Neidio i'r cynnwys
Darparwr data: Llywodraeth Cymru BMI yn yr asesiad cychwynnol, yn ôl grŵp ethnig
None
Blwyddyn[Hidlwyd]
Mesur[Hidlwyd]
Measure1
Grwp BMI[Hidlo]
[Lleihau]Grwp ethnig[Hidlo]
-
-
Grwp ethnig 1
Cliciwch yma i ddidoliBMI 10 < 18.5Cliciwch yma i ddidoliBMI 18.5 < 25Cliciwch yma i ddidoliBMI 25 < 30Cliciwch yma i ddidoliBMI 30+Cliciwch yma i ddidoliNi nodwydCliciwch yma i ddidoliCyfanswm y menywodDim ond mamau a gafodd eu hasesiad cyntaf ar eu pedwar ar ddeg wythnos o feichiogrwydd, neu\'n gynharach, sydd wedi\'u cynnwys yn y dadansoddiad hwn.
[Lleihau]Pob grwp ethnig2024 Mae data Cymru yn eithrio data gan Fwrdd Iechyd Aneurin Bevan oherwydd dibynadwyedd isel y data. Gweler nodiadau.3796,1284,9385,40993117,785
Pob grwp ethnig2024 Mae data Cymru yn eithrio data gan Fwrdd Iechyd Aneurin Bevan oherwydd dibynadwyedd isel y data. Gweler nodiadau.GwynUnrhyw gefndir gwyn2564,1543,2923,77855412,034
Cymysg/LluosogGwyn ac Asiaidd, gwyn a du Affricanaidd, gwyn a du Caribïaidd, unrhyw gefndir cymysg arall11107931006317
AsiaiddPacistanaidd, Bangladeshaidd, Tsieineaidd, Indiaidd, unrhyw gefndir Asiaidd arall3838630416130919
DuAffricanaidd, Caribïaidd, unrhyw gefndir du arall1013115014312446
Arall1117906412284
Heb ei nodi631,2331,0091,1633173,785

Metadata

Disgrifiad cyffredinol

Mae’r data hwn yn deillio o set ddata Dangosyddion Mamolaeth a ddarperir i Lywodraeth Cymru gan Iechyd a Gofal Digidol Cymru.
Sefydlwyd set ddata Dangosyddion Mamolaeth yn 2016. Mae’n cyfuno cofnodion o asesiad cychwynnol ynglyn â'r fam â chofnodion geni’r plentyn gan alluogi Llywodraeth Cymru i fonitro ei set gychwynnol o ddangosyddion canlyniadau a mesurau perfformiad (Dangosyddion Mamolaeth) a sefydlwyd i fesur effeithiolrwydd ac ansawdd gwasanaethau mamolaeth Cymru.

Mae set ddata Dangosyddion Mamolaeth yn ein galluogi i ddadansoddi nodweddion beichiogrwydd y fam a’r broses eni. Mae’r broses o gynhyrchu’r data hwn yn gymhleth, yn bennaf oherwydd y gellir cael data asesiadau cychwynnol lluosog ac nad yw cofnodion asesiadau cychwynnol a genedigaethau’n gyflawn bob amser.
Mae manylion llawn pob eitem ddata sydd ar gael yn y set ddata Dangosyddion Mamolaeth ar gael yng Ngeiriadur Data GIG Cymru: http://www.datadictionary.wales.nhs.uk/#!WordDocuments/datasetstructure20.htm.

Mae’r geiriadur data hefyd yn diffinio sut y mae grwpiau ethnig yn cael eu dosbarthu, fel a ganlyn: Gwyn (unrhyw gefndir gwyn); Asiaidd (Pacistanaidd, Bangladeshaidd, Tsieineaidd, Indiaidd, unrhyw gefndir Asiaidd arall); Cymysg neu Aml-ethnig (gwyn ac Asiaidd, gwyn a du Affricanaidd, gwyn a Du Caribïaidd, unrhyw gefndir cymysg arall); Arall (unrhyw grwp ethnig arall); Du (Affricanaidd, Caribïaidd, unrhyw gefndir du arall).


Casgliad data a dull cyfrifo

Mae’r data o set ddata Dangosyddion Mamolaeth dim ond yn cynnwys data asesiadau cychwynnol lle’r oedd yr asesiad cychwynnol a’r enedigaeth wedi digwydd yn yr un bwrdd iechyd, a hynny yng Nghymru yn unig.
Dylai’r data gynnwys pob genedigaeth yn yr ysbyty a rhai genedigaethau yn y cartref, fodd bynnag, oherwydd y ffordd y caiff y data ei gofnodi, nid ydym yn gallu gwahaniaethu rhwng genedigaethau yn y cartref a genedigaethau yn yr ysbyty mewn rhai byrddau iechyd. Nid yw genedigaethau i famau sy’n byw yng Nghymru a roddodd enedigaeth yn Lloegr neu mewn unrhyw wlad arall y tu allan i Gymru wedi’u cynnwys yn y data.
Mae data ar gyfer pob blwyddyn galendr yn cyfeirio at ba bryd y ganed y babi ar gyfer ystadegau genedigaeth ac asesiad cychwynnol. Mae’n bosibl bod asesiadau cychwynnol wedi digwydd yn y flwyddyn flaenorol, ond cânt eu cyfrif ym mlwyddyn yr enedigaeth. Mae hyn yn sicrhau bod data gydol beichiogrwydd unigol yn cael ei gofnodi yn yr un flwyddyn.
Mae’r ganran ar lefel Cymru ar gyfer menywod beichiog sydd â BMI o 30 neu fwy yn seiliedig ar bob cofnod llai o gofnodion sydd â gwerth ‘heb ei nodi’ neu annilys. Cofnodion pan fo BMI, uchder neu bwysau yn werthoedd afrealistig yn cael eu hystyried yn annilys, er enghraifft pan fo BMI yn llai na 10 neu’n fwy na 100, pan fo pwysau’r fenyw feichiog yn llai na 30kg neu’n fwy na 250kg, a phan fo uchder y fenyw feichiog yn llai na 120cm neu’n fwy na 200cm. Gellir dod o hyd i nifer y cofnodion a eithriwyd yn Nhabl 4 o’r Ystadegau mamolaeth a genedigaethau: adroddiad ansawdd (tablau) (Ystadegau mamolaeth a genedigaethau: adroddiad ansawdd | LLYW.CYMRU).

