Canran y llwybrau cleifion sy'n aros i ddechrau triniaeth o fewn y targed amser fesul mis a grwpiau o wythnosau, Ionawr 2018 ymlaen
Sylwch fod y data a gynhwysir yn y set ddata hwn yn cwmpasu cyfnod yn ystod pandemig coronafeirws (COVID-19), sydd wedi effeithio ar y ffordd y mae rhai gwasanaethau'r GIG yn cael eu cynnig a dewisiadau pobl o ran gwasanaethau iechyd. Gweler y datganiad diweddaraf am ragor o wybodaeth. Mae'r data'n cwmpasu Ionawr 2018 ymlaen, mae data pellach o fis Medi 2011 ymlaen ar gael yn HLTH0180.
None
|
Metadata
- Gwybodaeth lefel uchel
- Gwybodaeth cryno
- Gwybodaeth ansawdd ystadegol
- Allweddeiriau
- Dolenni'r we
- Data agored
Teitl
Amseroedd aros cyfunol rhwng Atgyfeirio a Thriniaeth – llwybrau cleifion agored (o fis Ionawr 2018 ymlaen)Diweddariad diwethaf
21/11/2024Diweddariad nesaf
19/12/2024Sefydliad cyhoeddi
Llywodraeth CymruFfynhonnell 1
Atgyfeiriad am driniaeth (RTT), Iechyd a Gofal Digidol Cymru (IGDC)Cyswllt ebost
ystadegau.iechyd@llyw.cymruDynodiad
Ystadegau GwladolLefel isaf o ddadelfennu daearyddol
Byrddau iechyd lleolCwmpas daearyddol
CymruCwmpas ieithyddol
Saesneg a ChymraegTrwyddedu data
Gallwch ddefnyddio ac ailddefnyddio'r data hwn am ddim mewn unrhyw fformat neu gyfrwng, dan delerau'r Drwydded Llywodraeth Agored - gweler http://www.nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence-cymraegDisgrifiad cyffredinol
Mae’r tabl hwn yn darparu’r data presennol ar Amseroedd Aros rhwng Atgyfeirio a Thriniaeth ar gyfer llwybrau cleifion (llwybr agored) sy’n aros i ddechrau triniaeth yn ôl wythnosau wedi’u grwpio.Nid oes gan bwrdd iechyd Hywel Dda unrhyw gleifion sy'n aros am meddygaeth awdiolegol o Ionawr 2019 ymlaen, oherwydd gwnaeth y gwasanaeth symud i’r model cymunedol.
Casgliad data a dull cyfrifo
I weld y wybodaeth hon, dilynwch y ddolen i’r cyhoeddiad ystadegol perthnasol.O 1 Ebrill 2019, symudodd darpariaeth gwasanaeth iechyd trigolion awdurdod lleol Pen-y-bont ar Ogwr o Abertawe Bro Morgannwg i Gwm Taf. Am ragor o wybodaeth gweler y datganiad ar y cyd gan Fyrddau Iechyd Prifysgol Cwm Taf ac Abertawe Bro Morgannwg (gweler y dolenni gwe). Mae enwau'r byrddau iechyd wedi newid; mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf bellach yn Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, ac mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg bellach yn Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe. Mae dolen i ddatganiad gan y gweinidog iechyd a gwasanaethau cymdeithasol ar gael yn yr adran dolenni’r we.
Amlder cyhoeddi
MisolCyfnodau data dan sylw
Ionawr 2018 ymlaen, mae data o fis Medi 2011 ymlaen ar gael yn HLTH0180Defnyddwyr, defnydd a chyd-destun
I weld y wybodaeth hon, dilynwch y ddolen i’r cyhoeddiad ystadegol perthnasol.Gwybodaeth am ddiwygiadau
Adolygwyd y data ar gyfer cleifion a oedd yn aros rhwng mis Medi 2011 a mis Tachwedd 2018 gan eu bwrdd iechyd lleol ar 21/02/2019. Digwyddodd oherwydd gwall yn y cyfrifiadau a ddefnyddiwyd, a oedd yn dangos data yn seiliedig ar ddarparwr bwrdd iechyd a nid preswylfa claf.Ansawdd ystadegol
I weld y wybodaeth hon, dilynwch y ddolen i’r cyhoeddiad ystadegol perthnasol.Oherwydd pandemig COVID-19 (Coronafeirws) ataliwyd pob apwyntiad cleifion allanol nad oeddent yn rhai brys ym mis Mawrth 2020. Roedd hyn yn golygu y bu'n rhaid i'r rhan fwyaf o ysbytai leihau neu atal y gwasanaethau yr oeddent yn eu cynnig, ac fe arweiniodd hyn at gynnydd yn hyd yr aros a’r nifer o bobl ar y llwybrau cleifion ym mis Ebrill 2020 a'r misoedd dilynol.
Allweddeiriau
amseroedd aros; iechyd; triniaeth; ysbytyDolenni'r we
I weld y cyhoeddiad ystadegol diweddaraf, dilynwch y ddolen ganlynol:https://llyw.cymru/amseroedd-atgyfeiriad-am-driniaeth
https://cwmtaf.wales/welsh-government-announce-decision-on-bridgend-boundary-change/
https://llyw.cymru/datganiad-ysgrifenedig-ffin-y-byrddau-iechyd-ym-mhen-y-bont-ar-ogwr-cynllunio-cysylltiol