

None
|
Metadata
- Gwybodaeth cryno
- Gwybodaeth lefel uchel
- Dolenni'r we
- Gwybodaeth ansawdd ystadegol
- Allweddeiriau
- Data agored
Disgrifiad cyffredinol
Mae’r Gronfa Ddata Genedlaethol ar Iechyd Plant Cymunedol yn cynnwys cofnodion dienw ar gyfer yr holl blant a anwyd yng Nghymru, yr holl blant sy’n byw yng Nghymru neu’r holl blant sydd wedi’u trin yng Nghymru ac a anwyd ar ôl 1987. Mae’r set ddata’n cyfuno data a gynhwysir yng nghronfeydd data’r System Iechyd Plant Cymunedol leol a gedwir gan fyrddau iechyd lleol.O 1 Ebrill 2019, symudodd darpariaeth gwasanaeth iechyd trigolion awdurdod lleol Pen-y-bont ar Ogwr o Abertawe Bro Morgannwg i Gwm Taf. Mae enwau'r byrddau iechyd wedi newid; mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf bellach yn Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, ac mae bwrdd iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg bellach yn fwrdd iechyd Bae Abertawe.