Neidio i'r cynnwys
Darparwr data: Llywodraeth Cymru Smygu ar adeg yr asesiad cychwynnol a'r enedigaeth, yn ôl bwrdd iechyd sy'n darparu'r gwasanaeth
None
Mesur[Hidlwyd]
Cod Ardal[Hidlo]
Blwyddyn[Hidlwyd]
Measure1
Dangosydd[Hidlo]
Statws[Hidlo]
[Lleihau]Ardal[Hidlwyd]
-
-
Ardal 1
[Lleihau]Statws ysmygu yn yr asesiad cychwynnol[Lleihau]Statws smygu ar adeg yr enedigaeth
Cliciwch yma i ddidoliYsmyguCliciwch yma i ddidoliDim ysmyguCliciwch yma i ddidoliNi nodwydCliciwch yma i ddidoliCyfanswm y menywodCliciwch yma i ddidoliYsmyguCliciwch yma i ddidoliDim ysmyguCliciwch yma i ddidoliNi nodwydCliciwch yma i ddidoliCyfanswm y menywod
[Lleihau]CymruMae canran Cymru yn eithrio data gan Fwrdd Iechyd Hywel Dda a Bwrdd Iechyd Bae Abertawe am y cyfnod rhwng 2021 a 2023, a Bwrdd Iechyd Bae Abertawe ar gyfer 2024, oherwydd dibynadwyedd isel y data. Gweler nodiadau.13.186.92.7.Nid yw\'r eitem ddata yn berthnasol12.287.81.5.Nid yw\'r eitem ddata yn berthnasol
CymruMae canran Cymru yn eithrio data gan Fwrdd Iechyd Hywel Dda a Bwrdd Iechyd Bae Abertawe am y cyfnod rhwng 2021 a 2023, a Bwrdd Iechyd Bae Abertawe ar gyfer 2024, oherwydd dibynadwyedd isel y data. Gweler nodiadau.Betsi Cadwaladr18.082.00.5.Nid yw\'r eitem ddata yn berthnasol15.884.20.8.Nid yw\'r eitem ddata yn berthnasol
Powys9.990.17.4.Nid yw\'r eitem ddata yn berthnasol7.692.41.7.Nid yw\'r eitem ddata yn berthnasol
Hywel Dda10.389.76.4.Nid yw\'r eitem ddata yn berthnasol10.389.70.3.Nid yw\'r eitem ddata yn berthnasol
Bae AbertawexNid oes data ar gael - rhwng 2021 a 2024, cyflwynodd Bwrdd Iechyd Bae Abertawe nifer uchel iawn o gofnodion ar gyfer ‘ddim yn smygu\’ adeg genedigaeth, sy\’n debygol o fod yn wall. O ganlyniad, mae data ar gyfer smygu adeg yr asesiad cychwynnol wedi\’i eithrio ar gyfer y blynyddoedd hyn am resymau cymhariaeth.xNid oes data ar gael - rhwng 2021 a 2024, cyflwynodd Bwrdd Iechyd Bae Abertawe nifer uchel iawn o gofnodion ar gyfer ‘ddim yn smygu\’ adeg genedigaeth, sy\’n debygol o fod yn wall. O ganlyniad, mae data ar gyfer smygu adeg yr asesiad cychwynnol wedi\’i eithrio ar gyfer y blynyddoedd hyn am resymau cymhariaeth.xNid oes data ar gael - rhwng 2021 a 2024, cyflwynodd Bwrdd Iechyd Bae Abertawe nifer uchel iawn o gofnodion ar gyfer ‘ddim yn smygu\’ adeg genedigaeth, sy\’n debygol o fod yn wall. O ganlyniad, mae data ar gyfer smygu adeg yr asesiad cychwynnol wedi\’i eithrio ar gyfer y blynyddoedd hyn am resymau cymhariaeth..Nid yw\'r eitem ddata yn berthnasolxNid oes data ar gael - rhwng 2021 a 2024, cyflwynodd Bwrdd Iechyd Bae Abertawe nifer uchel iawn o gofnodion ar gyfer ‘ddim yn smygu\’ adeg genedigaeth, sy\’n debygol o fod yn wall felly mae data ar gyfer y bwrdd iechyd hwn wedi\’i eithrio.xNid oes data ar gael - rhwng 2021 a 2024, cyflwynodd Bwrdd Iechyd Bae Abertawe nifer uchel iawn o gofnodion ar gyfer ‘ddim yn smygu\’ adeg genedigaeth, sy\’n debygol o fod yn wall felly mae data ar gyfer y bwrdd iechyd hwn wedi\’i eithrio.xNid oes data ar gael - rhwng 2021 a 2024, cyflwynodd Bwrdd Iechyd Bae Abertawe nifer uchel iawn o gofnodion ar gyfer ‘ddim yn smygu\’ adeg genedigaeth, sy\’n debygol o fod yn wall felly mae data ar gyfer y bwrdd iechyd hwn wedi\’i eithrio..Nid yw\'r eitem ddata yn berthnasol
Cwm Taf Morgannwg14.285.81.3.Nid yw\'r eitem ddata yn berthnasol13.186.90.2.Nid yw\'r eitem ddata yn berthnasol
Aneurin Bevan12.487.63.3.Nid yw\'r eitem ddata yn berthnasol12.088.05.1.Nid yw\'r eitem ddata yn berthnasol
Caerdydd a'r Fro8.991.13.2.Nid yw\'r eitem ddata yn berthnasol9.091.00.4.Nid yw\'r eitem ddata yn berthnasol

