Neidio i'r cynnwys
Darparwr data: Llywodraeth Cymru Dangosyddion asesu cychwynnol ar gyfer Cymru, yn ôl oedran y fam
None
Mesur[Hidlwyd]
Blwyddyn[Hidlwyd]
Measure1
Dangosydd[Hidlo]
Statws[Hidlo]
[Lleihau]Oedran y fam[Hidlo]
-
-
Oedran y fam 1
[Lleihau]Asesiad cychwynnol o fewn 10 wythnos[Lleihau]Cyflwr iechyd meddwl wedi'i adroddMae’r cyflyrau’n cynnwys: seicosis ôl-esgor (iselder ôl-enedigol difrifol); anhwylder affeithiol deubegynol/iselder manig; seicosis; iselder seicotig; sgitsoffrenia; ac arall.[Lleihau]BMI 30+Dim ond menywod a gafodd eu hasesiad cychwynnol ar eu pedwaredd wythnos ar ddeg o feichiogrwydd, neu ynghynt, a gynhwysir yma, a hynny er mwyn lleihau cymariaethau annheg pan allai twf y babi effeithio ar y BMI mewn achosion pan gynhaliwyd yr asesiad cychwynnol ar ôl pymtheg wythnos. Nid yw\'r canran ar gyfer Cymru yn cynnwys data o Aneurin Bevan oherwydd natur ansicr y data yn 2024.
Cliciwch yma i ddidoliYesCliciwch yma i ddidoliNoCliciwch yma i ddidoliNi nodwydCliciwch yma i ddidoliCyfanswm y menywodCliciwch yma i ddidoliYesCliciwch yma i ddidoliNoCliciwch yma i ddidoliNi nodwydCliciwch yma i ddidoliCyfanswm y menywodCliciwch yma i ddidoliYesCliciwch yma i ddidoliNoCliciwch yma i ddidoliNi nodwydCliciwch yma i ddidoliCyfanswm y menywod
[Lleihau]Pob oedran77.222.82.0.Nid yw\'r eitem ddata yn berthnasolxNot available - Data is excluded because of the low reliability of the data. See notes.xNot available - Data is excluded because of the low reliability of the data. See notes.xNot available - Data is excluded because of the low reliability of the data. See notes..Nid yw\'r eitem ddata yn berthnasol32.167.95.2.Nid yw\'r eitem ddata yn berthnasol
Pob oedranDan 16 oed51.648.40.0.Nid yw\'r eitem ddata yn berthnasolxNot available - Data is excluded because of the low reliability of the data. See notes.xNot available - Data is excluded because of the low reliability of the data. See notes.xNot available - Data is excluded because of the low reliability of the data. See notes..Nid yw\'r eitem ddata yn berthnasol20.080.00.0.Nid yw\'r eitem ddata yn berthnasol
16-1967.732.32.5.Nid yw\'r eitem ddata yn berthnasolxNot available - Data is excluded because of the low reliability of the data. See notes.xNot available - Data is excluded because of the low reliability of the data. See notes.xNot available - Data is excluded because of the low reliability of the data. See notes..Nid yw\'r eitem ddata yn berthnasol19.780.36.7.Nid yw\'r eitem ddata yn berthnasol
20-2475.224.82.2.Nid yw\'r eitem ddata yn berthnasolxNot available - Data is excluded because of the low reliability of the data. See notes.xNot available - Data is excluded because of the low reliability of the data. See notes.xNot available - Data is excluded because of the low reliability of the data. See notes..Nid yw\'r eitem ddata yn berthnasol32.567.54.7.Nid yw\'r eitem ddata yn berthnasol
25-2978.321.72.0.Nid yw\'r eitem ddata yn berthnasolxNot available - Data is excluded because of the low reliability of the data. See notes.xNot available - Data is excluded because of the low reliability of the data. See notes.xNot available - Data is excluded because of the low reliability of the data. See notes..Nid yw\'r eitem ddata yn berthnasol34.165.95.6.Nid yw\'r eitem ddata yn berthnasol
30-3479.120.91.8.Nid yw\'r eitem ddata yn berthnasolxNot available - Data is excluded because of the low reliability of the data. See notes.xNot available - Data is excluded because of the low reliability of the data. See notes.xNot available - Data is excluded because of the low reliability of the data. See notes..Nid yw\'r eitem ddata yn berthnasol31.168.95.1.Nid yw\'r eitem ddata yn berthnasol
35-3977.122.92.0.Nid yw\'r eitem ddata yn berthnasolxNot available - Data is excluded because of the low reliability of the data. See notes.xNot available - Data is excluded because of the low reliability of the data. See notes.xNot available - Data is excluded because of the low reliability of the data. See notes..Nid yw\'r eitem ddata yn berthnasol32.567.55.2.Nid yw\'r eitem ddata yn berthnasol
40-4471.528.52.2.Nid yw\'r eitem ddata yn berthnasolxNot available - Data is excluded because of the low reliability of the data. See notes.xNot available - Data is excluded because of the low reliability of the data. See notes.xNot available - Data is excluded because of the low reliability of the data. See notes..Nid yw\'r eitem ddata yn berthnasol34.565.54.7.Nid yw\'r eitem ddata yn berthnasol
45 oed a hyn60.040.00.0.Nid yw\'r eitem ddata yn berthnasolxNot available - Data is excluded because of the low reliability of the data. See notes.xNot available - Data is excluded because of the low reliability of the data. See notes.xNot available - Data is excluded because of the low reliability of the data. See notes..Nid yw\'r eitem ddata yn berthnasol30.369.75.7.Nid yw\'r eitem ddata yn berthnasol
Ni nodwyd0.00.00.0.Nid yw\'r eitem ddata yn berthnasolxNot available - Data is excluded because of the low reliability of the data. See notes.xNot available - Data is excluded because of the low reliability of the data. See notes.xNot available - Data is excluded because of the low reliability of the data. See notes..Nid yw\'r eitem ddata yn berthnasol0.00.00.0.Nid yw\'r eitem ddata yn berthnasol

