Neidio i'r cynnwys
Darparwr data: Llywodraeth Cymru Nifer a chanran y menywod a gafodd asesiad cychwynnol erbyn 10fed wythnos gyflawn eu beichiogrwydd, yn ôl bwrdd iechyd sy'n darparu'r gwasanaeth
None
Blwyddyn[Hidlwyd]
Cod Ardal[Hidlo]
Mesur[Hidlwyd]
Measure1
Statws[Hidlo]
[Lleihau]Ardal[Hidlwyd]
-
-
Ardal 1
Cliciwch yma i ddidoliO fewn 10 wythnosYr asesiad cychwynnol wedi\'i gynnal erbyn 10fed wythnos gyflawn y beichiogrwydd.Cliciwch yma i ddidoli11-15 wythnosCliciwch yma i ddidoli16-20 wythnosCliciwch yma i ddidoli21-25 wythnosCliciwch yma i ddidoli26-30 wythnosCliciwch yma i ddidoli31-35 wythnosCliciwch yma i ddidoli36-40 wythnosCliciwch yma i ddidoli41-45 wythnosCliciwch yma i ddidoliNi nodwydCliciwch yma i ddidoliCyfanswm y menywod
[Lleihau]Cymru18,6013,6764793513092553694148224,563
CymruBetsi Cadwaladr4,0706268851384418330235,153
Powys126344332300175
Hywel Dda2,1873254629282222012,660
Bae Swansea2,211516594533169012,890
Cwm Taf Morgannwg2,806466879597563632183,864
Aneurin Bevan3,2411,1141006350558572354,950
Caerdydd a'r Fro3,9605959565606031144,871

Metadata

Disgrifiad cyffredinol

Mae’r data hwn yn deillio o set ddata Dangosyddion Mamolaeth a ddarperir i Lywodraeth Cymru gan Iechyd a Gofal Digidol Cymru.
Sefydlwyd set ddata Dangosyddion Mamolaeth yn 2016. Mae’n cyfuno cofnodion o asesiad cychwynnol ynglyn â'r fam â chofnodion geni’r plentyn gan alluogi Llywodraeth Cymru i fonitro ei set gychwynnol o ddangosyddion canlyniadau a mesurau perfformiad (Dangosyddion Mamolaeth) a sefydlwyd i fesur effeithiolrwydd ac ansawdd gwasanaethau mamolaeth Cymru.

Mae set ddata Dangosyddion Mamolaeth yn ein galluogi i ddadansoddi nodweddion beichiogrwydd y fam a’r broses eni. Mae’r broses o gynhyrchu’r data hwn yn gymhleth, yn bennaf oherwydd y gellir cael data asesiadau cychwynnol lluosog ac nad yw cofnodion asesiadau cychwynnol a genedigaethau’n gyflawn bob amser.
Mae manylion llawn pob eitem ddata sydd ar gael yn y set ddata Dangosyddion Mamolaeth ar gael yng Ngeiriadur Data GIG Cymru: http://www.datadictionary.wales.nhs.uk/#!WordDocuments/datasetstructure20.htm.
Mae hyd beichiogrwydd yn seiliedig ar yr amcangyfrif gorau sydd ar gael ar gyfer pan ddechreuodd beichiogrwydd, yn seiliedig ar naill ai ddyddiad y mislif diwethaf neu ar sgan uwchsain.


Casgliad data a dull cyfrifo

Mae’r data o set ddata Dangosyddion Mamolaeth dim ond yn cynnwys data asesiadau cychwynnol lle’r oedd yr asesiad cychwynnol a’r enedigaeth wedi digwydd yn yr un bwrdd iechyd, a hynny yng Nghymru yn unig.
Dylai’r data gynnwys pob genedigaeth yn yr ysbyty a rhai genedigaethau yn y cartref, fodd bynnag, oherwydd y ffordd y caiff y data ei gofnodi, nid ydym yn gallu gwahaniaethu rhwng genedigaethau yn y cartref a genedigaethau yn yr ysbyty mewn rhai byrddau iechyd. Nid yw genedigaethau i famau sy’n byw yng Nghymru a roddodd enedigaeth yn Lloegr neu mewn unrhyw wlad arall y tu allan i Gymru wedi’u cynnwys yn y data.
Mae data ar gyfer pob blwyddyn galendr yn cyfeirio at ba bryd y ganed y babi ar gyfer ystadegau genedigaeth ac asesiad cychwynnol. Mae’n bosibl bod asesiadau cychwynnol wedi digwydd yn y flwyddyn flaenorol, ond cânt eu cyfrif ym mlwyddyn yr enedigaeth. Mae hyn yn sicrhau bod data gydol beichiogrwydd unigol yn cael ei gofnodi yn yr un flwyddyn.
Efallai fod rhai menywod wedi cael eu hasesiad cychwynnol cyn y dyddiad a gofnodir yn y set ddata Dangosyddion Mamolaeth, a hynny gan fod y fethodoleg gyfuno sy’n gysylltiedig â’r asesiad cychwynnol a’r cofnod genedigaeth yn seiliedig ar ba bryd y mae’r rhain yn digwydd o fewn yr un bwrdd iechyd.
Mae’n bosibl y gallai mam gael asesiad cychwynnol mewn un bwrdd iechyd yn gynnar yn ei beichiogrwydd, ond os bydd yn rhoi genedigaeth wedyn mewn bwrdd iechyd arall am ryw reswm (er enghraifft, cymhlethdodau annisgwyl, neu efallai ei bod mewn ardal bwrdd iechyd gwahanol ar y pryd), caiff asesiad cychwynnol arall ei gofnodi ar ei chyfer yn yr ail fwrdd iechyd lle mae’n rhoi genedigaeth. Gallai hyn esbonio’r brig bach oddeutu 39 a 40 o wythnosau.
Cofnodwyd cyfran fach o’r asesiadau cychwynnol (1%) rhwng 39 a 40 o wythnosau, gan felly gyfrif o bosibl am famau a gafodd eu hasesiad cychwynnol mewn un bwrdd iechyd yn gynnar yn y beichiogrwydd, ond a roddodd enedigaeth mewn bwrdd iechyd arall gan arwain at asesiad cychwynnol arall yn cael ei gofnodi adeg genedigaeth.
Mae canran y menywod a gafodd eu hasesiad cychwynnol erbyn 10 wythnos o feichiogrwydd wedi’u cwblhau yn seiliedig ar bob cofnod llai o gofnodion sydd â gwerth ‘heb ei nodi’ ar gyfer oed y ffetws adeg yr asesiad cychwynnol. Mae ‘heb ei nodi’ hefyd yn cynnwys cofnodion lle nodwyd bod oed y ffetws yn 0 wythnos. Gellir dod o hyd i nifer y cofnodion a dynnwyd o’r cyfrifiad yn Nhabl 4 o’r Ystadegau mamolaeth a genedigaethau: adroddiad ansawdd (tablau) (Ystadegau mamolaeth a genedigaethau: adroddiad ansawdd | LLYW. CYMRU).

