1. Nifer yr oedolion a gafodd gyngor neu gynhorthwy gan y gwasanaeth gwybodaeth, cyngor a chynhorthwy yn ystod y flwyddyn
2. Nifer yr asesiadau o anghenion gofal a chymorth a gynhaliwyd yn ystod y flwyddyn
2.1 O’r rheini, nifer yr asesiadau a arweiniodd at gynllun gofal a chymorth
3. Nifer yr asesiadau o anghenion cymorth gofalwyr a gynhaliwyd yn ystod y flwyddyn
3.1 O’r rheini, nifer yr asesiadau a arweiniodd at gynllun cymorth
4. Nifer yr asesiadau gofalwr a wrthodwyd gan ofalwyr yn ystod y flwyddyn
5. Nifer yr asesiadau o anghenion gofal a chymorth oedolion a gynhaliwyd yn ystod y flwyddyn tra’u bod mewn sefydliad diogel
5.1 O’r rheini, nifer yr asesiadau a arweiniodd at gynllun gofal a chymorth
6. Nifer y ceisiadau am ailasesiad o anghenion gofal a chymorth ac anghenion cymorth a wnaed gan oedolyn yn ystod y flwyddyn
6.1 O’r rheini, nifer yr ailasesiadau a gynhaliwyd
6.2 O’r rheini, nifer yr ailasesiadau a arweiniodd at gynllun gofal a chymorth neu gynllun cymorth
7. Nifer y cynlluniau gofal a chymorth a’r cynlluniau cymorth a adolygwyd yn ystod y flwyddyn
7.1 O’r rheini, nifer y cynlluniau a adolygwyd o fewn amserlenni cytunedig
8. Nifer y ceisiadau am adolygiad o gynlluniau gofal a chymorth a chynlluniau cymorth i ofalwyr cyn dyddiadau terfyn cytunedig a wnaed gan oedolyn yn ystod y flwyddyn
Cesglir yr wybodaeth er mwyn cael gwybod nifer yr oedolion sy'n derbyn gofal a chymorth sydd wedi cael eu hasesu drwy'r broses asesu newydd a ddisgrifir yn Rhan 3 (Asesu Anghenion Unigolion) o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.
Casgliad data a dull cyfrifo
Er bod ymdrechion mawr wedi bod i gasglu gwybodaeth gywir a dibynadwy o awdurdodau lleol, mae data ar gyfer 2016-17, 2017-18 a 2018-19 dal i fod yn amherffaith.
Yn 2017-18, dim ond hyd at 13 Chwefror 2018 a 6 Mawrth 2018, yn ôl eu trefn, roedd Caerffili a Casnewydd yn gallu darparu data. Roedd hyn oherwydd i'r ddau awdurdod lleol newid i system TGC newydd yn ystod y flwyddyn.
Nid oedd Bro Morgannwg wedi gallu darparu data ar gyfer 2017-18, oherwydd problemau technegol gyda'i systemau TGCh.