Metadata

Teitl

Dangosyddion asesu cychwynnol yn ôl oedran y fam, Cymru

Diweddariad diwethaf

Awst 2025 Awst 2025

Diweddariad nesaf

Gorffennaf 2026 (dros dro)

Sefydliad cyhoeddi

Llywodraeth Cymru

Ffynhonnell 1

Maternity Indicators data set

Cyswllt ebost

ystadegau.iechyd@llyw.cymru

Lefel isaf o ddadelfennu daearyddol

Cymru

Cwmpas daearyddol

Cymru

Cwmpas ieithyddol

Saesneg a Chymraeg

Trwyddedu data

Gallwch ddefnyddio ac ailddefnyddio'r data hwn am ddim mewn unrhyw fformat neu gyfrwng, dan delerau'r Drwydded Llywodraeth Agored - gweler http://www.nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence-cymraeg

Disgrifiad cyffredinol

Mae’r data hwn yn deillio o set ddata Dangosyddion Mamolaeth a ddarperir i Lywodraeth Cymru gan Iechyd a Gofal Digidol Cymru.
Sefydlwyd set ddata Dangosyddion Mamolaeth yn 2016. Mae’n cyfuno cofnodion o asesiad cychwynnol ynglyn â'r fam â chofnodion geni’r plentyn gan alluogi Llywodraeth Cymru i fonitro ei set gychwynnol o ddangosyddion canlyniadau a mesurau perfformiad (Dangosyddion Mamolaeth) a sefydlwyd i fesur effeithiolrwydd ac ansawdd gwasanaethau mamolaeth Cymru.

Mae set ddata Dangosyddion Mamolaeth yn ein galluogi i ddadansoddi nodweddion beichiogrwydd y fam a’r broses eni. Mae’r broses o gynhyrchu’r data hwn yn gymhleth, yn bennaf oherwydd y gellir cael data asesiadau cychwynnol lluosog ac nad yw cofnodion asesiadau cychwynnol a genedigaethau’n gyflawn bob amser.
Mae manylion llawn pob eitem ddata sydd ar gael yn y set ddata Dangosyddion Mamolaeth ar gael yng Ngeiriadur Data GIG Cymru: http://www.datadictionary.wales.nhs.uk/#!WordDocuments/datasetstructure20.htm.
Caiff y cyflyrau iechyd meddwl a restrir ar y cofnod eu categoreiddio fel a ganlyn: seicosis ôl-esgor (iselder ôl-enedigol difrifol); anhwylder affeithiol deubegynol / iselder manig; seicosis; iselder seicotig; sgitsoffrenia; ac arall (unrhyw gyflwr iechyd meddwl arall).


