Neidio i'r cynnwys
Darparwr data: Llywodraeth Cymru Genedigaethau byw i drigolion Cymru yn ôl oedran geni
None
Mesur[Hidlwyd]
Measure1
Blwyddyn[Hidlo]
[Lleihau]Hyd y (Wythnosau wedi'u cwblhau)[Hidlo]
-
-
Hyd y (Wythnosau wedi'u cwblhau) 1
Cliciwch yma i ddidoli2011Cliciwch yma i ddidoli2012Cliciwch yma i ddidoli2013Cliciwch yma i ddidoli2014Cliciwch yma i ddidoli2015Cliciwch yma i ddidoli2016Cliciwch yma i ddidoli2017Cliciwch yma i ddidoli2018Cliciwch yma i ddidoli2019Cliciwch yma i ddidoli2020Cliciwch yma i ddidoli2021Cliciwch yma i ddidoli2022Cliciwch yma i ddidoli2023Cliciwch yma i ddidoli2024
[Lleihau]Cyfanswm35,68235,35033,82233,64833,36133,00432,23631,32929,72828,78128,87928,38827,45726,944
Cyfanswm<243221202122222927294236393738
242223281123111423252017171315
253130222332151715272414142017
263537373130292631292333142318
274440383535363834353623293136
284651404935446736445138384228
296377493844564651455350425652
307377825077747067786057716060
319710010211192989990808176798380
3215913314612812513214114913313811711511398
33203209175199170187176212155179154177135164
34321332313299310312284341293291280279293273
35463490410473501510516475501448456436406391
369488678739939511,0301,010973956818927952837860
371,8582,0821,9782,0252,2232,3632,3372,4922,3032,3082,2742,4482,5262,466
384,1864,1733,7654,0713,9694,3254,2334,2584,0613,7813,8244,0333,9543,753
397,5677,6507,5197,8138,0398,0347,9017,6527,6347,4927,8207,8277,7577,962
409,9659,8309,1869,0899,1908,5708,4838,1427,4297,2957,1076,7996,5556,251
417,4607,2116,8166,6996,1955,8205,4375,0024,6434,4134,3403,8283,5373,526
421,6401,5851,3661,2981,1131,062998993953855872825670611
>4230918212112213911917317418017016016716183
Heb nodiYn cynnwys data coll a hyd beichiogrwydd <20 wythnos a >45 wythnos16015073670461551419295203204159148162

Metadata

Teitl

Live births to Welsh residents by gestational age

Diweddariad diwethaf

Awst 2025 Awst 2025

Diweddariad nesaf

Gorffennaf 2026 (dros dro)

Sefydliad cyhoeddi

Llywodraeth Cymru

Ffynhonnell 1

Cronfa Ddata Genedlaethol ar Iechyd Plant Cymunedol (NCCHD), Iechyd a Gofal Digidol Cymru (IGDC)

Cyswllt ebost

ystadegau.iechyd@llyw.cymru

Dynodiad

Ystadegau Gwladol

Lefel isaf o ddadelfennu daearyddol

Cymru

Cwmpas daearyddol

Cymru

Cwmpas ieithyddol

Saesneg a Chymraeg

Trwyddedu data

Gallwch ddefnyddio ac ailddefnyddio'r data hwn am ddim mewn unrhyw fformat neu gyfrwng, dan delerau'r Drwydded Llywodraeth Agored - gweler http://www.nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence-cymraeg

Allweddeiriau

Iechyd plant, Genedigaethau

Disgrifiad cyffredinol

Mae’r ystadegau hyn yn deillio o’r Gronfa Ddata Genedlaethol ar Iechyd Plant Cymunedol. Darperir y ffynhonnell data hon i Lywodraeth Cymru gan Iechyd a Gofal Digidol Cymru.

Sefydlwyd y Gronfa Ddata Genedlaethol ar Iechyd Plant Cymunedol yn 2004 ac mae’n cynnwys cofnodion dienw yr holl blant sydd wedi’u geni yng Nghymru, sy’n byw yng Nghymru neu sydd wedi cael triniaeth yng Nghymru ar ôl 1987. Mae’r gronfa ddata yn dwyn ynghyd ddata o gronfeydd data lleol y System Iechyd Plant Cymunedol sy’n cael eu cadw gan fyrddau iechyd lleol. Prif swyddogaeth y gronfa ddata yw darparu cofnod ar-lein o iechyd a gofal plentyn o’r adeg y caiff ei eni nes bydd yn cyrraedd oed gadael ysgol. Mae’r ystadegau yn y datganiad hwn yn seiliedig ar y data a gofnodwyd adeg genedigaeth ac yn fuan wedi genedigaeth.

