyfer cleifion â rhywedd 'amhenodol' wedi'i gynnwys yn y cyfansymiau.
Sylwer bod y ciwb StatsCymru hwn yn cynnwys rhai practisau nad ydynt yn dod o dan y contract Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol (GMS).
Amlder cyhoeddi
ChwarterolCyfnodau data dan sylw
Dangosir data ar gyfer 2016 ymlaen. Mae'r ffigurau blynyddol yn cynrychioli'r sefyllfa ar 1 Hydref bob blwyddyn. Mae'r data chwarterol yn cael eu hechdynnu tua chanol y mis bob chwarter.Defnyddwyr, defnydd a chyd-destun
Gallwch chi weld y wybodaeth hon yn y cyhoeddiad ystadegol perthnasol trwy ddilyn y ddolen we.Talgrynnu wedi'u ddefnyddio
Dim.Ansawdd ystadegol
Mae’r rhain wedi’u tynnu fel ciplun o’r sefyllfa ar y pryd yn y system Taliadau Meddygon Teulu (Open Exeter) ac maent wedi’u seilio ar y prif bractis y mae’r meddyg teulu yn gweithio ynddo ar adeg pob ciplun. Felly mae’n bosibl y bydd rhai cleifion yn symud practis os yw meddyg teulu yn gweithio mwy o oriau mewn un practis nag mewn un arall mewn ciplun penodol. Mae’r data hyn yn wahanol i’r data yn y taenlenni sy’n cyd-fynd â’r prif ddatganiad ystadegol. Un gwahaniaeth yw bod y data’n cael eu cynhyrchu ar ddiwrnod gwahanol; ni ddylai hyn wneud llawer o wahaniaeth. Y prif wahaniaeth yw’r dyraniad cleifion i bractisau, sy’n golygu rhywfaint o amrywio.Ambell waith gall practis symud i glwstwr gwahanol. Yn yr achos hwn, mae’r practis yn cael ei ailddyrannu yn erbyn ei glwstwr newydd ar gyfer pob cyfnod amser yn nata StatsCymru, gan gynnwys cyfnodau blaenorol cyn i’r symudiad ddigwydd ac ni fyddai bellach yn ymddangos yn erbyn y clwstwr y symudodd ohono. Felly ni fydd cyfansoddiad y clystyrau hyn yn gywir ar gyfer y cyfnodau amser cyn i'r symudiad ddigwydd. Mae pob clwstwr y mae’r mater hwn yn effeithio arno wedi’i nodi gydag ‘i’ yn nata StatsCymru. Nid yw clwstwr Gogledd Casnewydd bellach yn cael ei ddangos yn y data oherwydd iddo gau ym mis Mawrth 2020.