Metadata

Teitl

Smygu ar adeg yr asesiad cychwynnol a'r enedigaeth, yn ôl bwrdd iechyd sy'n darparu'r gwasanaeth

Diweddariad diwethaf

Awst 2025 Awst 2025

Diweddariad nesaf

Gorffennaf 2026 (dros dro)

Sefydliad cyhoeddi

Llywodraeth Cymru

Ffynhonnell 1

Maternity Indicators data set

Cyswllt ebost

ystadegau.iechyd@llyw.cymru

Lefel isaf o ddadelfennu daearyddol

Byrddau iechyd lleol

Cwmpas daearyddol

Byrddau iechyd lleol

Cwmpas ieithyddol

Saesneg a Chymraeg

Trwyddedu data

Gallwch ddefnyddio ac ailddefnyddio'r data hwn am ddim mewn unrhyw fformat neu gyfrwng, dan delerau'r Drwydded Llywodraeth Agored - gweler http://www.nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence-cymraeg

Disgrifiad cyffredinol

Mae’r data hwn yn deillio o set ddata Dangosyddion Mamolaeth a ddarperir i Lywodraeth Cymru gan Iechyd a Gofal Digidol Cymru.
Sefydlwyd set ddata Dangosyddion Mamolaeth yn 2016. Mae’n cyfuno cofnodion o asesiad cychwynnol ynglyn â'r fam â chofnodion geni’r plentyn gan alluogi Llywodraeth Cymru i fonitro ei set gychwynnol o ddangosyddion canlyniadau a mesurau perfformiad (Dangosyddion Mamolaeth) a sefydlwyd i fesur effeithiolrwydd ac ansawdd gwasanaethau mamolaeth Cymru.

Mae set ddata Dangosyddion Mamolaeth yn ein galluogi i ddadansoddi nodweddion beichiogrwydd y fam a’r broses eni. Mae’r broses o gynhyrchu’r data hwn yn gymhleth, yn bennaf oherwydd y gellir cael data asesiadau cychwynnol lluosog ac nad yw cofnodion asesiadau cychwynnol a genedigaethau’n gyflawn bob amser.
Mae manylion llawn pob eitem ddata sydd ar gael yn y set ddata Dangosyddion Mamolaeth ar gael yng Ngeiriadur Data GIG Cymru: http://www.datadictionary.wales.nhs.uk/#!WordDocuments/datasetstructure20.htm


