Llwybrau cleifion yn aros yn hwy nag un neu ddwy flynedd, a llwybrau sy’n aros mwy na blwyddyn am apwyntiad claf allanol cyntaf fesul bwrdd iechyd lleol, swyddogaeth triniaeth/arbenigedd ac oedran, Medi 2011 ymlaen
Cynllun adfer COVID-19, uchelgeisiau ar gyfer amseroedd aros rhwng atgyfeirio a thriniaeth. Ar 26 Ebrill 2022 cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei rhaglen i drawsnewid a moderneiddio gofal a gynlluniwyd a lleihau rhestrau aros yng Nghymru. Mae'r cynllun hwn yn nodi nifer o uchelgeisiau allweddol i leihau amseroedd aros i bobl yng Nghymru a chyhoeddir yma’r data perthnasol ar gyfer yr amseroedd rhwng atgyfeirio a thriniaeth.
Uchelgeisiau allweddol y cynllun adfer gofal a gynlluniwyd o ran yr amseroedd aros rhwng atgyfeirio a thriniaeth, yn ôl dyddiad, swyddogaeth y driniaeth, uchelgais a bwrdd iechyd lleol
Ar 26 Ebrill 2022 cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei rhaglen i drawsnewid a moderneiddio gofal a gynlluniwyd a lleihau rhestrau aros yng Nghymru. Mae'r cynllun hwn yn nodi nifer o uchelgeisiau allweddol i leihau amseroedd aros i bobl yng Nghymru a chyhoeddir yma’r data perthnasol ar gyfer yr amseroedd rhwng atgyfeirio a thriniaeth.
Casgliad data a dull cyfrifo
Mae’r data a gyflwynir yn defnyddio gwybodaeth reoli sy’n cael ei dal gan Fyrddau Iechyd Lleol mewn perthynas â rheoli cleifion sydd wedi cael eu hatgyfeirio ar gyfer triniaeth mewn ysbyty. Darperir canllawiau i'r GIG yng Nghymru ynghylch sut dylid rheoli’r cleifion hynny a sut mae mesur ac adrodd ar y data perthnasol. Mae data’n cael eu cyflwyno’n fisol gan y Byrddau Iechyd Lleol drwy wasanaeth cyfnewid Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru. Mae’r broses casglu data wedi bod yn ei lle ers mis Ebrill 2007
I weld y wybodaeth hon, dilynwch y ddolen i’r cyhoeddiad ystadegol perthnasol.
Gwybodaeth am ddiwygiadau
Mae’n bosibl y bydd y data ar gyfer y 12 mis cyn y dyddiad cyhoeddi yn cael ei adolygu. Nodir unrhyw newidiadau mawr neu arwyddocaol i'r data yn y 'Nodiadau ar gyhoeddiad y mis hwn' yn y datganiad ystadegol.
Ansawdd ystadegol
Mae’r llwybr rhwng atgyfeirio a thriniaeth (RTT) yn cynnwys yr amser a arhoswyd o gael atgyfeiriad i fynd i’r ysbyty i gael triniaeth ac mae’n cynnwys yr amser a dreulir yn aros am unrhyw apwyntiadau, profion, sganiau neu driniaethau eraill yn yr ysbyty sydd eu hangen cyn cael triniaeth.
Mae llwybr claf yn agor, ac mae amser aros yn dechrau, pan fydd ysbyty’n derbyn atgyfeiriad. Gan amlaf, caiff atgyfeiriadau eu cyflwyno gan feddygon teulu ond gallant hefyd ddod gan weithwyr proffesiynol eraill ym maes gofal iechyd. Mae’r prif fesur gweithgarwch ar gyfer amser rhwng atgyfeirio a thriniaeth yn cyfrif o nifer y llwybrau cleifion sydd ar agor ar ddiwedd pob mis. Gellir meddwl am hyn fel ‘y rhestr aros’.
Mae llwybr claf yn cael ei gau os bydd y claf naill ai’n dechrau triniaeth, neu os nad oes angen triniaeth ysbyty ar ôl ymgynghori ag arbenigwr ysbyty. Gallai hyn gynnwys:
claf yn cael ei dderbyn i’r ysbyty am lawdriniaeth neu driniaeth dechrau triniaeth ond nad oes angen aros yn yr ysbyty (er enghraifft, meddyginiaeth neu ffisiotherapi) dechrau gosod dyfais feddygol megis bresys coes dechrau cyfnod o amser y cytunwyd arno i fonitro cyflwr y claf i asesu’r angen am driniaeth bellach Efallai y bydd cleifion ag anghenion cymhleth yn cael eu cyfeirio am fwy nag un math o driniaeth, felly efallai y bydd nifer o lwybrau’n cael eu hagor a byddant yn ymddangos yn y set ddata fwy nag unwaith. Mae hyn yn golygu y gellir cyfrif llwybrau gwahanol i'r un claf yn y cyfrifiadau ar gyfer y ddau darged.
Allweddeiriau
RTT Cynllun Adfer Gofal a Gynlluniwyd Amseroedd aros Llwybrau