Neidio i'r cynnwys
Darparwr data: Llywodraeth Cymru Cofnodion esgor a geni yn ôl bwrdd iechyd sy'n darparu'r gwasanaeth ac uned famolaeth
None
Cod Ardal[Hidlo]
Blwyddyn[Hidlwyd]
Measure1
Statws[Hidlo]
[Lleihau]Ardal[Hidlwyd]
-
-
[Lleihau]Ardal 1
-
-
Ardal 2
Cliciwch yma i ddidoliEsgoriadauCliciwch yma i ddidoliGenedigaethauGenedigaethau byw a marwenedigaethau, yn cynnwys genedigaethau i breswylwyr o\'r tu allan i Gymru.
[Lleihau]CymruMae\'r cyfanswm yn cynnwys esgoriadau a genedigaethau mewn unedau anhysbys.25,22225,548
CymruMae\'r cyfanswm yn cynnwys esgoriadau a genedigaethau mewn unedau anhysbys.[Lleihau]Betsi Cadwaladr5,1695,220
Betsi CadwaladrYsbyty Maelor Wrecsam2,1612,183
Ysbyty Glan Clwyd1,6801,701
Ysbyty Gwynedd1,3281,336
[Lleihau]PowysMae\'r cyfanswm ar gyfer y BILl yn cynnwys esgoriadau a genedigaeth mewn unedau anhysbys.175175
PowysMae\'r cyfanswm ar gyfer y BILl yn cynnwys esgoriadau a genedigaeth mewn unedau anhysbys.Ysbyty Coffa Rhyfel Sir Frycheiniog2727
Ysbyty Cymunedol Tref-y-Clawdd88
Ysbyty Coffa Llandrindod66
Ysbyty Coffa Rhyfel Llanidloes66
Ysbyty Sir Drefaldwyn3737
Ysbyty Coffa Fictoria1515
[Lleihau]Hywel Dda2,7402,769
Hywel DdaYsbyty Cyffredinol Bronglais377377
Ysbyty Cyffredinol Glangwili2,2932,322
Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg7070
[Ehangu]Abertawe Bro MorgannwgMae\'r cyfanswm ar gyfer y BILl yn cynnwys esgoriadau a genedigaeth mewn unedau anhysbys..Nid yw\'r eitem ddata yn berthnasol.Nid yw\'r eitem ddata yn berthnasol
[Lleihau]Bae AbertawrMae\'r cyfanswm ar gyfer y BILl yn cynnwys esgoriadau a genedigaeth mewn unedau anhysbys.2,9622,994
Bae AbertawrMae\'r cyfanswm ar gyfer y BILl yn cynnwys esgoriadau a genedigaeth mewn unedau anhysbys.Ysbyty Castell-nedd Port Talbot4747
Ysbyty Singleton2,8962,928
[Ehangu]Cwm TafMae\'r cyfanswm ar gyfer y BILl yn cynnwys esgoriadau a genedigaeth mewn unedau anhysbys..Nid yw\'r eitem ddata yn berthnasol.Nid yw\'r eitem ddata yn berthnasol
[Lleihau]Cwm Taf MorgannwgMae\'r cyfanswm ar gyfer y BILl yn cynnwys esgoriadau a genedigaeth mewn unedau anhysbys.4,1254,173
Cwm Taf MorgannwgMae\'r cyfanswm ar gyfer y BILl yn cynnwys esgoriadau a genedigaeth mewn unedau anhysbys.Ysbyty'r Tywysog Siarl2,6102,642
Ysbyty Tywysoges Cymru1,2801,296
Ysbyty Brenhinol Morgannwg00
[Lleihau]Aneurin BevanMae\'r cyfanswm ar gyfer y BILl yn cynnwys esgoriadau a genedigaeth mewn unedau anhysbys.5,1735,265
Aneurin BevanMae\'r cyfanswm ar gyfer y BILl yn cynnwys esgoriadau a genedigaeth mewn unedau anhysbys.Ysbyty Nevill Hall22
Ysbyty Brenhinol Gwent89
Ysbyty Athrofaol Y Faenor4,9985,088
Ysbyty Ystrad Fawr6262
Ysbyty Aneurin Bevan55
[Lleihau]Caerdydd a’r Fro4,8784,952
Caerdydd a’r FroYsbyty Llandochau00
Ysbyty Athrofaol Cymru4,8784,952

Metadata

Teitl

Cofnodion esgor a geni yn ôl bwrdd iechyd sy'n darparu'r gwasanaeth ac uned famolaeth