Casgliad data a dull cyfrifo

Mae’r data o set ddata Dangosyddion Mamolaeth dim ond yn cynnwys data asesiadau cychwynnol lle’r oedd yr asesiad cychwynnol a’r enedigaeth wedi digwydd yn yr un bwrdd iechyd, a hynny yng Nghymru yn unig.
Dylai’r data gynnwys pob genedigaeth yn yr ysbyty a rhai genedigaethau yn y cartref, fodd bynnag, oherwydd y ffordd y caiff y data ei gofnodi, nid ydym yn gallu gwahaniaethu rhwng genedigaethau yn y cartref a genedigaethau yn yr ysbyty mewn rhai byrddau iechyd. Nid yw genedigaethau i famau sy’n byw yng Nghymru a roddodd enedigaeth yn Lloegr neu mewn unrhyw wlad arall y tu allan i Gymru wedi’u cynnwys yn y data.
Mae data ar gyfer pob blwyddyn galendr yn cyfeirio at ba bryd y ganed y babi ar gyfer ystadegau genedigaeth ac asesiad cychwynnol. Mae’n bosibl bod asesiadau cychwynnol wedi digwydd yn y flwyddyn flaenorol, ond cânt eu cyfrif ym mlwyddyn yr enedigaeth. Mae hyn yn sicrhau bod data gydol beichiogrwydd unigol yn cael ei gofnodi yn yr un flwyddyn.
Smygu adeg yr asesiad cychwynnol
Er bod canran uchel o ddata dilys ar gyfer statws smygu adeg yr asesiad cychwynnol, cyfyngir ystadegau ar smygu adeg yr asesiad cychwynnol a smygu adeg genedigaeth gan y ffordd y mae’r data’n cael ei gasglu. Os nad oes monitro carbon monocsid ar gael, mae dibynadwyedd y data’n dibynnu ar y fam yn hunanadrodd gwybodaeth gywir. Cafodd monitro carbon monocsid ei oedi i raddau helaeth yn ystod pandemig COVID-19, felly mae data ar gyfer y blynyddoedd rhwng 2020 a 2023 yn ddata wedi’i hunanadrodd yn bennaf.
Cyn 2020, roedd canran y menywod a gafodd brawf monitro carbon monocsid yn yr asesiad cychwynnol yn amrywio rhwng 20% a 30%, fodd bynnag, rhwng 2021 a 2022, gostyngodd i rhwng 1% a 2%. Yn 2024, cynyddodd canran y menywod a gafodd brawf monitro carbon monocsid yn yr asesiad cychwynnol i 28%, yn agos at lefelau cyn y pandemig. Roedd llai o fenywod yn cael prawf monitro carbon monocsid adeg genedigaeth. Rhwng 2016 a 2020, roedd canran y menywod a gafodd brawf monitro carbon monocsid yn amrywio rhwng 1% a 3% ac yn 2024 roedd yn 9.8%.
Ni ddylid cofnodi’r defnydd o e-sigaréts yn yr eitem ddata hon ac ni fyddai’n cael ei ganfod gan fonitor carbon monocsid, fodd bynnag, yn ymarferol gall rhai mamau hunanadrodd fel smygwyr os ydynt yn defnyddio e-sigaréts a chael eu cofnodi’n anghywir fel smygwyr. Yn yr un modd, gallai rhai mamau sy’n smygu hunanadrodd nad ydynt yn smygwyr a chael eu cofnodi’n anghywir fel rhywun nad yw’n smygu.
Mae canran y menywod beichiog a gofnodir fel smygwyr adeg yr asesiad cychwynnol yn seiliedig ar bob cofnod lle y cofnodir data dilys ar gyfer yr eitem ddata hon. Gellir dod o hyd i nifer y cofnodion heb statws smygu wedi’i ddatgan adeg yr asesiad cychwynnol yn Nhabl 4 o’r Ystadegau mamolaeth a genedigaethau: adroddiad ansawdd (tablau) (Ystadegau mamolaeth a genedigaethau: adroddiad ansawdd | LLYW.CYMRU).
Cafodd monitro carbon monocsid ei oedi i raddau helaeth yn ystod pandemig COVID-19 a allai effeithio ar gymaroldeb data a gasglwyd cyn ac ar ôl 2020. O’r rhai yr adroddwyd eu bod yn smygwyr, y ganran a gofnodwyd yn sgil monitro carbon monocsid ym mhob blwyddyn oedd: 25% yn 2016, 28% yn 2017, 29% yn 2018, 31% yn 2019, 26% yn 2020, 1% yn 2021, 2% yn 2022, 17% yn 2023, 30% yn 2024.
Smygu adeg genedigaeth:
Mae ystadegau smygu adeg genedigaeth yn gyfyngedig am yr un rhesymau â smygu adeg yr asesiad cychwynnol, fodd bynnag, gwelwyd cynnydd hefyd yn ystod y blynyddoedd diwethaf yn y data coll ac annilys a gofnodwyd ar gyfer smygu adeg genedigaeth. Gellir dod o hyd i nifer y cofnodion heb statws smygu adeg genedigaeth wedi’i ddatgan yn Nhabl 4 o’r Ystadegau mamolaeth a genedigaethau: adroddiad ansawdd (tablau) (Ystadegau mamolaeth a genedigaethau: adroddiad ansawdd | LLYW.CYMRU).

