Nifer yr Archwiliadau band 1 yr hawliwyd amdanynt o dan gynllun Archwiliad Iechyd Llygaid Cymru yn ôl symptomau dethol (unrhyw gyfeiriad atynt) ac oedran y claf
None
|
Metadata
- Gwybodaeth lefel uchel
- Allweddeiriau
- Gwybodaeth cryno
- Dolenni'r we
- Gwybodaeth ansawdd ystadegol
- Data agored
Teitl
Nifer yr Archwiliadau band 1 yr hawliwyd amdanynt o dan gynllun Archwiliad Iechyd Llygaid Cymru yn ôl symptomau dethol (unrhyw gyfeiriad atynt) ac oedran y clafDiweddariad diwethaf
27 Gorffennaf 2023Diweddariad nesaf
I gael ei gadarnhauSefydliad cyhoeddi
Llywodraeth CymruFfynhonnell 1
Partneriaeth Cydwasanaethau GIG CymruCyswllt ebost
ystadegau.iechyd@llyw.cymruDynodiad
Ystadegau GwladolLefel isaf o ddadelfennu daearyddol
CymruCwmpas daearyddol
CymruCwmpas ieithyddol
Saesneg a ChymraegTrwyddedu data
Gallwch ddefnyddio ac ailddefnyddio'r data hwn am ddim mewn unrhyw fformat neu gyfrwng, dan delerau'r Drwydded Llywodraeth Agored - gweler http://www.nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence-cymraegAllweddeiriau
Offthalmig; Gofal llygaid ; Archwiliad Iechyd Llygaid Cymru; LlygadDisgrifiad cyffredinol
Mae'r wybodaeth a gyflwynir yma yn dangos nifer a chanran yr archwiliadau band 1 yr hawliwyd amdanynt o dan gynllun Archwiliad Iechyd Llygaid Cymru yn ôl y symptomau a ddewiswyd ac oedran y claf.Mae’n bosibl y bydd mwy nag un symptom yn cael ei gofnodi. Mae symptomau eraill yn cynnwys problemau golwg cronig, fflachiadau, brychau a phennau tost. Ceir hefyd nifer o archwiliadau lle nad oes unrhyw symptomau'n cael eu cofnodi.
Casgliad data a dull cyfrifo
Ceir y data hwn gan Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru sy’n gyfrifol am weinyddu’r ceisiadau a geir gan ymarferwyr achredig sy’n cynnal archwiliadau. Mae data’n cael ei gyflwyno fel niferoedd yr archwiliadau y gwneir cais amdanynt yn unol â’r sail dros yr hawliadau, canlyniadau a Bwrdd Iechyd yr optometrydd sy’n darparu’r gwasanaeth. Mae hyn yn cyfrif nifer yr archwiliadau lle gwnaethpwyd cais ac a dalwyd yn y flwyddyn ariannol yn hytrach na nifer yr archwiliadau a gynhaliwyd yn ystod y flwyddyn ariannol. Mae hawliadau fel arfer yn cyfeirio at archwiliadau sy’n cael eu cynnal yn y mis cyn y cais a'r taliad ond os nad yw’r practis yn cyflwyno’u hawliadau’n rheolaidd gall yr oedi fod yn hwy, hyd at uchafswm o 6 mis.O 1 Ebrill 2019, symudodd darpariaeth gwasanaeth iechyd trigolion awdurdod lleol Pen-y-bont ar Ogwr o Abertawe Bro Morgannwg i Gwm Taf. Am ragor o wybodaeth gweler y datganiad ar y cyd gan Fyrddau Iechyd Prifysgol Cwm Taf ac Abertawe Bro Morgannwg (gweler y dolenni gwe). Mae enwau'r byrddau iechyd wedi newid; mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf bellach yn Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, ac mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg bellach yn Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe. Mae dolen i ddatganiad gan y gweinidog iechyd a gwasanaethau cymdeithasol ar gael yn yr adran dolenni’r we.
Amlder cyhoeddi
BlynyddolCyfnodau data dan sylw
2015-16 ymlaen.Dolenni'r we
Dolenni'r wehttps://www.llyw.cymru/ystadegau-gofal-llygaid
Adroddiad ansawdd:
https://www.llyw.cymru/iechyd-synhwyraidd-adroddiad-ansawdd