Diweddariad diwethaf

Awst 2025 Awst 2025

Diweddariad nesaf

Gorffennaf 2026 (dros dro)

Sefydliad cyhoeddi

Llywodraeth Cymru

Ffynhonnell 1

Maternity Indicators data set

Ffynhonnell 2

Cronfa Ddata Genedlaethol ar Iechyd Plant Cymunedol (NCCHD), Iechyd a Gofal Digidol Cymru (IGDC)

Cyswllt ebost

ystadegau.iechyd@llyw.cymru

Lefel isaf o ddadelfennu daearyddol

Byrddau iechyd lleol

Cwmpas daearyddol

Byrddau iechyd lleol

Cwmpas ieithyddol

Saesneg a Chymraeg

Trwyddedu data

Gallwch ddefnyddio ac ailddefnyddio'r data hwn am ddim mewn unrhyw fformat neu gyfrwng, dan delerau'r Drwydded Llywodraeth Agored - gweler http://www.nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence-cymraeg

Disgrifiad cyffredinol

Mae’r ystadegau hyn yn deillio o ddwy ffynhonnell ddata sef set ddata Dangosyddion Mamolaeth a’r Gronfa Ddata Genedlaethol ar Iechyd Plant Cymunedol. Darperir y ffynonellau data hyn i Lywodraeth Cymru gan Iechyd a Gofal Digidol Cymru.
Sefydlwyd set ddata Dangosyddion Mamolaeth yn 2016. Mae’n cyfuno cofnodion o asesiad cychwynnol ynglyn â'r fam â chofnodion geni’r plentyn gan alluogi Llywodraeth Cymru i fonitro ei set gychwynnol o ddangosyddion canlyniadau a mesurau perfformiad (Dangosyddion Mamolaeth) a sefydlwyd i fesur effeithiolrwydd ac ansawdd gwasanaethau mamolaeth Cymru.

Mae set ddata Dangosyddion Mamolaeth yn ein galluogi i ddadansoddi nodweddion beichiogrwydd y fam a’r broses eni. Mae’r broses o gynhyrchu’r data hwn yn gymhleth, yn bennaf oherwydd y gellir cael data asesiadau cychwynnol lluosog ac nad yw cofnodion asesiadau cychwynnol a genedigaethau’n gyflawn bob amser.
Sefydlwyd y Gronfa Ddata Genedlaethol ar Iechyd Plant Cymunedol yn 2004 ac mae’n cynnwys cofnodion dienw yr holl blant sydd wedi’u geni yng Nghymru, sy’n byw yng Nghymru neu sydd wedi cael triniaeth yng Nghymru ar ôl 1987. Mae’r gronfa ddata yn dwyn ynghyd ddata o gronfeydd data lleol y System Iechyd Plant Cymunedol sy’n cael eu cadw gan fyrddau iechyd lleol. Prif swyddogaeth y gronfa ddata yw darparu cofnod ar-lein o iechyd a gofal plentyn o’r adeg y caiff ei eni nes bydd yn cyrraedd oed gadael ysgol. Mae’r ystadegau yn y datganiad hwn yn seiliedig ar y data a gofnodwyd adeg genedigaeth ac yn fuan wedi genedigaeth.
Mae manylion llawn pob eitem ddata sydd ar gael yn y set ddata Dangosyddion Mamolaeth a’r Gronfa Ddata Genedlaethol ar Iechyd Plant Cymunedol ar gael yng Ngeiriadur Data GIG Cymru: http://www.datadictionary.wales.nhs.uk/#!WordDocuments/datasetstructure20.htm