Amlder cyhoeddi

Blynyddol

Cyfnodau data dan sylw

2016-2024

Defnyddwyr, defnydd a chyd-destun

Bydd yr ystadegau hyn yn cael eu defnyddio mewn amrywiaeth o ffyrdd. Dyma ambell enghraifft:
• rhoi cyngor i Weinidogion
• llywio trafodaethau yn y Senedd a thu hwnt
• sicrhau bod data ar gael i’r cyhoedd ar ystadegau iechyd plant yng Nghymru
• monitro’r modd y caiff gwasanaethau eu darparu
• datblygu polisïau
• darparu cyngor ar ddewisiadau genedigaeth.
Mae prif ddefnyddwyr yr ystadegau fel a ganlyn:
• Gweinidogion, swyddogion polisi a Gwasanaeth Ymchwil yr Aelodau
• byrddau iechyd lleol
• y cyhoedd
• y gymuned ymchwil
• myfyrwyr, academyddion a phrifysgolion
• Iechyd Cyhoeddus Cymru a sefydliadau eraill y GIG
• sefydliadau genedigaeth gwirfoddol.

Talgrynnu wedi'u ddefnyddio

Nid yw’r data wedi’i dalgrynnu

Gwybodaeth am ddiwygiadau

Mae’r set ddata Dangosyddion Mamolaeth yn gronfa ddata fyw, sy’n golygu y gall byrddau iechyd ddiwygio data ar gyfer unrhyw gyfnod. Ar gyfer y data hwn, mae Iechyd a Gofal Digidol Cymru yn cymryd dyfyniadau data o un pwynt amser penodol, ar gyfer y flwyddyn galendr ddiweddaraf. Mae hyn yn golygu y gallai dyfyniadau data a gymerwyd ar gyfer cyfnodau amser blaenorol fod yn wahanol i’r data a gyhoeddir gan ei fod efallai wedi’i ddiwygio gan fyrddau iechyd. Ni fydd Llywodraeth Cymru yn gwneud newidiadau i ddata hanesyddol oni bai y caiff gwallau eu canfod.

Allweddeiriau

mamolaeth; mamau'n smygu; smygu ar adeg yr enedigaeth

Ansawdd ystadegol

O 1 Ebrill 2019 ymlaen, symudodd darpariaeth y gwasanaeth iechyd ar gyfer preswylwyr awdurdod lleol Pen-y-bont ar Ogwr o Abertawe Bro Morgannwg i Gwm Taf. Am ragor o wybodaeth, gweler y datganiad ar y cyd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf a Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg (gweler dolenni). Mae enwau’r byrddau iechyd wedi newid; gelwir Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf bellach yn Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg a gelwir Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg bellach yn Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe.

Mae data ynghylch Abertawe Bro Morgannwg a Chwm Taf ar gael ar gyfer blynyddoedd blaenorol yn y tabl hwn drwy ddewis y blychau ticio yn y gwymplen Ardal.

Mae gwybodaeth fanylach am y ffynonellau data a’r dadansoddiadau yn y datganiad ystadegol hwn ar gael yn yr adroddiad ansawdd: Ystadegau mamolaeth a genedigaethau: adroddiad ansawdd | LLYW.CYMRU
Smygu adeg yr asesiad cychwynnol:
Yn sgil problemau ansawdd data o ran y data smygu adeg genedigaeth, mae data smygu adeg yr asesiad cychwynnol ar gyfer Bwrdd Iechyd Bae Abertawe a Bwrdd Iechyd Hywel Dda wedi’i eithrio rhwng 2021 a 2023 am resymau cydnawsedd.
Smygu adeg genedigaeth:
Nid oedd Bwrdd Iechyd Bae Abertawe wedi’i gynnwys yng nghyfansymiau Cymru rhwng 2021 a 2024 ac nid oedd Bwrdd Iechyd Hywel Dda wedi’i gynnwys yng nghyfansymiau Cymru rhwng 2021 a 2023. O ran 2024, roedd y data ar gyfer Cymru yn gysylltiedig â'r 6 bwrdd iechyd sy’n weddill a rhwng y blynyddoedd 2021 i 2023 roedd y data o’r 5 bwrdd iechyd sy’n weddill. Cafodd Bwrdd Iechyd Bae Abertawe ei eithrio o’r data smygu adeg genedigaeth oherwydd pryderon am ansawdd data ac eithriwyd Bwrdd Iechyd Hywel Dda gan na ddarparwyd data ar gyfer smygu adeg genedigaeth rhwng 2021 a 2022 a darparwyd data anghyflawn yn 2023. Arweiniodd hyn at eithrio smygu adeg yr asesiad cychwynnol ar gyfer Bwrdd Iechyd Bae Abertawe a Bwrdd Iechyd Hywel Dda o ran y cyfnodau amser hyn am resymau cydnawsedd. Yn 2021 a 2022, roedd gan Fwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg ganran anarferol o uchel o ddata coll.