Mae'r data hyn wedi'u cyhoeddi i ddarparu crynodeb wythnosol o'r data ar olrhain cysylltiadau ar gyfer y coronafeirws yng Nghymru. Mae'r ffigurau'n dangos nifer yr achosion positif a'r cysylltiadau agos sy'n gymwys i’w holrhain gan dimau olrhain cysylltiadau lleol. Mae'r data'n cynrychioli nifer yr achosion cymwys a gyflwynir i'r system olrhain cysylltiadau fesul diwrnod. Gall nifer yr achosion cymwys amrywio ychydig o wythnos i wythnos oherwydd bod achosion yn cael eu nodi fel rhai nad ydynt yn gymwys i gael ymchwiliad pellach gan dimau olrhain cysylltiadau.
|
Metadata
- Gwybodaeth cryno
- Gwybodaeth lefel uchel
- Dolenni'r we
- Allweddeiriau
- Gwybodaeth ansawdd ystadegol
- Data agored
Disgrifiad cyffredinol
Mae'r data hyn wedi'u cyhoeddi i ddarparu crynodeb wythnosol o'r data ar olrhain cysylltiadau ar gyfer y coronafeirws yng Nghymru. Mae'r ffigurau'n dangos nifer yr achosion positif a'r cysylltiadau agos sy'n gymwys i’w holrhain gan dimau olrhain cysylltiadau lleol. Mae'r data'n cynrychioli nifer yr achosion cymwys a gyflwynir i'r system olrhain cysylltiadau fesul diwrnod. Gall nifer yr achosion cymwys amrywio ychydig o wythnos i wythnos oherwydd bod achosion yn cael eu nodi fel rhai nad ydynt yn gymwys i gael ymchwiliad pellach gan dimau olrhain cysylltiadau.Casgliad data a dull cyfrifo
Mewn lleoliadau caeedig fel ysbytai, cartrefi gofal a charchardai y ceir y rhan fwyaf o achosion nad ydynt yn gymwys i gael eu holrhain gan swyddogion olrhain cysylltiadau lleol. Nid yw achosion positif a chysylltiadau agos sy'n preswylio y tu allan i Gymru yn gymwys i gael eu holrhain ychwaith ac fe'u cyfeirir at yr asiantaeth iechyd y cyhoedd berthnasol i barhau i’w holrhain.Gall nifer yr achosion sy'n gymwys amrywio ychydig o wythnos i wythnos oherwydd bod achosion yn cael eu nodi fel rhai nad ydynt yn gymwys yn dilyn ymchwiliad pellach gan dimau olrhain cysylltiadau. Adlewyrcha'r amrywiadau rhwng y naill ddiwrnod a’r llall wahaniaeth yn y galw sydd ar y system (er enghraifft, nifer y profion a gynhelir). Bydd mwy o achosion yn cael eu cyfeirio at dimau olrhain cysylltiadau ar rai diwrnodau, a gan ddibynnu ar y galw, efallai y bydd ôl-groniad o achosion o’r diwrnodau blaenorol hefyd.