Neidio i'r cynnwys
Darparwr data: Llywodraeth Cymru Genedigaethau byw i breswylwyr yng Nghymru fesul grŵp ethnig a’r bwrdd iechyd sy'n darparu'r gwasanaeth
None
Cod Ardal[Hidlo]
Mesur[Hidlwyd]
Blwyddyn[Hidlwyd]
Measure1
[Lleihau]Grwp ethnig[Hidlo]
-
Grwp ethnig 1
[Lleihau]Ardal[Hidlwyd]
-
-
Ardal 1
[Lleihau]Pob grwp ethnigCliciwch yma i ddidoliPob grwp ethnig
Cliciwch yma i ddidoliGwynUnrhyw gefndir gwynCliciwch yma i ddidoliCymysg/LluosogGwyn ac Asiaidd, gwyn a du Affricanaidd, gwyn a du Caribïaidd, unrhyw gefndir cymysg arallCliciwch yma i ddidoliAsiaiddPacistanaidd, Bangladeshaidd, Tsieineaidd, Indiaidd, unrhyw gefndir Asiaidd arallCliciwch yma i ddidoliDuAffricanaidd, Caribïaidd, unrhyw gefndir du arallCliciwch yma i ddidoliArallCliciwch yma i ddidoliHeb ei nodi
[Lleihau]CymruCyfanswm Cymru\'n cynnwys genedigaethau byw i breswylwyr yng Nghymru mewn byrddau iechyd anhysbys a rhai nad ydynt yn rhai Cymreig.15,3188951,1866313588,55626,944
CymruCyfanswm Cymru\'n cynnwys genedigaethau byw i breswylwyr yng Nghymru mewn byrddau iechyd anhysbys a rhai nad ydynt yn rhai Cymreig.Betsi Cadwaladr2,327557849303,0435,582
Powys563141044319914
Hywel Dda2,058425228107232,913
Bae Swansea2588121432,9383,233
Cwm Taf Morgannwg2,510728050191,1033,834
Aneurin Bevan4,603253335162811345,568
Caerdydd a'r Fro2,9214496163202102774,793

Metadata

Teitl

Genedigaethau byw i breswylwyr yng Nghymru fesul grwp ethnig a’r bwrdd iechyd sy'n darparu'r gwasanaeth

Diweddariad diwethaf

Awst 2025 Awst 2025

Diweddariad nesaf

Gorffennaf 2026 (dros dro)

Sefydliad cyhoeddi

Llywodraeth Cymru

Ffynhonnell 1

Cronfa Ddata Genedlaethol ar Iechyd Plant Cymunedol (NCCHD), Iechyd a Gofal Digidol Cymru (IGDC)

Cyswllt ebost

ystadegau.iechyd@llyw.cymru

Dynodiad

Ystadegau Gwladol

Lefel isaf o ddadelfennu daearyddol

Byrddau iechyd lleol

Cwmpas daearyddol

Byrddau iechyd lleol

Cwmpas ieithyddol

Saesneg a Chymraeg

Trwyddedu data

Gallwch ddefnyddio ac ailddefnyddio'r data hwn am ddim mewn unrhyw fformat neu gyfrwng, dan delerau'r Drwydded Llywodraeth Agored - gweler http://www.nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence-cymraeg

Disgrifiad cyffredinol

Mae’r ystadegau hyn yn deillio o a’r Gronfa Ddata Genedlaethol ar Iechyd Plant Cymunedol. Darperir y ffynonellau data hyn i Lywodraeth Cymru gan Iechyd a Gofal Digidol Cymru.
Sefydlwyd y Gronfa Ddata Genedlaethol ar Iechyd Plant Cymunedol yn 2004 ac mae’n cynnwys cofnodion dienw yr holl blant sydd wedi’u geni yng Nghymru, sy’n byw yng Nghymru neu sydd wedi cael triniaeth yng Nghymru ar ôl 1987. Mae’r gronfa ddata yn dwyn ynghyd ddata o gronfeydd data lleol y System Iechyd Plant Cymunedol sy’n cael eu cadw gan fyrddau iechyd lleol. Prif swyddogaeth y gronfa ddata yw darparu cofnod ar-lein o iechyd a gofal plentyn o’r adeg y caiff ei eni nes bydd yn cyrraedd oed gadael ysgol. Mae’r ystadegau yn y datganiad hwn yn seiliedig ar y data a gofnodwyd adeg genedigaeth ac yn fuan wedi genedigaeth.
Mae manylion llawn pob eitem ddata sydd ar gael yn y set ddata Dangosyddion Mamolaeth a’r Gronfa Ddata Genedlaethol ar Iechyd Plant Cymunedol ar gael yng Ngeiriadur Data GIG Cymru: http://www.datadictionary.wales.nhs.uk/#!WordDocuments/datasetstructure20.htm