Mae manylion llawn pob eitem ddata sydd ar gael a’r Gronfa Ddata Genedlaethol ar Iechyd Plant Cymunedol ar gael yng Ngeiriadur Data GIG Cymru: http://www.datadictionary.wales.nhs.uk/#!WordDocuments/datasetstructure20.htm


Casgliad data a dull cyfrifo

Mae’r Gronfa Ddata Genedlaethol ar Iechyd Plant Cymunedol yn cynnwys cofnodion ar gyfer pob plentyn sydd wedi’i eni, sy’n byw neu sy’n defnyddio gwasanaethau yn eu byrddau iechyd perthnasol. Mae hyn yn golygu bod y gronfa ddata yn cynnwys rhywfaint o wybodaeth ar gyfer rhai plant nad ydynt yn byw yng Nghymru ar hyn o bryd, fodd bynnag, oni nodir yn wahanol, mae’r holl ystadegau a gynhyrchir o ddata o’r gronfa ddata hon yn cael eu hidlo i gynnwys dim ond y plant hynny sydd wedi’u geni yng Nghymru. Mae hefyd yn golygu bod data ar gael ar gyfer mamau sy’n byw yng Nghymru a roddodd enedigaeth yn Lloegr.

Mae’r Gronfa Ddata Genedlaethol ar Iechyd Plant Cymunedol yn cofnodi genedigaethau byw a marw-enedigaethau, fodd bynnag, dim ond at enedigaethau byw y mae’r dadansoddiad hwn yn cyfeirio.

Amlder cyhoeddi

Blynyddol

Cyfnodau data dan sylw

2011 i 2024

Defnyddwyr, defnydd a chyd-destun

Bydd yr ystadegau hyn yn cael eu defnyddio mewn amrywiaeth o ffyrdd. Dyma ambell enghraifft:
• rhoi cyngor i Weinidogion
• llywio trafodaethau yn y Senedd a thu hwnt
• sicrhau bod data ar gael i’r cyhoedd ar ystadegau iechyd plant yng Nghymru
• monitro’r modd y caiff gwasanaethau eu darparu
• datblygu polisïau
• darparu cyngor ar ddewisiadau genedigaeth.
Mae prif ddefnyddwyr yr ystadegau fel a ganlyn:
• Gweinidogion, swyddogion polisi a Gwasanaeth Ymchwil yr Aelodau
• byrddau iechyd lleol
• y cyhoedd
• y gymuned ymchwil
• myfyrwyr, academyddion a phrifysgolion
• Iechyd Cyhoeddus Cymru a sefydliadau eraill y GIG
• sefydliadau genedigaeth gwirfoddol.

Talgrynnu wedi'u ddefnyddio

Nid yw’r data wedi’i dalgrynnu

Gwybodaeth am ddiwygiadau

Mae’r set ddata Gronfa Ddata Genedlaethol ar Iechyd Plant Cymunedol yn gronfa ddata fyw, sy’n golygu y gall byrddau iechyd ddiwygio data ar gyfer unrhyw gyfnod. Ar gyfer y data hwn, mae Iechyd a Gofal Digidol Cymru yn cymryd dyfyniadau data o un pwynt amser penodol, ar gyfer y flwyddyn galendr ddiweddaraf. Mae hyn yn golygu y gallai dyfyniadau data a gymerwyd ar gyfer cyfnodau amser blaenorol fod yn wahanol i’r data a gyhoeddir gan ei fod efallai wedi’i ddiwygio gan fyrddau iechyd. Ni fydd Llywodraeth Cymru yn gwneud newidiadau i ddata hanesyddol oni bai y caiff gwallau eu canfod.

Ansawdd ystadegol

O 1 Ebrill 2019 ymlaen, symudodd darpariaeth y gwasanaeth iechyd ar gyfer preswylwyr awdurdod lleol Pen-y-bont ar Ogwr o Abertawe Bro Morgannwg i Gwm Taf. Am ragor o wybodaeth, gweler y datganiad ar y cyd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf a Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg (gweler dolenni). Mae enwau’r byrddau iechyd wedi newid; gelwir Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf bellach yn Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg a gelwir Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg bellach yn Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe.

Mae data ynghylch Abertawe Bro Morgannwg a Chwm Taf ar gael ar gyfer blynyddoedd blaenorol yn y tabl hwn drwy ddewis y blychau ticio yn y gwymplen Ardal.

Mae gwybodaeth fanylach am y ffynonellau data a’r dadansoddiadau yn y datganiad ystadegol hwn ar gael yn yr adroddiad ansawdd: Ystadegau mamolaeth a genedigaethau: adroddiad ansawdd | LLYW.CYMRU.