Mae'r tabl hwn yn crynhoi gwybodaeth am y staff a gyflogir yn uniongyrchol mewn adrannau gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru. Mae Awdurdodau Lleol hefyd yn darparu gwasanaethau gan ddefnyddio'r sector annibynnol, ac nid yw'r staff hyn wedi eu cynnwys yn y ffigyrau hyn.
Casgliad data a dull cyfrifo
Darparwyd y data i'r Tîm Casglu Data yn Llywodraeth Cymru gan y 22 awdurdod lleol yng Nghymru ar ffurflen casglu data am staffio. Mae'r ffurflen yn defnyddio cyfres eang o archwiliadau dilysu i sicrhau bod y wybodaeth a ddarperir yn gywir ac yn gyson.
Mae niferoedd staff cyfwerth ag amser llawn wedi'u seilio ar oriau dan gontract yn hytrach na'r oriau a weithiwyd mewn gwirionedd ar ddiwrnod y cyfrifiad. Dylid cyfrifo nifer y staff cyfwerth ag amser llawn ar sail 39 o oriau'r wythnos (dan gontract) ar gyfer cynorthwywyr gofal, gweithwyr llaw a staff domestig, a 37 awr ar gyfer yr holl staff eraill. Cyfrifir oriau cyfwerth ag amser llawn staff rhan-amser trwy rannu'r oriau dan gontract â 39 neu 37 fel sy'n briodol.
Mae'r wybodaeth hon yn y cyhoeddiad ystadegol perthnasol, neu gyda gwybodaeth ychwanegol ynglyn ag ansawdd a dulliau gwaith yn yr Adroddiad Ansawdd, yn y dolenni i'r we a roddir.