Nifer blynyddol y plant sy'n gymwys dan Raglen Plant Iach Cymru, cysylltiadau a gwblhawyd a'r gyfradd gwblhau yn ôl oedran cyswllt
None
|
Metadata
- Gwybodaeth lefel uchel
- Gwybodaeth cryno
- Gwybodaeth ansawdd ystadegol
- Dolenni'r we
- Allweddeiriau
- Data agored
Teitl
Nifer blynyddol y plant sy'n gymwys dan Raglen Plant Iach Cymru, cysylltiadau a gwblhawyd a'r gyfradd gwblhau yn ôl oedran cyswlltDiweddariad diwethaf
Mai 2024Diweddariad nesaf
Mai 2025 (dros dro)Sefydliad cyhoeddi
Llywodraeth CymruFfynhonnell 1
Cronfa Ddata Genedlaethol ar Iechyd Plant Cymunedol (NCCHD), Iechyd a Gofal Digidol Cymru (IGDC)Cyswllt ebost
ystadegau.iechyd@llyw.cymruDynodiad
Gwybodaeth reolaetholLefel isaf o ddadelfennu daearyddol
CymruCwmpas daearyddol
CymruCwmpas ieithyddol
Saesneg a ChymraegTrwyddedu data
Gallwch ddefnyddio ac ailddefnyddio'r data hwn am ddim mewn unrhyw fformat neu gyfrwng, dan delerau'r Drwydded Llywodraeth Agored - gweler http://www.nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence-cymraegDisgrifiad cyffredinol
Mae'r Gronfa Ddata Genedlaethol ar Iechyd Plant Cymunedol (NCCHD) yn gronfa ddata a sefydlwyd ac sy'n cael ei rhedeg gan DHCW. Mae'r data'n cael ei echdynnu o gronfeydd data'r System Iechyd Plant a gedwir gan BILlau.O 1 Ebrill 2019, symudodd darpariaeth gwasanaeth iechyd trigolion awdurdod lleol Pen-y-bont ar Ogwr o Abertawe Bro Morgannwg i Gwm Taf. Mae enwau'r byrddau iechyd wedi newid; mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf bellach yn Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, ac mae bwrdd iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg bellach yn fwrdd iechyd Bae Abertawe.
Mae data ar gyfer y chwarter Ion-Maw 2020 wedi’i effeithio gan y pandemig COVID-19. Cafodd rhai ymwelwyr iechyd eu hadleoli gan fyrddau iechyd i weithio mewn ysbytai ac i leihau’r baich ar fyrddau iechyd a dim ond y cyswllt 10-14 diwrnod a’r cyswllt 6 wythnos oedd yn orfodol i fyrddau iechyd gynnal. Cafodd cysylltiadau ar adegau eraill eu cwblhau cymaint ag oedd adnoddau yn caniatáu, a byddai’r mwyafrif wedi’u cwblhau dros y ffôn. Efallai na chofnodwyd y cysylltiadau hyn yn y ffordd arferol, felly dylid dehongli'r data yn y cyd-destun hwn.
Bydd pandemig COVID-19 wedi effeithio ar ddata o fis Ebrill 2020 ymlaen. Roedd byrddau iechyd o dan bwysau eithriadol i ddarparu gwasanaethau, yn enwedig yn ystod misoedd cyntaf y pandemig, gyda llawer o staff ymwelwyr iechyd yn cael eu symud i rolau gwahanol. O ganlyniad, darparodd Llywodraeth Cymru ganllawiau ar 23 Mawrth 2020 yn cynghori byrddau iechyd i roi blaenoriaeth i ddarparu cyswllt bob 10-14 diwrnod, 6 wythnos a 6 mis. Wrth i gyswllt wyneb yn wyneb gael ei gwtogi, byddai llawer o gysylltiadau wedi digwydd o bell ond ni fyddai pob un o’r rhain wedi’i gofnodi. Darparwyd canllawiau pellach ar 13 Mai 2020 yn cynghori byrddau iechyd i ailddechrau cyswllt ychwanegol a gweithio tuag at ddarparu ystod lawn o gysylltiadau. Ar 25 Awst 2020, cynghorwyd byrddau iechyd y dylent ddychwelyd i ddarparu’r ystod lawn o gysylltiadau.
Wrth i gyfradd heintio COVID-19 gynyddu yn ystod y gaeaf, darparwyd canllawiau pellach ar 22 Rhagfyr 2020 yn cynghori byrddau iechyd i asesu risg atal neu leihau gwasanaethau ymwelwyr iechyd, ac y dylent o leiaf barhau i ddarparu cyswllt bob 10-14 diwrnod, 6 wythnos a 6 mis.
Cynghorir gofal wrth ddehongli data ar gyfer yr apwyntiad meddyg teulu 6 wythnos a'r apwyntiad imiwneiddio 8 wythnos, gan fod problem ansawdd data hysbys. Mae'r data a gyflwynir yn is-gyfrif o'r gweithgarwch gwirioneddol sy'n digwydd. Mae’r mater oherwydd nad yw'r broses casglu data ar bapur yn cael ei gweithredu'n llawn. Cymerwyd camau i wella ansawdd data, a bydd mesurau pellach yn parhau i gael eu gweithredu nes i’r data fod yn fwy dibynadwy.
Mae mater ansawdd data hysbys ar gyfer data Ebrill-Mehefin 2022. Mae canran y plant sy'n derbyn cysylltiadau yn Aneurin Bevan ym mhob pwynt cyswllt ar wahân i 6 wythnos yn dangyfrif o'r gwir weithgaredd a ddigwyddodd. Achoswyd y mater hwn gan oedi wrth brosesu ffurflenni casglu data yn y bwrdd iechyd ac mae’r bwrdd iechyd yn gweithio i’w ddatrys. Effeithir hefyd ar ffigurau cyffredinol Cymru. Mae’n bosibl y caiff data ei ddiwygio yn y cyhoeddiad nesaf.
Amlder cyhoeddi
BlynyddolCyfnodau data dan sylw
2017-2023Dolenni'r we
https://gov.wales/statistics-and-research/healthy-child-wales-programme/?skip=1&lang=cyhttps://cwmtaf.wales/welsh-government-announce-decision-on-bridgend-boundary-change/
https://llyw.cymru/datganiad-ysgrifenedig-ffin-y-byrddau-iechyd-ym-mhen-y-bont-ar-ogwr-cynllunio-cysylltiol