Neidio i'r cynnwys
Darparwr data: Llywodraeth Cymru Ystadegau Gwladol Cyfradd oedi fesul 10,000 o’r boblogaeth 75+ oed yn ôl awdurdod lleol y preswylydd

Ar ddechrau’r pandemig COVID-19, fe wnaeth Llywodraeth Cymru atal y gofynion adrodd ynglyn ag oedi wrth drosglwyddo gofal. Yn y cyfamser, cyflwynodd Llywodraeth Cymru Ofynion Rhyddhau o'r Ysbyty COVID-19, a oedd yn cynnwys proses ryddhau newydd gan a oedd yn canolbwyntio mwy ar adsefydlu ac ailalluogi. Mae tîm polisi a pherfformiad gofal brys Llywodraeth Cymru ac Uned Gyflawni'r GIG wedi bod yn casglu data wythnosol dros dro ynghylch oedi wrth ryddhau cleifion, i reoli'r trefniadau newydd. Nid yw'r data hwn yn mesur oedi wrth drosglwyddo gofal yn yr un modd â'r broses flaenorol o gasglu data, ac nid yw wedi'i hasesu yn erbyn safonau'r Cod Ymarfer Ystadegau. Bydd opsiynau ar gyfer casglu a chyhoeddi data a mesurau perfformiad yn y dyfodol yn cael eu datblygu dros y misoedd nesaf tra bydd y broses o gasglu data yn parhau wedi’i hatal.

None
Dyddiad[Hidlwyd]
Measure1
[Lleihau]Cyfleuster[Hidlo]
-
Cyfleuster 1
[Lleihau]Awdurdod Lleol[Hidlo]
-
-
Awdurdod Lleol 1
Cod Awdurdod Lleol[Hidlwyd]
[Lleihau]Pob cyfleusterCliciwch yma i ddidoliPob cyfleuster
Cliciwch yma i ddidoliIechyd meddwl yn unigCliciwch yma i ddidoliHeb gynnwys iechyd meddwl
[Lleihau]Cymru4.226.230.4
Cymru[Ehangu]Ynys Môn5.030.035.0
[Ehangu]Gwynedd.Nid yw\'r eitem ddata yn berthnasol21.421.4
[Ehangu]Conwy5.27.712.9
[Ehangu]Sir Ddinbych11.917.829.7
[Ehangu]Sir y Fflint2.914.317.1
[Ehangu]Wrecsam3.420.223.6
[Ehangu]Powys1.228.529.7
[Ehangu]Ceredigion12.319.631.9
[Ehangu]Sir Benfro11.030.441.4
[Ehangu]Sir Gaerfyrddin3.018.221.3
[Ehangu]Abertawe9.929.639.5
[Ehangu]Castell-nedd Port Talbot9.354.163.4
[Ehangu]Pen-y-bont ar Ogwr3.129.232.2
[Ehangu]Bro Morgannwg6.517.824.3
[Ehangu]Caerdydd3.411.014.4
[Ehangu]Rhondda Cynon Taf2.054.256.2
[Ehangu]Merthyr Tudful.Nid yw\'r eitem ddata yn berthnasol28.828.8
[Ehangu]Caerffili.Nid yw\'r eitem ddata yn berthnasol30.730.7
[Ehangu]Blaenau Gwent.Nid yw\'r eitem ddata yn berthnasol6.56.5
[Ehangu]Tor-faen.Nid yw\'r eitem ddata yn berthnasol25.925.9
[Ehangu]Sir Fynwy.Nid yw\'r eitem ddata yn berthnasol48.648.6
[Ehangu]Casnewydd.Nid yw\'r eitem ddata yn berthnasol24.724.7

Metadata

Teitl

Cyfradd oedi fesul 10,000 o'r boblogaeth 75 oed+ yn ôl awdurdod lleol

Diweddariad diwethaf

23 Ebrill 2020 23 Ebrill 2020

Diweddariad nesaf

i gael ei gadarnhau

Sefydliad cyhoeddi

Llywodraeth Cymru

Ffynhonnell 1

Cronfa ddata achosion o oedi wrth drosglwyddo gofal, GIG Cymru

Cyswllt ebost

ystadegau.iechyd@llyw.cymru

Dynodiad

Ystadegau Gwladol

Lefel isaf o ddadelfennu daearyddol

Awdurdodau lleol

Cwmpas daearyddol

Cymru

Cwmpas ieithyddol

Saesneg a Chymraeg

Trwyddedu data

Gallwch ddefnyddio ac ailddefnyddio'r data hwn am ddim mewn unrhyw fformat neu gyfrwng, dan delerau'r Drwydded Llywodraeth Agored - gweler http://www.nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence-cymraeg

