Genedigaethau byw a marw-enedigaethau yn ôl uned geni yng Nghymru, Bwrdd Iechyd Lleol a blwyddyn
None
|
Metadata
- Gwybodaeth cryno
- Gwybodaeth lefel uchel
- Dolenni'r we
- Gwybodaeth ansawdd ystadegol
- Allweddeiriau
- Data agored
Disgrifiad cyffredinol
Mae'r tabl hwn yn cyfrif pob genedigaeth (byw a marw) yn unedau Cymru. Nid yw'n cynnwys genedigaethau cartref neu ambiwlans, ond mae'n cynnwys genedigaethau i bobl nad ydynt yn byw yng Nghymru a ddigwyddodd yng Nghymru.Mae’r Gronfa Ddata Genedlaethol ar Iechyd Plant Cymunedol yn cynnwys cofnodion dienw ar gyfer yr holl blant a anwyd yng Nghymru, yr holl blant sy’n byw yng Nghymru neu’r holl blant sydd wedi’u trin yng Nghymru ac a anwyd ar ôl 1987. Mae’r set ddata’n cyfuno data a gynhwysir yng nghronfeydd data’r System Iechyd Plant Cymunedol leol a gedwir gan fyrddau iechyd lleol.
O 1 Ebrill 2019, symudodd darpariaeth gwasanaeth iechyd trigolion awdurdod lleol Pen-y-bont ar Ogwr o Abertawe Bro Morgannwg i Gwm Taf. Am ragor o wybodaeth gweler y datganiad ar y cyd gan Fyrddau Iechyd Prifysgol Cwm Taf ac Abertawe Bro Morgannwg (gweler y dolenni gwe). Mae enwau'r byrddau iechyd wedi newid; mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf bellach yn Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, ac mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg bellach yn Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe.
Mae data ar gyfer Abertawe Bro Morgannwg a Chwm Taf ar gael ar gyfer blynyddoedd blaenorol yn y tabl hwn drwy ddewis y blychau ticio yn y gwymplen Ardal.