Unigolion sy'n anabl yn gorfforol/synhwyraidd, cyn 2006-07, yn ôl awdurdod lleol, anabledd a mesur
None
|
Metadata
- Gwybodaeth lefel uchel
- Dolenni'r we
- Gwybodaeth ansawdd ystadegol
- Gwybodaeth cryno
- Allweddeiriau
- Data agored
Teitl
Nifer ar y gofrestr ar 31 Mawrth a nifer yr unigolion yr ychwanegwyd eu henwau at y gofrestr yn ystod y 12 mis a ddaeth i ben ar 31 MawrthDiweddariad diwethaf
Hydref 2009Diweddariad nesaf
Dim hwy diweddaruSefydliad cyhoeddi
Llywodraeth CymruFfynhonnell 1
Casgliad data am gofrestr awdurdodau lleol o bobl ag anableddau corfforol neu ar eu synhwyrau (SSDA900), Llywodraeth CymruCyswllt ebost
ystadegau.gwascymdeithasol@cymru.gsi.gov.ukDynodiad
Ystadegau GwladolLefel isaf o ddadelfennu daearyddol
Awdurdodau lleolCwmpas daearyddol
CymruCwmpas ieithyddol
Saesneg a ChymraegTrwyddedu data
Gallwch ddefnyddio ac ailddefnyddio'r data hwn am ddim mewn unrhyw fformat neu gyfrwng, dan delerau'r Drwydded Llywodraeth Agored - gweler http://www.nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence-cymraegDolenni'r we
http://wales.gov.uk/statistics-and-research/local-authority-registers-people-disabilities; http://wales.gov.uk/docs/statistics/2013/130411-aggregate-pss-statistics-quality-report-en.pdfAnsawdd ystadegol
Mae'r wybodaeth hon yn y cyhoeddiad ystadegol perthnasol, neu gyda gwybodaeth ychwanegol ynglyn ag ansawdd a dulliau gwaith yn yr Adroddiad Ansawdd, yn y dolenni i'r we a roddir.Disgrifiad cyffredinol
Mae cofrestri pobl ag anabledd corfforol neu ar y synhwyrau yn cynnwys pob unigolyn sydd wedi'i gofrestru o dan Adran 29 o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948. Fodd bynnag, mater gwirfoddol yw cofrestru a gallai'r ffigyrau felly fod yn amcangyfrif rhy isel o niferoedd y bobl ag anabledd corfforol neu ar y synhwyrau. Fodd bynnag mae'n ofynnol cofrestru nam difrifol ar y golwg cyn derbyn rhai budd-daliadau ariannol penodol ac felly gallai niferoedd y bobl yn y categori hwn fod yn fwy dibynadwy na'r rhai ar gyfer nam rhannol ar y golwg ac anableddau eraill. Mae'r ffactorau hyn yn ogystal ag ansicrwydd ynglyn â pha mor rheolaidd y mae cynghorau'n adolygu ac yn diweddaru eu cofnodion, yn golygu ei bod yn anodd penderfynu pa mor ddibynadwy yw'r wybodaeth hon ac felly nid yw'n bosibl ei ystyried yn nifer pendant o bobl ag anableddau.Cofrestrir pobl â nam ar eu golwg gan awdurdodau lleol ar ôl i offthalmolegydd ymgynghorol gadarnhau'r nam hwnnw. Mae Tystysgrif Nam ar y Golwg (Cymru) yn cadarnhau'n ffurfiol bod rhywun yn rhannol ddall neu'n ddall (gan bellach ddefnyddio'r termau a ffefrir 'nam ar y golwg' neu 'nam difrifol ar y golwg') er mwyn i'r Awdurdod Lleol allu ei gofrestru ef neu hi.
Mater gwirfoddol yw cofrestru ac nid oes yn rhaid cofrestru er mwyn derbyn amryw neu rai budd-daliadau neu wasanaethau cymdeithasol. Os nad yw'r unigolyn yn hysbys i'r gwasanaethau cymdeithasol fel rhywun ag anghenion sy'n deillio o'r nam ar ei olwg, mae cofrestru hefyd yn gweithredu fel atgyfeiriad ar gyfer asesiad gofal cymdeithasol.