None
|
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Metadata
- Gwybodaeth cryno
- Gwybodaeth lefel uchel
- Dolenni'r we
- Allweddeiriau
- Gwybodaeth ansawdd ystadegol
- Data agored
Disgrifiad cyffredinol
Mae'r wybodaeth yn seiliedig ar ddatganiad ystadegol blynyddol.Cesglir yr wybodaeth i fonitro nifer yr oedolion a dalodd yr uchafswm tâl wythnosol tuag at gost gofal a chymorth, neu gymorth i ofalwyr, yn ystod y flwyddyn.
Casgliad data a dull cyfrifo
Er bod ymdrechion mawr wedi bod i gasglu gwybodaeth gywir a dibynadwy o awdurdodau lleol, mae data ar gyfer 2016-17, 2017-18 a 2018-19 dal i fod yn amherffaith.Nid oedd Ceredigion a Caerffili wedi gallu coladu'r data ar gyfer 2016-17, oherwydd problemau technegol gyda'u systemau TGCh.
Nid oedd Caerfilli a Bro Morgannwg wedi gallu coladu'r data ar gyfer 2017-18. Oherwydd gwall yn y canllawiau technegol mae Merthyr Tudful wedi defnyddio cyfradd 2016-17 o £60 ac felly maent wedi'u heithrio.
Nid oedd Caerffili wedi gallu coladu'r data ar gyfer 2018-19, oherwydd problemau technegol gyda'u systemau TGCh.






