Llwybrau cleifion ar gau yn ôl y mis, y bwrdd iechyd lleol a'r wythnosau aros, Ionawr 2021 ymlaen
Sylwch fod y data a gynhwysir yn y set ddata hwn yn cwmpasu cyfnod yn ystod pandemig coronafeirws (COVID-19), sydd wedi effeithio ar y ffordd y mae rhai gwasanaethau'r GIG yn cael eu cynnig a dewisiadau pobl o ran gwasanaethau iechyd. Gweler y datganiad diweddaraf am ragor o wybodaeth. Mae'r data'n cwmpasu Ionawr 2018 ymlaen, mae data pellach o fis Medi 2011 ymlaen ar gael yn HLTH0085
None
|
Metadata
- Gwybodaeth cryno
- Gwybodaeth lefel uchel
- Dolenni'r we
- Gwybodaeth ansawdd ystadegol
- Allweddeiriau
- Data agored
Disgrifiad cyffredinol
Mae’r tabl hwn yn darparu’r data presennol ar Amseroedd Aros rhwng Atgyfeirio a Thriniaeth ar gyfer llwybrau cleifion ar gau.Bydd llwybrau ar gau yn cynnwys: llwybrau cleifion wedi’u trin, llwybrau cleifion nad oeddent am gael eu gweld mwyach, llwybrau cleifion sydd wedi marw. Gan eithrio llwybrau cleifion ar gau gyda dyddiad dechrau triniaeth anhysbys.
Nid oes gan bwrdd iechyd Hywel Dda unrhyw gleifion sy'n aros am meddygaeth awdiolegol o Ionawr 2019 ymlaen, oherwydd gwnaeth y gwasanaeth symud i’r model cymunedol.
Casgliad data a dull cyfrifo
I weld y wybodaeth hon, dilynwch y ddolen i’r cyhoeddiad ystadegol perthnasol.O 1 Ebrill 2019, symudodd darpariaeth gwasanaeth iechyd trigolion awdurdod lleol Pen-y-bont ar Ogwr o Abertawe Bro Morgannwg i Gwm Taf. Am ragor o wybodaeth gweler y datganiad ar y cyd gan Fyrddau Iechyd Prifysgol Cwm Taf ac Abertawe Bro Morgannwg (gweler y dolenni gwe). Mae enwau'r byrddau iechyd wedi newid; mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf bellach yn Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, ac mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg bellach yn Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe. Mae dolen i ddatganiad gan y gweinidog iechyd a gwasanaethau cymdeithasol ar gael yn yr adran dolenni’r we.
Amlder cyhoeddi
MisolCyfnodau data dan sylw
Ionawr 2018 ymlaen, mae data o fis Medi 2011 ymlaen ar gael yn HLTH0085Defnyddwyr, defnydd a chyd-destun
I weld y wybodaeth hon, dilynwch y ddolen i’r cyhoeddiad ystadegol perthnasol.Teitl
Amseroedd aros cyfunol rhwng Atgyfeirio a Thriniaeth – llwybrau caeedig (O fis Ionawr 2018 ymlaen)Diweddariad diwethaf
21/11/2024Diweddariad nesaf
19/12/2024Sefydliad cyhoeddi
Llywodraeth CymruFfynhonnell 1
Atgyfeiriad am driniaeth (RTT), Iechyd a Gofal Digidol Cymru (IGDC)Cyswllt ebost
ystadegau.iechyd@llyw.cymruDynodiad
Ystadegau GwladolLefel isaf o ddadelfennu daearyddol
Byrddau iechyd lleolCwmpas daearyddol
CymruCwmpas ieithyddol
Saesneg a ChymraegTrwyddedu data
Gallwch ddefnyddio ac ailddefnyddio'r data hwn am ddim mewn unrhyw fformat neu gyfrwng, dan delerau'r Drwydded Llywodraeth Agored - gweler http://www.nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence-cymraegDolenni'r we
I weld y cyhoeddiad ystadegol diweddaraf, dilynwch y ddolen ganlynol:https://llyw.cymru/amseroedd-atgyfeiriad-am-driniaeth
https://cwmtaf.wales/welsh-government-announce-decision-on-bridgend-boundary-change/
https://llyw.cymru/datganiad-ysgrifenedig-ffin-y-byrddau-iechyd-ym-mhen-y-bont-ar-ogwr-cynllunio-cysylltiol
Ansawdd ystadegol
I weld y wybodaeth hon, dilynwch y ddolen i’r cyhoeddiad ystadegol perthnasol.O ganlyniad i’r pandemig COVID-19 (y coronafeirws) cafodd pob apwyntiad i gleifion allanol nad ydynt yn rhai brys eu hatal dros dro ym mis Mawrth 2020. O ganlyniad, roedd yn rhaid i’r rhan fwyaf o ysbytai leihau’r gwasanaethau a gynigir ganddynt, neu eu hatal dros dro, ac arweiniodd hyn at ostyngiad yn y niferoedd ar gyfer llwybrau sydd wedi’u cau ym mis Ebrill 2020 a’r misoedd dilynol.
Nid yw Cwm Taf wedi gallu cyflwyno data ynghylch llwybrau ar gau ers mis Awst 2018. Felly, nid oes modd cymharu cyfanswm Cymru cyn Awst 2018 â’r misoedd diweddarach. Gweler y datganiad diweddaraf am ragor o wybodaeth.