Neidio i'r cynnwys

Oedi wrth drosglwyddo gofal

Mae oedi wrth drosglwyddo gofal yn cael ei brofi gan glaf mewnol mewn ysbyty, sy'n barod i symud ymlaen i'r cam nesaf o ofal ond sy'n cael ei atal rhag gwneud hynny oherwydd un neu ragor o resymau.

Rhoddwyd y gorau i gasglu data am oedi wrth drosglwyddo gofal ym mis Chwefror 2020 a chasglwyd gwybodaeth reoli am ryddhau o'r ysbyty rhwng mis Gorffennaf 2020 a mis Mawrth 2023. Dechreuodd casgliad data newydd, Oedi mewn Llwybrau Gofal, sy'n cwmpasu ystod ehangach o drosglwyddiadau a rhesymau dros oedi na'r casgliadau data blaenorol, ym mis Ebrill 2023.