Cofrestrau clefydau y Fframwaith Sicrhau Ansawdd a Gwella yn ôl bwrdd iechyd lleol
Mae'r ciwb StatsCymru hwn yn darparu data ar nifer y cleifion ar gofrestrau clefydau gweithredol, nifer cyffredinol y cleifion wedi'u cofrestru mewn practis meddyg teulu a chyfraddau cyffredinrwydd clefydau, gan ddefnyddio data cofrestrau clefydau a gafwyd drwy'r Fframwaith Sicrhau a Gwella Ansawdd. Maent yn cynnig rhestrau o gleifion sydd wedi'u cofrestru â phractisau meddygon teulu a gafodd ddiagnosis o'r cyflwr meddygol fel y'i diffinnir gan ddangosydd cofrestr y Fframwaith Sicrhau a Gwella Ansawdd.
None
|
Metadata
- Gwybodaeth lefel uchel
- Gwybodaeth cryno
- Dolenni'r we
- Gwybodaeth ansawdd ystadegol
- Allweddeiriau
- Data agored
Teitl
Cofrestrau clefydau y Fframwaith Sicrhau Ansawdd a GwellaDiweddariad diwethaf
29 Mehefin 2023Diweddariad nesaf
I gael ei gadarnhauSefydliad cyhoeddi
Llywodraeth CymruFfynhonnell 1
Iechyd a Gofal Digidol Cymru (IGDC)Cyswllt ebost
ystadegau.iechyd@llyw.cymruDynodiad
Gwybodaeth reolaetholCwmpas daearyddol
CymruCwmpas ieithyddol
Saesneg a ChymraegTrwyddedu data
Gallwch ddefnyddio ac ailddefnyddio'r data hwn am ddim mewn unrhyw fformat neu gyfrwng, dan delerau'r Drwydded Llywodraeth Agored - gweler http://www.nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence-cymraegDisgrifiad cyffredinol
Cyflwynwyd y Fframwaith Sicrhau a Gwella Ansawdd fel rhan o'r broses o ddiwygio contract y Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol ar gyfer 2019-20. Mae'n disodli'r Fframwaith Ansawdd a Chanlyniadau, a gyflwynwyd yn wreiddiol yn 2004 ac y rhoddwyd y gorau i'w ddefnyddio ar ôl 2018-19.Mae'r ciwb StatsCymru hwn yn darparu data ar nifer y cleifion ar gofrestrau clefydau gweithredol, nifer cyffredinol y cleifion wedi'u cofrestru mewn practis meddyg teulu a chyfraddau cyffredinrwydd clefydau, gan ddefnyddio data cofrestrau clefydau a gafwyd drwy'r Fframwaith Sicrhau a Gwella Ansawdd. Maent yn cynnig rhestrau o gleifion sydd wedi'u cofrestru â phractisau meddygon teulu a gafodd ddiagnosis o'r cyflwr meddygol fel y'i diffinnir gan ddangosydd cofrestr y Fframwaith Sicrhau a Gwella Ansawdd.
Casgliad data a dull cyfrifo
Caiff y wybodaeth a gyflwynir yma ei darparu i Lywodraeth Cymru gan Iechyd a Gofal Digidol Cymru.Caiff cyflawniad yn erbyn dangosyddion y Fframwaith Sicrhau a Gwella Ansawdd ei fesur ar gylch sy'n rhedeg o 1 Hydref i 30 Medi. Caiff data eu cyflwyno o systemau clinigol meddygon teulu o 30 Medi, a chaiff data terfynol y Fframwaith Sicrhau a Gwella Ansawdd eu cyflwyno ar 30 Tachwedd ar ôl dilysu'r data.
Ar gyfer y ffliw, mae'r data yn adlewyrchu'r boblogaeth darged fel y'i diffinnir gan FLU001W a FLU002W. Felly mae'r data yn cynnwys y boblogaeth gofrestredig 65 oed neu'n hyn a'r boblogaeth gofrestredig o dan 65 oed sy'n bodloni un neu fwy o'r amodau cymhwyso a ddiffinnir yn y Fframwaith Sicrhau a Gwella Ansawdd (COPD, diabetes, CHD neu strôc).
Amlder cyhoeddi
BlynyddolCyfnodau data dan sylw
Dangosir data ar gyfer 2019-20 ymlaen. Caiff cyflawniad yn erbyn dangosyddion y Fframwaith Sicrhau a Gwella Ansawdd ei fesur ar gylch sy'n rhedeg o 1 Hydref i 30 Medi. Caiff data eu cyflwyno o systemau clinigol meddygon teulu o 30 Medi, a chaiff data terfynol y Fframwaith Sicrhau a Gwella Ansawdd eu cyflwyno ar 30 Tachwedd ar ôl dilysu'r data.Talgrynnu wedi'u ddefnyddio
Caiff cyfraddau cyffredinrwydd eu talgrynnu i un lle degol.Gwybodaeth am ddiwygiadau
Mae data 2019-20 ar gyfer clwstwr Gogledd Cynon wedi’u diwygio. Newidiodd clwstwr Gogledd Cynon yn ystod haf 2018 gan i rai practisau symud i glwstwr De Cynon. Fodd bynnag, roedd y clwstwr hwn yn seiliedig ar wybodaeth 2018 yng nghyhoeddiad 24 Mehefin 2021 gan i’r newidiadau ddod yn hysbys yn ddiweddarach.Mae data 2019-20 ar gyfer De Cynon wedi’u diwygio. Newidiodd clwstwr Gogledd Cynon yn ystod haf 2018 gan i rai practisau symud i glwstwr De Cynon. Fodd bynnag, roedd y clwstwr hwn yn seiliedig ar wybodaeth 2018 yng nghyhoeddiad 24 Mehefin 2021 gan i’r newidiadau ddod yn hysbys yn ddiweddarach.
Mae data 2019-20 ar gyfer Dwyrain Casnewydd a Gorllewin Casnewydd wedi’u diwygio. Caeodd clwstwr Gogledd Casnewydd ym mis Mawrth 2020 a symudodd y practisau o’r clwstwr hwn i Ddwyrain Casnewydd a Gorllewin Casnewydd. Fodd bynnag, yng nghyhoeddiad 24 Mehefin 2021, roedd y clystyrau yn seiliedig ar wybodaeth cyn mis Mawrth 2020 gan i’r newidiadau ddod yn hysbys yn ddiweddarach.