Amlder cyhoeddi

Blynyddol

Cyfnodau data dan sylw

2016-2024

Defnyddwyr, defnydd a chyd-destun

Bydd yr ystadegau hyn yn cael eu defnyddio mewn amrywiaeth o ffyrdd. Dyma ambell enghraifft:
• rhoi cyngor i Weinidogion
• llywio trafodaethau yn y Senedd a thu hwnt
• sicrhau bod data ar gael i’r cyhoedd ar ystadegau iechyd plant yng Nghymru
• monitro’r modd y caiff gwasanaethau eu darparu
• datblygu polisïau
• darparu cyngor ar ddewisiadau genedigaeth.
Mae prif ddefnyddwyr yr ystadegau fel a ganlyn:
• Gweinidogion, swyddogion polisi a Gwasanaeth Ymchwil yr Aelodau
• byrddau iechyd lleol
• y cyhoedd
• y gymuned ymchwil
• myfyrwyr, academyddion a phrifysgolion
• Iechyd Cyhoeddus Cymru a sefydliadau eraill y GIG
• sefydliadau genedigaeth gwirfoddol.

Talgrynnu wedi'u ddefnyddio

Nid yw’r data wedi’i dalgrynnu

Gwybodaeth am ddiwygiadau

Mae’r set ddata Dangosyddion Mamolaeth yn gronfa ddata fyw, sy’n golygu y gall byrddau iechyd ddiwygio data ar gyfer unrhyw gyfnod. Ar gyfer y data hwn, mae Iechyd a Gofal Digidol Cymru yn cymryd dyfyniadau data o un pwynt amser penodol, ar gyfer y flwyddyn galendr ddiweddaraf. Mae hyn yn golygu y gallai dyfyniadau data a gymerwyd ar gyfer cyfnodau amser blaenorol fod yn wahanol i’r data a gyhoeddir gan ei fod efallai wedi’i ddiwygio gan fyrddau iechyd. Ni fydd Llywodraeth Cymru yn gwneud newidiadau i ddata hanesyddol oni bai y caiff gwallau eu canfod.

Teitl

Nifer a chanran y menywod a gafodd asesiad cychwynnol erbyn 10fed wythnos gyflawn eu beichiogrwydd, yn ôl bwrdd iechyd sy'n darparu'r gwasanaeth

Diweddariad diwethaf

Awst 2025 Awst 2025

Diweddariad nesaf

Gorffennaf 2026 (dros dro)

Sefydliad cyhoeddi

Llywodraeth Cymru

Ffynhonnell 1

Maternity Indicators data set

Cyswllt ebost

ystadegau.iechyd@llyw.cymru

Lefel isaf o ddadelfennu daearyddol

Byrddau iechyd lleol

Cwmpas daearyddol

Byrddau iechyd lleol

Cwmpas ieithyddol

Saesneg a Chymraeg

Trwyddedu data

Gallwch ddefnyddio ac ailddefnyddio'r data hwn am ddim mewn unrhyw fformat neu gyfrwng, dan delerau'r Drwydded Llywodraeth Agored - gweler http://www.nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence-cymraeg

Ansawdd ystadegol

O 1 Ebrill 2019 ymlaen, symudodd darpariaeth y gwasanaeth iechyd ar gyfer preswylwyr awdurdod lleol Pen-y-bont ar Ogwr o Abertawe Bro Morgannwg i Gwm Taf. Am ragor o wybodaeth, gweler y datganiad ar y cyd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf a Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg (gweler dolenni). Mae enwau’r byrddau iechyd wedi newid; gelwir Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf bellach yn Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg a gelwir Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg bellach yn Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe.

Mae data ynghylch Abertawe Bro Morgannwg a Chwm Taf ar gael ar gyfer blynyddoedd blaenorol yn y tabl hwn drwy ddewis y blychau ticio yn y gwymplen Ardal.

Mae gwybodaeth fanylach am y ffynonellau data a’r dadansoddiadau yn y datganiad ystadegol hwn ar gael yn yr adroddiad ansawdd: Ystadegau mamolaeth a genedigaethau: adroddiad ansawdd | LLYW.CYMRU

Allweddeiriau

mamolaeth; asesiad cychwynnol; adeg trefnu;