TEST
None
|
Metadata
Disgrifiad cyffredinol
Mae’r tabl hwn yn darparu amcangyfrif o niferoedd y cleifion unigol ar restrau aros Rhwng Atgyfeirio a Thriniaeth (RTT) yng Nghymru fesul bwrdd iechyd lleol.Amlder cyhoeddi
MisolCyfnodau data dan sylw
Mawrth 2022 ymlaenAnsawdd ystadegol
Mae’r amcangyfrifon yn seiliedig ar wybodaeth reoli a ddarperir gan fyrddau iechyd lleol Cymru. Nid yw gwybodaeth reoli yn cael ei hasesu yn erbyn y Cod Ymarfer ar gyfer ystadegau. Er bod egwyddorion y Cod Ymarfer wedi’u cymhwyso, nid yw’r data hyn yn ddarostyngedig i’r un lefel o wiriadau sicrhau ansawdd a gymhwysir i ystadegau swyddogol achrededig.Mae gwahanol ddulliau yn cael eu defnyddio gan y byrddau iechyd i amcangyfrif nifer y cleifion unigol ar restrau aros RTT, gan adlewyrchu’r gwahanol systemau gweinyddol sylfaenol sydd ar waith. Mewn rhai achosion, mae byrddau iechyd wedi cadarnhau bod eu dulliau yn golygu ei bod yn bosibl cyfrif pob claf, ac nad oes unrhyw ddyblygu, a bod disgwyl i’r ffigurau fod yn gywir iawn felly. Mewn achosion eraill, mae’n hysbys nad yw rhai cleifion yn cael eu cynnwys wrth gyfrif – er enghraifft, am nad ydynt yn cael eu cofnodi ar yr un systemau â chleifion eraill – neu fod posibilrwydd y ceir rhywfaint o ddyblygu. Mae’r enghraifft fwyaf arwyddocaol o hyn ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, lle nad yw’n bosibl cynnwys cleifion sy’n aros am wasanaethau diagnostig neu therapïau. Mae’r cleifion hyn yn cyfrif am tua 10% o gyfanswm y llwybrau RTT a ddarperir gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda. Disgwylir i enghreifftiau eraill o orgwmpasu a thangwmpasu gael effaith fach iawn ar y ffigurau.
Rhoddodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) ddull gwell ar waith o amcangyfrif cleifion unigryw a gafodd ei gymhwyso i’r data o fis Ebrill 2023 ymlaen. Mae hyn yn golygu nad oes modd cymharu’r ffigurau ar gyfer BIPBC cyn mis Ebrill 2023 yn uniongyrchol â’r rhai wedi hynny. Cafodd y dull newydd yr effaith o leihau’r amcangyfrifon ar gyfer BIPBC o tua 4,000 o’u cymharu â’r dull blaenorol. Roedd hyn tua 3% o’r ffigur ar gyfer BIPBC. Effaith fach a gafwyd ar y ffigurau ar lefel Cymru gyfan, a gwelwyd lleihad o lai nag 1% o’i gymharu â’r fethodoleg flaenorol.