Mae’r geiriadur data hefyd yn diffinio sut y mae grwpiau ethnig yn cael eu dosbarthu, fel a ganlyn: Gwyn (unrhyw gefndir gwyn); Asiaidd (Pacistanaidd, Bangladeshaidd, Tsieineaidd, Indiaidd, unrhyw gefndir Asiaidd arall); Cymysg neu Aml-ethnig (gwyn ac Asiaidd, gwyn a du Affricanaidd, gwyn a Du Caribïaidd, unrhyw gefndir cymysg arall); Arall (unrhyw grwp ethnig arall); Du (Affricanaidd, Caribïaidd, unrhyw gefndir du arall).


Casgliad data a dull cyfrifo

Mae’r Gronfa Ddata Genedlaethol ar Iechyd Plant Cymunedol yn cynnwys cofnodion ar gyfer pob plentyn sydd wedi’i eni, sy’n byw neu sy’n defnyddio gwasanaethau yn eu byrddau iechyd perthnasol. Mae hyn yn golygu bod y gronfa ddata yn cynnwys rhywfaint o wybodaeth ar gyfer rhai plant nad ydynt yn byw yng Nghymru ar hyn o bryd, fodd bynnag, oni nodir yn wahanol, mae’r holl ystadegau a gynhyrchir o ddata o’r gronfa ddata hon yn cael eu hidlo i gynnwys dim ond y plant hynny sydd wedi’u geni yng Nghymru. Mae hefyd yn golygu bod data ar gael ar gyfer mamau sy’n byw yng Nghymru a roddodd enedigaeth yn Lloegr.

Amlder cyhoeddi

Blynyddol

Cyfnodau data dan sylw

2018-2024

Defnyddwyr, defnydd a chyd-destun

Bydd yr ystadegau hyn yn cael eu defnyddio mewn amrywiaeth o ffyrdd. Dyma ambell enghraifft:
• rhoi cyngor i Weinidogion
• llywio trafodaethau yn y Senedd a thu hwnt
• sicrhau bod data ar gael i’r cyhoedd ar ystadegau iechyd plant yng Nghymru
• monitro’r modd y caiff gwasanaethau eu darparu
• datblygu polisïau
• darparu cyngor ar ddewisiadau genedigaeth.
Mae prif ddefnyddwyr yr ystadegau fel a ganlyn:
• Gweinidogion, swyddogion polisi a Gwasanaeth Ymchwil yr Aelodau
• byrddau iechyd lleol
• y cyhoedd
• y gymuned ymchwil
• myfyrwyr, academyddion a phrifysgolion
• Iechyd Cyhoeddus Cymru a sefydliadau eraill y GIG
• sefydliadau genedigaeth gwirfoddol.

Talgrynnu wedi'u ddefnyddio

Nid yw’r data wedi’i dalgrynnu

Gwybodaeth am ddiwygiadau

Mae set ddata Gronfa Ddata Genedlaethol ar Iechyd Plant Cymunedol yn gronfeydd data byw, sy’n golygu y gall byrddau iechyd ddiwygio data ar gyfer unrhyw gyfnod. Ar gyfer y data hwn, mae Iechyd a Gofal Digidol Cymru yn cymryd dyfyniadau data o un pwynt amser penodol, ar gyfer y flwyddyn galendr ddiweddaraf. Mae hyn yn golygu y gallai dyfyniadau data a gymerwyd ar gyfer cyfnodau amser blaenorol fod yn wahanol i’r data a gyhoeddir gan ei fod efallai wedi’i ddiwygio gan fyrddau iechyd. Ni fydd Llywodraeth Cymru yn gwneud newidiadau i ddata hanesyddol oni bai y caiff gwallau eu canfod.

Ansawdd ystadegol

O 1 Ebrill 2019 ymlaen, symudodd darpariaeth y gwasanaeth iechyd ar gyfer preswylwyr awdurdod lleol Pen-y-bont ar Ogwr o Abertawe Bro Morgannwg i Gwm Taf. Am ragor o wybodaeth, gweler y datganiad ar y cyd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf a Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg (gweler dolenni). Mae enwau’r byrddau iechyd wedi newid; gelwir Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf bellach yn Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg a gelwir Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg bellach yn Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe.

Mae data ynghylch Abertawe Bro Morgannwg a Chwm Taf ar gael ar gyfer blynyddoedd blaenorol yn y tabl hwn drwy ddewis y blychau ticio yn y gwymplen Ardal.

Allweddeiriau

grwp ethnig