Disgrifiad cyffredinol

Data ar nifer y bobl sy’n profi oedi yn y trefniadau iddynt adael yr ysbyty, er enghraifft mynd adref neu symud i gyfleuster mwy priodol yn y gwasanaeth iechyd, ee o wely acíwt i wely adsefydlu.

Casgliad data a dull cyfrifo

Y brif ffynhonnell ddata ar gyfer y datganiad hwn yw system weinyddol, sef y gronfa ddata Oedi wrth Drosglwyddo Gofal. Mae’r gronfa ddata hon yn gyfrifiad Cymru gyfan sy’n cael ei gweithredu gan Wasanaeth Gwybodeg GIG Cymru ac mae pob Bwrdd Iechyd Lleol / Ymddiriedolaeth y GIG cyflwyno cofnod ar gyfer pob claf lle bo oedi wrth drosglwyddo. Dyddiad y cyfrifiad yw’r trydydd dydd Mercher o bob mis. Caniateir tair wythnos i’r Bwrdd Iechyd Lleol / Ymddiriedolaeth a’r awdurdodau lleol ddilysu’r data cyn iddynt gael eu lawrlwytho gan y Gyfarwyddiaeth Ystadegol fel taenlen Excel ac yna eu trosglwyddo i gronfa ddata Access. Caiff unrhyw ymholiad ynghylch y data newydd yng nghyd-destun y gyfres amser ei drafod â chydweithwyr polisi a chyflenwyr data yn y Byrddau Iechyd Lleol ac Ymddiriedolaethau.

O 1 Ebrill 2019, symudodd darpariaeth gwasanaeth iechyd trigolion awdurdod lleol Pen-y-bont ar Ogwr o Abertawe Bro Morgannwg i Gwm Taf. Am ragor o wybodaeth gweler y datganiad ar y cyd gan Fyrddau Iechyd Prifysgol Cwm Taf ac Abertawe Bro Morgannwg (gweler y dolenni gwe). Mae enwau'r byrddau iechyd wedi newid; mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf bellach yn Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, ac mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg bellach yn Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe. Mae dolen i ddatganiad gan y gweinidog iechyd a gwasanaethau cymdeithasol ar gael yn yr adran dolenni’r we.

Amlder cyhoeddi

Misol

Cyfnodau data dan sylw

Mis Mawrth 2004 ymlaen

Defnyddwyr, defnydd a chyd-destun

Mae’r wybodaeth hon yn cael ei chynnwys yn y Datganiad Ystadegol perthnasol – gweler y ddolen.

Gwybodaeth am ddiwygiadau

Yn dilyn cyhoeddiad amcangyfrifon poblogaeth ganol blwyddyn newydd ym mis Mehefin bob blwyddyn, byddwn yn diwygio’r cyfraddau yn ein cyhoeddiad mis Gorffennaf gan ôl-ddyddio yn ôl i Ionawr y flwyddyn flaenorol. e.e. pan fydd amcangyfrifon poblogaeth canol blwyddyn 2017 yn cael eu rhyddhau ym mis Mehefin 2018, byddai cyfraddau diwygiedig mis Ionawr 2017 i Mai 2018 yn natganiad mis Gorffennaf 2018 gan ddefnyddio amcangyfrifon poblogaeth 2017.

Pe byddai data gwallus yn cael eu cyhoeddi, er mor annhebygol yw hynny, byddai angen diwygio’r data a rhoi gwybod i’r defnyddwyr yn unol â threfniadau Diwygiadau, Camgymeriadau a Gohiriadau Llywodraeth Cymru. Byddai hyn yn cynnwys datganiad yn yr ystadegau’n egluro natur a chwmpas y diwygiadau.

Allweddeiriau

Oedi wrth drosglwyddo gofal

Ansawdd ystadegol

Mae’r wybodaeth hon yn cael ei chynnwys yn yr Adroddiad Ansawdd perthnasol – gweler y ddolen.