Neidio i'r cynnwys
Darparwr data: Llywodraeth Cymru Epidwral yn ôl y bwrdd iechyd sy'n darparu'r gwasanaeth
None
Blwyddyn[Hidlwyd]
Mesur[Hidlwyd]
Measure1
Statws[Hidlo]
[Lleihau]Ardal[Hidlwyd]
-
-
Ardal 1
Cliciwch yma i ddidoliRhoddwyd epidwralCliciwch yma i ddidoliNi roddwyd epidwralCliciwch yma i ddidoliNi nodwydCliciwch yma i ddidoliCyfanswm yr esgoriadauYn achos genedigaethau lluosog, caiff unrhyw sôn am epidwral ei gyfrif.
[Lleihau]CymruYn 2024, ni wnaeth Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan ddarparu data wedi’i gofnodi’n gywir ar gyfer yr eitem ddata hon, felly mae wedi’i hepgor o’r dadansoddiad. Mae’r data ar gyfer Cymru yn cynrychioli’r 6 bwrdd iechyd sy’n weddill.4,60514,3311,11320,049
CymruYn 2024, ni wnaeth Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan ddarparu data wedi’i gofnodi’n gywir ar gyfer yr eitem ddata hon, felly mae wedi’i hepgor o’r dadansoddiad. Mae’r data ar gyfer Cymru yn cynrychioli’r 6 bwrdd iechyd sy’n weddill.Betsi Cadwaladr1,0104,15275,169
Powys01750175
Hywel Dda6852,05502,740
Bae Swansea5082,45402,962
Cwm Taf Morgannwg7823,34304,125
Aneurin BevanxNid oes data ar gael - yn 2024, ni wnaeth Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan ddarparu data wedi\’i gofnodi\’n gywir ar gyfer yr eitem ddata hon, felly mae wedi\’i hepgor o\’r dadansoddiad.xNid oes data ar gael - yn 2024, ni wnaeth Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan ddarparu data wedi\’i gofnodi\’n gywir ar gyfer yr eitem ddata hon, felly mae wedi\’i hepgor o\’r dadansoddiad.xNid oes data ar gael - yn 2024, ni wnaeth Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan ddarparu data wedi\’i gofnodi\’n gywir ar gyfer yr eitem ddata hon, felly mae wedi\’i hepgor o\’r dadansoddiad.xNid oes data ar gael - yn 2024, ni wnaeth Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan ddarparu data wedi\’i gofnodi\’n gywir ar gyfer yr eitem ddata hon, felly mae wedi\’i hepgor o\’r dadansoddiad.
Caerdydd a'r Fro1,6202,1521,1064,878

Metadata

Teitl

Epidwral yn ôl y bwrdd iechyd sy'n darparu'r gwasanaeth

Diweddariad diwethaf

Awst 2025 Awst 2025

Diweddariad nesaf

Gorffennaf 2026 (dros dro)

Sefydliad cyhoeddi

Llywodraeth Cymru

Ffynhonnell 1

Maternity Indicators data set

Cyswllt ebost

ystadegau.iechyd@llyw.cymru

Lefel isaf o ddadelfennu daearyddol

Byrddau iechyd lleol

Cwmpas daearyddol

Byrddau iechyd lleol

Cwmpas ieithyddol

Saesneg a Chymraeg

Trwyddedu data

Gallwch ddefnyddio ac ailddefnyddio'r data hwn am ddim mewn unrhyw fformat neu gyfrwng, dan delerau'r Drwydded Llywodraeth Agored - gweler http://www.nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence-cymraeg

Allweddeiriau

epidwral; lleddfu poen; esgor

Disgrifiad cyffredinol

Mae’r data hwn yn deillio o set ddata Dangosyddion Mamolaeth a ddarperir i Lywodraeth Cymru gan Iechyd a Gofal Digidol Cymru.
Sefydlwyd set ddata Dangosyddion Mamolaeth yn 2016. Mae’n cyfuno cofnodion o asesiad cychwynnol ynglyn â'r fam â chofnodion geni’r plentyn gan alluogi Llywodraeth Cymru i fonitro ei set gychwynnol o ddangosyddion canlyniadau a mesurau perfformiad (Dangosyddion Mamolaeth) a sefydlwyd i fesur effeithiolrwydd ac ansawdd gwasanaethau mamolaeth Cymru.

Mae set ddata Dangosyddion Mamolaeth yn ein galluogi i ddadansoddi nodweddion beichiogrwydd y fam a’r broses eni. Mae’r broses o gynhyrchu’r data hwn yn gymhleth, yn bennaf oherwydd y gellir cael data asesiadau cychwynnol lluosog ac nad yw cofnodion asesiadau cychwynnol a genedigaethau’n gyflawn bob amser.
Mae manylion llawn pob eitem ddata sydd ar gael yn y set ddata Dangosyddion Mamolaeth ar gael yng Ngeiriadur Data GIG Cymru: http://www.datadictionary.wales.nhs.uk/#!WordDocuments/datasetstructure20.htm.