Casgliad data a dull cyfrifo

Mae’r data o set ddata Dangosyddion Mamolaeth dim ond yn cynnwys data asesiadau cychwynnol lle’r oedd yr asesiad cychwynnol a’r enedigaeth wedi digwydd yn yr un bwrdd iechyd, a hynny yng Nghymru yn unig.
Dylai’r data gynnwys pob genedigaeth yn yr ysbyty a rhai genedigaethau yn y cartref, fodd bynnag, oherwydd y ffordd y caiff y data ei gofnodi, nid ydym yn gallu gwahaniaethu rhwng genedigaethau yn y cartref a genedigaethau yn yr ysbyty mewn rhai byrddau iechyd. Nid yw genedigaethau i famau sy’n byw yng Nghymru a roddodd enedigaeth yn Lloegr neu mewn unrhyw wlad arall y tu allan i Gymru wedi’u cynnwys yn y data.
Mae data ar gyfer pob blwyddyn galendr yn cyfeirio at ba bryd y ganed y babi ar gyfer ystadegau genedigaeth ac asesiad cychwynnol. Mae’n bosibl bod asesiadau cychwynnol wedi digwydd yn y flwyddyn flaenorol, ond cânt eu cyfrif ym mlwyddyn yr enedigaeth. Mae hyn yn sicrhau bod data gydol beichiogrwydd unigol yn cael ei gofnodi yn yr un flwyddyn.
Mae’r Gronfa Ddata Genedlaethol ar Iechyd Plant Cymunedol yn cynnwys cofnodion ar gyfer pob plentyn sydd wedi’i eni, sy’n byw neu sy’n defnyddio gwasanaethau yn eu byrddau iechyd perthnasol. Mae hyn yn golygu bod y gronfa ddata yn cynnwys rhywfaint o wybodaeth ar gyfer rhai plant nad ydynt yn byw yng Nghymru ar hyn o bryd, fodd bynnag, oni nodir yn wahanol, mae’r holl ystadegau a gynhyrchir o ddata o’r gronfa ddata hon yn cael eu hidlo i gynnwys dim ond y plant hynny sydd wedi’u geni yng Nghymru. Mae hefyd yn golygu bod data ar gael ar gyfer mamau sy’n byw yng Nghymru a roddodd enedigaeth yn Lloegr.

Amlder cyhoeddi

Blynyddol

Cyfnodau data dan sylw

2016-2024 (MIDs)
2011-2024 (NCCHD)

Defnyddwyr, defnydd a chyd-destun

Bydd yr ystadegau hyn yn cael eu defnyddio mewn amrywiaeth o ffyrdd. Dyma ambell enghraifft:
• rhoi cyngor i Weinidogion
• llywio trafodaethau yn y Senedd a thu hwnt
• sicrhau bod data ar gael i’r cyhoedd ar ystadegau iechyd plant yng Nghymru
• monitro’r modd y caiff gwasanaethau eu darparu
• datblygu polisïau
• darparu cyngor ar ddewisiadau genedigaeth.
Mae prif ddefnyddwyr yr ystadegau fel a ganlyn:
• Gweinidogion, swyddogion polisi a Gwasanaeth Ymchwil yr Aelodau
• byrddau iechyd lleol
• y cyhoedd
• y gymuned ymchwil
• myfyrwyr, academyddion a phrifysgolion
• Iechyd Cyhoeddus Cymru a sefydliadau eraill y GIG
• sefydliadau genedigaeth gwirfoddol.

Talgrynnu wedi'u ddefnyddio

Nid yw’r data wedi’i dalgrynnu

Gwybodaeth am ddiwygiadau

Mae set ddata Dangosyddion Mamolaeth a’r Gronfa Ddata Genedlaethol ar Iechyd Plant Cymunedol yn gronfeydd data byw, sy’n golygu y gall byrddau iechyd ddiwygio data ar gyfer unrhyw gyfnod. Ar gyfer y data hwn, mae Iechyd a Gofal Digidol Cymru yn cymryd dyfyniadau data o un pwynt amser penodol, ar gyfer y flwyddyn galendr ddiweddaraf. Mae hyn yn golygu y gallai dyfyniadau data a gymerwyd ar gyfer cyfnodau amser blaenorol fod yn wahanol i’r data a gyhoeddir gan ei fod efallai wedi’i ddiwygio gan fyrddau iechyd. Ni fydd Llywodraeth Cymru yn gwneud newidiadau i ddata hanesyddol oni bai y caiff gwallau eu canfod.

Ansawdd ystadegol

O 1 Ebrill 2019 ymlaen, symudodd darpariaeth y gwasanaeth iechyd ar gyfer preswylwyr awdurdod lleol Pen-y-bont ar Ogwr o Abertawe Bro Morgannwg i Gwm Taf. Am ragor o wybodaeth, gweler y datganiad ar y cyd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf a Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg (gweler dolenni). Mae enwau’r byrddau iechyd wedi newid; gelwir Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf bellach yn Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg a gelwir Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg bellach yn Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe.

Mae data ynghylch Abertawe Bro Morgannwg a Chwm Taf ar gael ar gyfer blynyddoedd blaenorol yn y tabl hwn drwy ddewis y blychau ticio yn y gwymplen Ardal.

Mae gwybodaeth fanylach am y ffynonellau data a’r dadansoddiadau yn y datganiad ystadegol hwn ar gael yn yr adroddiad ansawdd: Ystadegau mamolaeth a genedigaethau: adroddiad ansawdd | LLYW.CYMRU

Allweddeiriau

genedigaethau, cludo, uned famolaeth, ysbyty