Casgliad data a dull cyfrifo

Mae’r data o set ddata Dangosyddion Mamolaeth dim ond yn cynnwys data asesiadau cychwynnol lle’r oedd yr asesiad cychwynnol a’r enedigaeth wedi digwydd yn yr un bwrdd iechyd, a hynny yng Nghymru yn unig.
Dylai’r data gynnwys pob genedigaeth yn yr ysbyty a rhai genedigaethau yn y cartref, fodd bynnag, oherwydd y ffordd y caiff y data ei gofnodi, nid ydym yn gallu gwahaniaethu rhwng genedigaethau yn y cartref a genedigaethau yn yr ysbyty mewn rhai byrddau iechyd. Nid yw genedigaethau i famau sy’n byw yng Nghymru a roddodd enedigaeth yn Lloegr neu mewn unrhyw wlad arall y tu allan i Gymru wedi’u cynnwys yn y data.
Mae data ar gyfer pob blwyddyn galendr yn cyfeirio at ba bryd y ganed y babi ar gyfer ystadegau genedigaeth ac asesiad cychwynnol. Mae’n bosibl bod asesiadau cychwynnol wedi digwydd yn y flwyddyn flaenorol, ond cânt eu cyfrif ym mlwyddyn yr enedigaeth. Mae hyn yn sicrhau bod data gydol beichiogrwydd unigol yn cael ei gofnodi yn yr un flwyddyn.
Mae’r ganran ar lefel Cymru ar gyfer menywod beichiog sydd â BMI o 30 neu fwy yn seiliedig ar bob cofnod llai o gofnodion sydd â gwerth ‘heb ei nodi’ neu annilys. Cofnodion pan fo BMI, uchder neu bwysau yn werthoedd afrealistig yn cael eu hystyried yn annilys, er enghraifft pan fo BMI yn llai na 10 neu’n fwy na 100, pan fo pwysau’r fenyw feichiog yn llai na 30kg neu’n fwy na 250kg, a phan fo uchder y fenyw feichiog yn llai na 120cm neu’n fwy na 200cm. Gellir dod o hyd i nifer y cofnodion a eithriwyd yn Nhabl 4 o’r Ystadegau mamolaeth a genedigaethau: adroddiad ansawdd (tablau) (Ystadegau mamolaeth a genedigaethau: adroddiad ansawdd | LLYW.CYMRU).
Mae'r cyfrifiad yn cynnwys hefyd yn unig ferched a oedd â'u gwerthusiad cychwynnol wedi'i gwblhau ar 14 wythnos o feichiogrwydd neu'n gynnar. Mae hyn i leihau cymaradau annheg lle mae'r cyfrifiad BMI yn cael ei ddylanwadu gan dyfiant y babi lle digwyddodd y gwerthusiad cychwynnol ar ôl 15 wythnos. Mae rhwng 11% a 15% o'r holl feichiogrwydd wedi'u heithrio am y rheswm hwn bob blwyddyn.

Amlder cyhoeddi

Blynyddol

Cyfnodau data dan sylw

2016-2024

Defnyddwyr, defnydd a chyd-destun

Bydd yr ystadegau hyn yn cael eu defnyddio mewn amrywiaeth o ffyrdd. Dyma ambell enghraifft:
• rhoi cyngor i Weinidogion
• llywio trafodaethau yn y Senedd a thu hwnt
• sicrhau bod data ar gael i’r cyhoedd ar ystadegau iechyd plant yng Nghymru
• monitro’r modd y caiff gwasanaethau eu darparu
• datblygu polisïau
• darparu cyngor ar ddewisiadau genedigaeth.
Mae prif ddefnyddwyr yr ystadegau fel a ganlyn:
• Gweinidogion, swyddogion polisi a Gwasanaeth Ymchwil yr Aelodau
• byrddau iechyd lleol
• y cyhoedd
• y gymuned ymchwil
• myfyrwyr, academyddion a phrifysgolion
• Iechyd Cyhoeddus Cymru a sefydliadau eraill y GIG
• sefydliadau genedigaeth gwirfoddol.

Talgrynnu wedi'u ddefnyddio

Nid yw’r data wedi’i dalgrynnu

Gwybodaeth am ddiwygiadau

Mae’r set ddata Dangosyddion Mamolaeth yn gronfa ddata fyw, sy’n golygu y gall byrddau iechyd ddiwygio data ar gyfer unrhyw gyfnod. Ar gyfer y data hwn, mae Iechyd a Gofal Digidol Cymru yn cymryd dyfyniadau data o un pwynt amser penodol, ar gyfer y flwyddyn galendr ddiweddaraf. Mae hyn yn golygu y gallai dyfyniadau data a gymerwyd ar gyfer cyfnodau amser blaenorol fod yn wahanol i’r data a gyhoeddir gan ei fod efallai wedi’i ddiwygio gan fyrddau iechyd. Ni fydd Llywodraeth Cymru yn gwneud newidiadau i ddata hanesyddol oni bai y caiff gwallau eu canfod.