Amlder cyhoeddi

Blynyddol

Cyfnodau data dan sylw

2016 i 2024

Defnyddwyr, defnydd a chyd-destun

Bydd yr ystadegau hyn yn cael eu defnyddio mewn amrywiaeth o ffyrdd. Dyma ambell enghraifft:
• rhoi cyngor i Weinidogion
• llywio trafodaethau yn y Senedd a thu hwnt
• sicrhau bod data ar gael i’r cyhoedd ar ystadegau iechyd plant yng Nghymru
• monitro’r modd y caiff gwasanaethau eu darparu
• datblygu polisïau
• darparu cyngor ar ddewisiadau genedigaeth.
Mae prif ddefnyddwyr yr ystadegau fel a ganlyn:
• Gweinidogion, swyddogion polisi a Gwasanaeth Ymchwil yr Aelodau
• byrddau iechyd lleol
• y cyhoedd
• y gymuned ymchwil
• myfyrwyr, academyddion a phrifysgolion
• Iechyd Cyhoeddus Cymru a sefydliadau eraill y GIG
• sefydliadau genedigaeth gwirfoddol.

Talgrynnu wedi'u ddefnyddio

Nid yw’r data wedi’i dalgrynnu

Gwybodaeth am ddiwygiadau

Mae’r set ddata Dangosyddion Mamolaeth yn gronfa ddata fyw, sy’n golygu y gall byrddau iechyd ddiwygio data ar gyfer unrhyw gyfnod. Ar gyfer y data hwn, mae Iechyd a Gofal Digidol Cymru yn cymryd dyfyniadau data o un pwynt amser penodol, ar gyfer y flwyddyn galendr ddiweddaraf. Mae hyn yn golygu y gallai dyfyniadau data a gymerwyd ar gyfer cyfnodau amser blaenorol fod yn wahanol i’r data a gyhoeddir gan ei fod efallai wedi’i ddiwygio gan fyrddau iechyd. Ni fydd Llywodraeth Cymru yn gwneud newidiadau i ddata hanesyddol oni bai y caiff gwallau eu canfod.

Teitl

BMI yn yr asesiad cychwynnol, yn ôl grwp ethnig

Diweddariad diwethaf

Awst 2025 Awst 2025

Diweddariad nesaf

Gorffennaf 2026 (dros dro)

Sefydliad cyhoeddi

Llywodraeth Cymru

Ffynhonnell 1

Maternity Indicators data set

Cyswllt ebost

ystadegau.iechyd@llyw.cymru

Lefel isaf o ddadelfennu daearyddol

Cymru

Cwmpas daearyddol

Cymru

Cwmpas ieithyddol

Saesneg a Chymraeg

Trwyddedu data

Gallwch ddefnyddio ac ailddefnyddio'r data hwn am ddim mewn unrhyw fformat neu gyfrwng, dan delerau'r Drwydded Llywodraeth Agored - gweler http://www.nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence-cymraeg

Ansawdd ystadegol

O 1 Ebrill 2019 ymlaen, symudodd darpariaeth y gwasanaeth iechyd ar gyfer preswylwyr awdurdod lleol Pen-y-bont ar Ogwr o Abertawe Bro Morgannwg i Gwm Taf. Am ragor o wybodaeth, gweler y datganiad ar y cyd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf a Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg (gweler dolenni). Mae enwau’r byrddau iechyd wedi newid; gelwir Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf bellach yn Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg a gelwir Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg bellach yn Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe.

Mae data ynghylch Abertawe Bro Morgannwg a Chwm Taf ar gael ar gyfer blynyddoedd blaenorol yn y tabl hwn drwy ddewis y blychau ticio yn y gwymplen Ardal.

Mae gwybodaeth fanylach am y ffynonellau data a’r dadansoddiadau yn y datganiad ystadegol hwn ar gael yn yr adroddiad ansawdd: Ystadegau mamolaeth a genedigaethau: adroddiad ansawdd | LLYW.CYMRU.

Roedd gan fwy na 90% o gofnodion ddata dilys ar gyfer eitemau data uchder a phwysau, ar draws pob bwrdd iechyd, yn y mwyafrif o flynyddoedd ar wahân i’r rhai a ganlyn: Bwrdd Iechyd Cwm Taf yn 2016 (77%) ac yn 2019 (88%) a Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr yn 2019 (89%).
Ar gyfer 2024, mae Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan wedi’i eithrio o’r dadansoddiad oherwydd lefelau uchel o ddata annilys ar gyfer taldra sy’n arwain at 77% o ddata coll ar gyfer BMI. Mae’r data ar gyfer Cymru yn cynrychioli’r 6 bwrdd iechyd sy’n weddill.

Allweddeiriau

mamolaeth; asesiad cychwynnol; BMI; Mynegai Màs y Corff; grwp ethnig