
None
|
Metadata
- Gwybodaeth lefel uchel
- Gwybodaeth cryno
- Dolenni'r we
- Allweddeiriau
- Gwybodaeth ansawdd ystadegol
- Data agored
Teitl
Nifer a chanran y menywod a ‘roddodd y gorau i smygu’ yn ystod eu beichiogrwydd, yn ôl bwrdd iechyd sy'n darparu'r gwasnaethDiweddariad diwethaf
Gorffennaf 2024Diweddariad nesaf
Gorffennaf 2025 (dros dro)Sefydliad cyhoeddi
Llywodraeth CymruFfynhonnell 1
Maternity Indicators data setCyswllt ebost
ystadegau.iechyd@llyw.cymruLefel isaf o ddadelfennu daearyddol
Byrddau iechyd lleolCwmpas daearyddol
Byrddau iechyd lleolCwmpas ieithyddol
Saesneg a ChymraegTrwyddedu data
Gallwch ddefnyddio ac ailddefnyddio'r data hwn am ddim mewn unrhyw fformat neu gyfrwng, dan delerau'r Drwydded Llywodraeth Agored - gweler http://www.nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence-cymraegDisgrifiad cyffredinol
Mae'r dadansoddiad hwn yn seiliedig ar fenywod a oedd â data dilys am smygu ar adeg yr asesiad cychwynnol ac ar adeg yr enedigaeth. Gan fod statws smygu yn cael ei gofnodi ar ddau bwynt yn unig, ni fydd y data'n dangos a oedd mamau'n smygu drwy gydol eu beichiogrwydd, neu pa mor aml yr oeddent yn smygu. At ddibenion y dadansoddiad yn y datganiad hwn, mae'r mamau hynny y cofnodwyd eu bod yn smygu adeg yr asesiad cychwynnol ond nad oeddent yn smygu ar adeg yr enedigaeth yn cael eu dosbarthu fel mamau a oedd wedi 'rhoi'r gorau i smygu' yn ystod y beichiogrwydd.Yn 2021, roedd data dilys ar gyfer 81% o gofnodion, sef yr isaf ers dechrau casglu data. Y rheswm pennaf am hyn yw nad yw Hywel Dda wedi darparu unrhyw ddata ar gyfer smygu ar adeg geni a bod cyflanrwydd data Cwm Taf Morgannwg yn gymharol isel.
Roedd data dilys ar gyfer 84% o gofnodion yn 2020, a hynny'n bennaf o ganlyniad i ddata coll ar gyfer smygu ar adeg yr enedigaeth yn Hywel Dda, Cwm Taf Morgannwg a Phowys. Rhwng 2016 a 2019, roedd cyflawnrwydd y data yn dda, gyda data dilys ar gyfer mwy na 94% o gofnodion.
Mae manylion llawn pob eitem ddata sydd ar gael ar set ddata Dangosyddion Mamolaeth a’r Gronfa Ddata Genedlaethol ar Iechyd Plant Cymunedol ar gael drwy Gyfeiriadur Data NWIS: http://www.datadictionary.wales.nhs.uk/#!WordDocuments/datasetstructure20.htm
O 1 Ebrill 2019, symudodd darpariaeth gwasanaeth iechyd trigolion awdurdod lleol Pen-y-bont ar Ogwr o Abertawe Bro Morgannwg i Gwm Taf. Am ragor o wybodaeth gweler y datganiad ar y cyd gan Fyrddau Iechyd Prifysgol Cwm Taf ac Abertawe Bro Morgannwg (gweler y dolenni gwe). Mae enwau'r byrddau iechyd wedi newid; mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf bellach yn Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, ac mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg bellach yn Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe.
Mae data ar gyfer Abertawe Bro Morgannwg a Chwm Taf ar gael ar gyfer blynyddoedd blaenorol yn y tabl hwn drwy ddewis y blychau ticio yn y gwymplen Ardal.
Amlder cyhoeddi
BlynyddolCyfnodau data dan sylw
2016-2023Dolenni'r we
https://llyw.cymru/ystadegau-mamolaeth-genedigaethauhttps://cwmtaf.wales/welsh-government-announce-decision-on-bridgend-boundary-change/
https://llyw.cymru/datganiad-ysgrifenedig-ffin-y-byrddau-iechyd-ym-mhen-y-bont-ar-ogwr-cynllunio-cysylltiol