

None
|
Metadata
- Gwybodaeth cryno
- Gwybodaeth lefel uchel
- Gwybodaeth ansawdd ystadegol
- Dolenni'r we
- Allweddeiriau
- Data agored
Disgrifiad cyffredinol
Mae'r wybodaeth yn seiliedig ar ddatganiad ystadegol blynyddol.Cesglir yr wybodaeth i fonitro nifer yr oedolion a dalodd yr uchafswm tâl wythnosol tuag at gost gofal a chymorth, neu gymorth i ofalwyr, yn ystod y flwyddyn.
Casgliad data a dull cyfrifo
Er bod ymdrechion mawr wedi bod i gasglu gwybodaeth gywir a dibynadwy o awdurdodau lleol, mae data ar gyfer 2016-17, 2017-18 a 2018-19 dal i fod yn amherffaith.Ni ddarparodd Caerffili data yn 2016-17, 2017-18 a 2018-19.
Yn 2017-18, darparodd Casnewydd data hyd at y 6ed Mawrth 2018 yn unig. Roedd hyn oherwydd bod Casnewydd yn mudo i system TGCh newydd yn ystod y flwyddyn. Ni ddarparodd Bro Morgannwg data yn 2017-18. Roedd hyn oherwydd materion technegol yn ymwneud â'u systemau TGCh.