Nifer ac canran y menywod a ddywedodd fod ganddynt gyflwr iechyd meddwl yn yr asesiad cychwynnol, yn ôl bwrdd iechyd sy'n darparu'r gwasanaeth
None
|
Metadata
- Gwybodaeth cryno
- Gwybodaeth ansawdd ystadegol
- Dolenni'r we
- Allweddeiriau
- Gwybodaeth lefel uchel
- Data agored
Disgrifiad cyffredinol
Mae’r cyflyrau’n cynnwys: seicosis ôl-esgor (iselder ôl-enedigol difrifol); anhwylder affeithiol deubegynol/iselder manig; seicosis; iselder seicotig; sgitsoffrenia; ac arall.Er bod data dilys wedi’i gofnodi ar gyfer yr eitem hon mewn mwy na 90% o gofnodion, a hynny ar draws y rhan fwyaf o fyrddau iechyd ac yn ystod y mwyafrif o flynyddoedd, mae rhywfaint o broblemau i’w cael o ran ansawdd y data. Dim ond 56% o gofnodion Caerdydd a’r Fro oedd â data dilys yn 2016, ac 88% yn Hywel Dda rhwng 2016 a 2018 ac yn 2020. Ymddengys fod y data a gofnodwyd ym myrddau iechyd Betsi Cadwaladr a Chwm Taf Morgannwg wedi’i gofnodi ar sail wahanol i fyrddau iechyd eraill, a chaiff data gan y ddau fwrdd iechyd hyn ei hepgor o’r ffigurau cyfanswm ar gyfer Cymru.
Mae manylion llawn pob eitem ddata sydd ar gael ar set ddata Dangosyddion Mamolaeth a’r Gronfa Ddata Genedlaethol ar Iechyd Plant Cymunedol ar gael drwy Gyfeiriadur Data NWIS: http://www.datadictionary.wales.nhs.uk/#!WordDocuments/datasetstructure20.htm
O 1 Ebrill 2019, symudodd darpariaeth gwasanaeth iechyd trigolion awdurdod lleol Pen-y-bont ar Ogwr o Abertawe Bro Morgannwg i Gwm Taf. Am ragor o wybodaeth gweler y datganiad ar y cyd gan Fyrddau Iechyd Prifysgol Cwm Taf ac Abertawe Bro Morgannwg (gweler y dolenni gwe). Mae enwau'r byrddau iechyd wedi newid; mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf bellach yn Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, ac mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg bellach yn Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe.
Mae data ar gyfer Abertawe Bro Morgannwg a Chwm Taf ar gael ar gyfer blynyddoedd blaenorol yn y tabl hwn drwy ddewis y blychau ticio yn y gwymplen Ardal.
Amlder cyhoeddi
BlynyddolCyfnodau data dan sylw
2016-2022Ansawdd ystadegol
Mae canran y cofnodion dilys ar gyfer pob eitem ddata a ddefnyddir yn y datganiad hwn o'r ddwy ffynhonnell, a rhagor o fanylion am y ffynonellau data a’r dadansoddiadau yn y datganiad ystadegol hwn, ar gael yn yr adroddiad ansawdd: https://llyw.cymru/ystadegau-mamolaeth-genedigaethau-adroddiad-ansawddDolenni'r we
https://llyw.cymru/ystadegau-mamolaeth-genedigaethauhttps://cwmtaf.wales/welsh-government-announce-decision-on-bridgend-boundary-change/
https://llyw.cymru/datganiad-ysgrifenedig-ffin-y-byrddau-iechyd-ym-mhen-y-bont-ar-ogwr-cynllunio-cysylltiol