Ansawdd ystadegol

O 1 Ebrill 2019 ymlaen, symudodd darpariaeth y gwasanaeth iechyd ar gyfer preswylwyr awdurdod lleol Pen-y-bont ar Ogwr o Abertawe Bro Morgannwg i Gwm Taf. Am ragor o wybodaeth, gweler y datganiad ar y cyd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf a Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg (gweler dolenni). Mae enwau’r byrddau iechyd wedi newid; gelwir Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf bellach yn Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg a gelwir Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg bellach yn Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe.

Mae data ynghylch Abertawe Bro Morgannwg a Chwm Taf ar gael ar gyfer blynyddoedd blaenorol yn y tabl hwn drwy ddewis y blychau ticio yn y gwymplen Ardal.

Mae gwybodaeth fanylach am y ffynonellau data a’r dadansoddiadau yn y datganiad ystadegol hwn ar gael yn yr adroddiad ansawdd: Ystadegau mamolaeth a genedigaethau: adroddiad ansawdd | LLYW.CYMRU.

Nid yw’r ganran ar lefel Cymru ar gyfer menywod beichiog sy’n adrodd am gyflwr iechyd meddwl yn yr asesiad cychwynnol yn cynnwys data gan Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr a Bwrdd Iechyd Cwm Taf/Cwm Taf Morgannwg oherwydd dibynadwyedd isel y data am y chwe blynedd. Er bod data dilys wedi’i gofnodi ar gyfer 99% o’r cofnodion yn y ddau fwrdd iechyd, cofnodwyd nad oedd gan y mwyafrif helaeth unrhyw gyflwr iechyd meddwl sy’n annhebygol o adlewyrchu’r sefyllfa wirioneddol yn y byrddau iechyd hyn.
Mae gan bob bwrdd iechyd arall ddata dilys ar gyfer yr eitem ddata iechyd meddwl mewn o leiaf 88% o gofnodion ym mhob blwyddyn, ar wahân i Fwrdd Iechyd Caerdydd a’r Fro yn 2016 (cyflawnrwydd o 56%). Ar gyfer 2024, mae Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan wedi’i eithrio o’r dadansoddiad sy’n adrodd am gyflwr iechyd meddwl yn yr asesiad cychwynnol oherwydd lefelau uchel o ddata coll (76%).
Ar gyfer y blynyddoedd 2016 i 2023, mae’r cyfanswm ar gyfer Cymru yn cynrychioli data gan 5 bwrdd iechyd. Caiff data gan Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr a Bwrdd Iechyd Cwm Taf/Cwm Taf Morgannwg ei eithrio oherwydd dibynadwyedd isel y data iechyd meddwl a gofnodwyd. Nid yw’r cyfanswm ar gyfer Cymru yn cael ei gyflwyno ychwaith ar gyfer 2024 oherwydd bod 3 bwrdd iechyd wedi'u heithrio o’r dadansoddiad data (y rhain ynghyd â Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan).
Mae’r canrannau ar gyfer nifer y menywod beichiog sy’n adrodd am gyflwr iechyd meddwl adeg yr asesiad cychwynnol yn seiliedig ar bob cofnod llai o gofnodion sydd â gwerth ‘heb ei nodi’ ar gyfer cyflwr iechyd meddwl. Gellir dod o hyd i nifer y cofnodion a dynnwyd o’r cyfrifiad yn Nhabl 4 o’r Ystadegau mamolaeth a genedigaethau: adroddiad ansawdd (tablau) (Ystadegau mamolaeth a genedigaethau: adroddiad ansawdd | LLYW. CYMRU).
Roedd gan fwy na 90% o gofnodion ddata dilys ar gyfer eitemau data uchder a phwysau, ar draws pob bwrdd iechyd, yn y mwyafrif o flynyddoedd ar wahân i’r rhai a ganlyn: Bwrdd Iechyd Cwm Taf yn 2016 (77%) ac yn 2019 (88%) a Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr yn 2019 (89%).
Ar gyfer 2024, mae Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan wedi’i eithrio o’r dadansoddiad oherwydd lefelau uchel o ddata annilys ar gyfer taldra sy’n arwain at 77% o ddata coll ar gyfer BMI. Mae’r data ar gyfer Cymru yn cynrychioli’r 6 bwrdd iechyd sy’n weddill.

Allweddeiriau

mamolaeth; asesiad cychwynnol; cyfnod beichiogrwydd; iechyd meddwl; BMI