Profion golwg yn ôl Bwrdd Iechyd Lleol
None
|
Metadata
- Gwybodaeth lefel uchel
- Gwybodaeth cryno
- Dolenni'r we
- Allweddeiriau
- Gwybodaeth ansawdd ystadegol
- Data agored
Teitl
Ystadegau offthalmig y GIGDiweddariad diwethaf
27 Gorffennaf 2023Diweddariad nesaf
I gael ei gadarnhauSefydliad cyhoeddi
Llywodraeth CymruFfynhonnell 1
Partneriaeth Cydwasanaethau GIG CymruCyswllt ebost
ystadegau.iechyd@llyw.cymruDynodiad
Ystadegau GwladolLefel isaf o ddadelfennu daearyddol
Byrddau iechyd lleolCwmpas daearyddol
CymruCwmpas ieithyddol
Saesneg a ChymraegTrwyddedu data
Gallwch ddefnyddio ac ailddefnyddio'r data hwn am ddim mewn unrhyw fformat neu gyfrwng, dan delerau'r Drwydded Llywodraeth Agored - gweler http://www.nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence-cymraegDisgrifiad cyffredinol
Nifer y profion golwg a thalebauCasgliad data a dull cyfrifo
Mae pandemig COVID-19 wedi effeithio ar wasanaethau gofal llygaid, a bydd yr effaith yn cael ei hadlewyrchu yn y data ar gyfer blwyddyn ariannol 2020-21.Ar ôl dechrau pandemig COVID-19 ddiwedd Mawrth 2020, cafodd llai o wasanaethau optometreg arferol eu darparu. Daeth hawliadau talu i ben rhwng mis Ebrill a mis Awst 2020; yn lle hynny cafodd taliadau cyfartalog eu cyfrifo a’u talu i gontractwyr offthalmig.
Mae data gweithgaredd ar brofion golwg y telir amdanynt gan y GIG, talebau optegol a gwaith trwsio’n cael ei gasglu trwy gyfres o ffurflenni’r Gwasanaeth Offthalmig Cyffredinol (GOS) a ddefnyddir ym mhroses daliadau’r gwasanaeth offthalmig:
• GOS1 – Profion golwg y GIG, gan gynnwys gwybodaeth am statws cymhwysedd y claf.
• GOS2 – Y presgripsiwn neu’r datganiad optegol a roddir i’r claf. Ni ddefnyddir y ffurflen hon ar gyfer adrodd.
• GOS3 – Talebau optegol y GIG – gan gynnwys gwybodaeth am statws cymhwysedd y claf.
• GOS4 – Talebau trwsio / adnewyddu optegol y GIG – gan gynnwys gwybodaeth am statws cymhwysedd y claf a’r math o daleb.
• GOS5 – Profion golwg preifat gyda chymorth rhannol at y gost lawn.
• GOS6 – Profion golwg yn y cartref.
Ceir y data hwn gan Wasanaethau Gofal Sylfaenol, Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru. Mae ystadegau offthalmig yn cyfeirio at wasanaethau a ddarperir gan ymarferwyr offthalmig sydd â chontractau â Byrddau Iechyd.