Casgliad data a dull cyfrifo

Mae’r data o set ddata Dangosyddion Mamolaeth dim ond yn cynnwys data asesiadau cychwynnol lle’r oedd yr asesiad cychwynnol a’r enedigaeth wedi digwydd yn yr un bwrdd iechyd, a hynny yng Nghymru yn unig.
Dylai’r data gynnwys pob genedigaeth yn yr ysbyty a rhai genedigaethau yn y cartref, fodd bynnag, oherwydd y ffordd y caiff y data ei gofnodi, nid ydym yn gallu gwahaniaethu rhwng genedigaethau yn y cartref a genedigaethau yn yr ysbyty mewn rhai byrddau iechyd. Nid yw genedigaethau i famau sy’n byw yng Nghymru a roddodd enedigaeth yn Lloegr neu mewn unrhyw wlad arall y tu allan i Gymru wedi’u cynnwys yn y data.
Mae data ar gyfer pob blwyddyn galendr yn cyfeirio at ba bryd y ganed y babi ar gyfer ystadegau genedigaeth ac asesiad cychwynnol. Mae’n bosibl bod asesiadau cychwynnol wedi digwydd yn y flwyddyn flaenorol, ond cânt eu cyfrif ym mlwyddyn yr enedigaeth. Mae hyn yn sicrhau bod data gydol beichiogrwydd unigol yn cael ei gofnodi yn yr un flwyddyn.

Amlder cyhoeddi

Blynyddol

Cyfnodau data dan sylw

2016-2024

Defnyddwyr, defnydd a chyd-destun

Bydd yr ystadegau hyn yn cael eu defnyddio mewn amrywiaeth o ffyrdd. Dyma ambell enghraifft:
• rhoi cyngor i Weinidogion
• llywio trafodaethau yn y Senedd a thu hwnt
• sicrhau bod data ar gael i’r cyhoedd ar ystadegau iechyd plant yng Nghymru
• monitro’r modd y caiff gwasanaethau eu darparu
• datblygu polisïau
• darparu cyngor ar ddewisiadau genedigaeth.
Mae prif ddefnyddwyr yr ystadegau fel a ganlyn:
• Gweinidogion, swyddogion polisi a Gwasanaeth Ymchwil yr Aelodau
• byrddau iechyd lleol
• y cyhoedd
• y gymuned ymchwil
• myfyrwyr, academyddion a phrifysgolion
• Iechyd Cyhoeddus Cymru a sefydliadau eraill y GIG
• sefydliadau genedigaeth gwirfoddol.

Talgrynnu wedi'u ddefnyddio

Nid yw’r data wedi’i dalgrynnu

Gwybodaeth am ddiwygiadau

Mae’r set ddata Dangosyddion Mamolaeth yn gronfa ddata fyw, sy’n golygu y gall byrddau iechyd ddiwygio data ar gyfer unrhyw gyfnod. Ar gyfer y data hwn, mae Iechyd a Gofal Digidol Cymru yn cymryd dyfyniadau data o un pwynt amser penodol, ar gyfer y flwyddyn galendr ddiweddaraf. Mae hyn yn golygu y gallai dyfyniadau data a gymerwyd ar gyfer cyfnodau amser blaenorol fod yn wahanol i’r data a gyhoeddir gan ei fod efallai wedi’i ddiwygio gan fyrddau iechyd. Ni fydd Llywodraeth Cymru yn gwneud newidiadau i ddata hanesyddol oni bai y caiff gwallau eu canfod.

Ansawdd ystadegol

O 1 Ebrill 2019 ymlaen, symudodd darpariaeth y gwasanaeth iechyd ar gyfer preswylwyr awdurdod lleol Pen-y-bont ar Ogwr o Abertawe Bro Morgannwg i Gwm Taf. Am ragor o wybodaeth, gweler y datganiad ar y cyd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf a Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg (gweler dolenni). Mae enwau’r byrddau iechyd wedi newid; gelwir Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf bellach yn Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg a gelwir Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg bellach yn Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe.

Mae data ynghylch Abertawe Bro Morgannwg a Chwm Taf ar gael ar gyfer blynyddoedd blaenorol yn y tabl hwn drwy ddewis y blychau ticio yn y gwymplen Ardal.

Mae gwybodaeth fanylach am y ffynonellau data a’r dadansoddiadau yn y datganiad ystadegol hwn ar gael yn yr adroddiad ansawdd: Ystadegau mamolaeth a genedigaethau: adroddiad ansawdd | LLYW.CYMRU.
Yn 2024, ni wnaeth Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan ddarparu data wedi’i gofnodi’n gywir ar gyfer yr eitem ddata hon, felly mae wedi’i hepgor o’r dadansoddiad. Mae’r data ar gyfer Cymru yn cynrychioli’r 6 bwrdd iechyd sy’n weddill.