Mae'r metrig wedi'i gynllunio i gasglu gwybodaeth am nifer yr asesiadau newydd a gwblhawyd ar gyfer plant yn ystod y flwyddyn pan fo’r plentyn wedi cael ei weld. Nid yw'n cynnwys ailasesiadau o blant sydd eisoes â chynllun gofal a chymorth.
Casgliad data a dull cyfrifo
Er bod ymdrechion mawr wedi bod i gasglu gwybodaeth gywir a dibynadwy o awdurdodau lleol, mae data dal i fod yn amherffaith.