Mae'r data hyn wedi'u cyhoeddi i roi crynodeb wythnosol o’r gwaith olrhain cysylltiadau coronafeirws yng Nghymru. Mae'r ffigurau'n dangos canran yr achosion positif a'r cysylltiadau agos y cafwyd gafael arnynt o fewn 24 a 48 awr, ac o’r adeg y cyfeiriwyd achosion positif at y system olrhain cysylltiadau, canran yr holl gysylltiadau agos a oedd yn gymwys ar gyfer camau dilynol y cafwyd gafael arnynt o fewn 24 a 48 awr. Gallai’r ffigurau hyn gael eu diwygio ychydig o wythnos i wythnos oherwydd bod rhai achosion yn cael eu nodi fel rhai nad ydynt yn gymwys yn dilyn ymchwil pellach gan dimau olrhain cysylltiadau.
|
Metadata
- Gwybodaeth cryno
- Gwybodaeth lefel uchel
- Gwybodaeth ansawdd ystadegol
- Dolenni'r we
- Allweddeiriau
- Data agored
Disgrifiad cyffredinol
Ar gyfer achosion positif, yr amser a gymerir i gael gafael ar rywun yw'r amser rhwng cyfeirio'r achos at y system olrhain cysylltiadau a llwyddo i gysylltu â'r unigolyn. Mae dau fesur ar gyfer cysylltiadau agos. Y cyntaf yw'r amser rhwng nodi rhywun fel cyswllt agos a llwyddo i gysylltu â nhw. Yr ail fesur yw'r amser rhwng cyfeirio’r achos at y system olrhain cysylltiadau a llwyddo i gael gafael ar y cyswllt agos. Nid yw'r mesur olaf ar gyfer cysylltiadau agos yn cynnwys nifer bach o gysylltiadau na ellid eu cysylltu’n ôl â’r achos positif a wnaeth eu nodi.Yn yr ystadegau hyn, diffinnir wythnosau fel dydd Sul i ddydd Sadwrn.
Mae'r rhan fwyaf o achosion nad ydynt yn gymwys ar gyfer canau dilynol gan swyddogion olrhain cysylltiadau lleol yn digwydd mewn lleoliadau caeedig fel ysbytai, cartrefi gofal a charchardai. Nid yw achosion positif a chysylltiadau agos sy'n byw y tu allan i Gymru ychwaith yn gymwys ar gyfer camau dilynol ac fe'u cyfeirir at yr asiantaeth iechyd y cyhoedd berthnasol i barhau i’w holrhain.
Y data cyn 4 Medi 2021 yw'r mesurau hynny fel y'u cyhoeddwyd gyntaf. Ers yr wythnos a ddaeth i ben ar 11 Medi 2021, rydym wedi gallu darparu cyfrifiad o’r mesurau amseroldeb ar gyfer pob cyswllt positif neu agos nad yw'n newid dros amser. Gallai’r diwrnod hwn gael ei adolygu yn sgil nodi achosion positif a chysylltiadau agos fel rhai nad ydynt yn gymwys yn dilyn ymchwiliad pellach gan dimau olrhain cysylltiadau.
Casgliad data a dull cyfrifo
Gwybodaeth reoli a gesglir fel rhan o'r broses olrhain cysylltiadau yw’r data yn y datganiad hwn. Nid yw'r data wedi'u casglu at ddibenion ystadegau swyddogol, sy'n golygu nad ydynt wedi bod yn destun yr un lefel o wiriadau sicrhau ansawdd ag ystadegau swyddogol ac y gallent gael eu diwygio yn y dyfodol.Amlder cyhoeddi
WythnosolCyfnodau data dan sylw
Medi 2020 ymlaenTeitl
Mesurau amseroldeb ar gyfer olrhain achosion positif cymwys a chysylltiadau agosDiweddariad diwethaf
7 Gorffennaf 2022Diweddariad nesaf
-Sefydliad cyhoeddi
Llywodraeth CymruFfynhonnell 1
Iechyd a Gofal Digidol Cymru (IGDC)Cyswllt ebost
kas.covid19@llyw.cymruDynodiad
Gwybodaeth reolaetholLefel isaf o ddadelfennu daearyddol
CymruCwmpas daearyddol
CymruCwmpas ieithyddol
Saesneg a ChymraegTrwyddedu data
Gallwch ddefnyddio ac ailddefnyddio'r data hwn am ddim mewn unrhyw fformat neu gyfrwng, dan delerau'r Drwydded Llywodraeth Agored - gweler http://www.nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence-cymraegAnsawdd ystadegol
Y data cyn 4 Medi 2021 yw'r mesurau hynny fel y'u cyhoeddwyd gyntaf. Ers yr wythnos sy'n dod i ben ar 11 Medi 2021, rydym wedi gallu cyfrifo mesurau amseroldeb ar gyfer pob cyswllt positif neu agos nad yw'n newid dros amser; gallai’r diwrnod hwn gael ei ddiwygio oherwydd bod rhai achosion positif a chysylltiadau agos yn cael eu nodi fel rhai nad ydynt yn gymwys yn dilyn ymchwiliad pellach gan dimau olrhain cysylltiadau.Yn yr ystadegau hyn, diffinnir wythnosau fel dydd Sul i ddydd Sadwrn.
Mae'r mwyafrif o achosion nad ydynt yn gymwys i'w holrhain gan swyddogion olrhain cysylltiadau lleol yn digwydd mewn lleoliadau caeedig megis ysbytai, cartrefi gofal a charchardai. Nid yw achosion positif a chysylltiadau agos sy'n preswylio y tu allan i Gymru yn gymwys i gael eu holrhain ychwaith ac fe'u cyfeirir at yr asiantaeth iechyd y cyhoedd berthnasol i barhau i’w holrhain.
Caiff y dyddiad a’r amser pan lwyddwyd i gysylltu ag achos positif neu gyswllt agos eu hystyried fel y cyntaf o nifer o ddigwyddiadau a gofnodir yn y system. Mae’r rhain yn cynnwys:
• pan ceir cofnod o alwad ffôn lwyddiannus (gan gynnwys galwad ffôn gychwynnol gan swyddogion olrhain cysylltiadau i wahodd achosion a chysylltiadau i lenwi’r e-ffurflen)
• pan cynhelir cyfweliad gyda'r cyswllt
• pan ceir y gwiriad dyddiol cyntaf
• pan fydd cysylltiadau agos neu gysylltiadau eraill yn dod yn rhan o'r system olrhain cysylltiadau (ar gyfer achosion positif yn unig)
• pan nodir bod yr achos 'wedi'i ddatrys'
Mae’r digwyddiadau hyn oll yn dangos bod aelod o’r tîm olrhain cysylltiadau wedi llwyddo i gysylltu â’r unigolyn. Mae’r ystod o ddigwyddiadau yn angenrheidiol oherwydd na cheir cofnod o alwadau ffôn ar gyfer pob achos positif a chysylltiad agos. Gallai hyn godi, er enghraifft, lle mae amryw o achosion ymhlith unigolion sy’n byw ar yr un aelwyd a lle caiff yr wybodaeth ei chofnodi drwy un alwad ffôn yn unig, yn hytrach na galwad ffôn yr un ar gyfer pob unigolyn.