Mae’r metrig wedi’i ddylunio i gasglu gwybodaeth am effaith y newid polisi arfaethedig yn y Bil/Deddf Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) (Cymru). Mae dileu'r amddiffyniad cosb resymol yn rhan o'r strategaeth genedlaethol Ffyniant i Bawb. Nod y ddeddfwriaeth yw helpu i amddiffyn hawliau plant drwy wahardd rhieni a’r rheini sy’n gweithredu mewn loco parentis (yn gweithredu fel rhiant) yng Nghymru rhag cosbi plant yn gorfforol, gan gynnwys ymwelwyr â Chymru. Drwy wneud hynny, bydd gan blant yng Nghymru yr un amddiffyniad cyfreithiol rhag cosb gorfforol ag oedolion.
Casgliad data a dull cyfrifo
Er bod ymdrechion mawr wedi bod i gasglu gwybodaeth gywir a dibynadwy o awdurdodau lleol, mae data dal i fod yn amherffaith.