Wrth i'r galw gynyddu ar gyfer ystadegau a data i fesur effaith y pandemig COVID19, mae rhaid i ni newid ein harferion casglu a rhyddhau data, gan ganolbwyntio ymdrechion ar ddadansoddiadau ac ystadegau blaenoriaeth. https://llyw.cymru/ystadegau-ac-ymchwil
Mae'r tabl hwn yn cyflwyno data mewn perthynas ag ethnigrwydd yr oedolyn yr amheuir ei fod mewn perygl.
Casgliad data a dull cyfrifo
Cafodd y data eu cyflwyno i'r Tîm Casglu Data yn Llywodraeth Cymru gan awdurdodau lleol yng Nghymru. Mae'r ffurflen yn ymwneud â chyfres helaeth o wiriadau dilysu er mwyn sicrhau bod yr wybodaeth a ddarparwyd yn gywir ac yn gyson.