Nifer yr archwiliadau yr hawliwyd amdanynt dan gynllun Archwiliad Iechyd Llygaid Cymru yn ôl band ac bwrdd iechyd
None
|
Metadata
- Gwybodaeth lefel uchel
- Gwybodaeth cryno
- Gwybodaeth ansawdd ystadegol
- Allweddeiriau
- Dolenni'r we
- Data agored
Teitl
Nifer yr archwiliadau yr hawliwyd amdanynt dan gynllun Archwiliad Iechyd Llygaid Cymru yn ôl band ac bwrdd iechydDiweddariad diwethaf
27 Gorffennaf 2023Diweddariad nesaf
I gael ei gadarnhauSefydliad cyhoeddi
Llywodraeth CymruFfynhonnell 1
Partneriaeth Cydwasanaethau GIG CymruFfynhonnell 2
Amcangyfrifon poblogaeth canol-blwyddyn, y Swyddfa Ystadegau GwladolCyswllt ebost
ystadegau.iechyd@llyw.cymruDynodiad
Ystadegau GwladolLefel isaf o ddadelfennu daearyddol
Byrddau iechyd lleolCwmpas daearyddol
CymruCwmpas ieithyddol
Saesneg a ChymraegTrwyddedu data
Gallwch ddefnyddio ac ailddefnyddio'r data hwn am ddim mewn unrhyw fformat neu gyfrwng, dan delerau'r Drwydded Llywodraeth Agored - gweler http://www.nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence-cymraegDisgrifiad cyffredinol
Mae'r wybodaeth a gyflwynir yma yn dangos nifer yr archwiliadau yr hawliwyd amdanynt dan gynllun Archwiliad Iechyd Llygaid Cymru yn ôl band ac bwrdd iechyd.Archwiliadau yr hawliwyd amdanynt ac y gwnaed taliad ar eu cyfer gan Bartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru. Sylwer y gallai'r archwiliadau fod wedi digwydd cyn y cyfnod talu.
Band 1: Mae’r archwiliadau hyn yn galluogi cleifion â chyflyrau llygaid aciwt; rhai mewn categorïau mewn perygl o ddatblygu clefydau llygaid neu rai a fyddai’n wynebu anawsterau difrifol os byddent yn colli eu golwg i gael archwiliad llygaid am ddim.
Band 2: Mae’r archwiliadau hyn yn galluogi cleifion i gael archwiliadau ychwanegol fel y gall yr optometrydd neu OMPau gael mwy o wybodaeth am eu hatgyfeiriad, ymchwilio i ganfyddiadau clinigol neu benderfynu ar ddull rheoli ar ôl prawf golwg (GOS neu breifat).
Band 3: Mae’r archwiliad hwn yn galluogi cleifion i gael apwyntiad dilynol ar ôl apwyntiad cychwynnol ar gyfer EHEW.
Casgliad data a dull cyfrifo
Ceir y data hwn gan Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru sy’n gyfrifol am weinyddu’r ceisiadau a geir gan ymarferwyr achredig sy’n cynnal archwiliadau. Mae data’n cael ei gyflwyno fel niferoedd yr archwiliadau y gwneir cais amdanynt yn unol â’r sail dros yr hawliadau, canlyniadau a Bwrdd Iechyd yr optometrydd sy’n darparu’r gwasanaeth. Mae hyn yn cyfrif nifer yr archwiliadau lle gwnaethpwyd cais ac a dalwyd yn y flwyddyn ariannol yn hytrach na nifer yr archwiliadau a gynhaliwyd yn ystod y flwyddyn ariannol. Mae hawliadau fel arfer yn cyfeirio at archwiliadau sy’n cael eu cynnal yn y mis cyn y cais a'r taliad ond os nad yw’r practis yn cyflwyno’u hawliadau’n rheolaidd gall yr oedi fod yn hwy, hyd at uchafswm o 6 mis.O 1 Ebrill 2019, symudodd darpariaeth gwasanaeth iechyd trigolion awdurdod lleol Pen-y-bont ar Ogwr o Abertawe Bro Morgannwg i Gwm Taf. Am ragor o wybodaeth gweler y datganiad ar y cyd gan Fyrddau Iechyd Prifysgol Cwm Taf ac Abertawe Bro Morgannwg (gweler y dolenni gwe). Mae enwau'r byrddau iechyd wedi newid; mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf bellach yn Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, ac mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg bellach yn Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe. Mae dolen i ddatganiad gan y gweinidog iechyd a gwasanaethau cymdeithasol ar gael yn yr adran dolenni’r we.
Amlder cyhoeddi
BlynyddolCyfnodau data dan sylw
2015-16 ymlaen.Ansawdd ystadegol
Dewch o hyd i’r wybodaeth hon yn y cyhoeddiad ystadegol ac adroddiad ansawdd cysylltiedig, fel y dangosir yn y ddolen a ddarparwyd.Allweddeiriau
Offthalmig; Gofal llygaid ; Archwiliad Iechyd Llygaid Cymru; Llygad; OptegyddDolenni'r we
Dolenni'r wehttps://www.llyw.cymru/ystadegau-gofal-llygaid
Adroddiad ansawdd:
https://www.llyw.cymru/iechyd-synhwyraidd-adroddiad-ansawdd