Mae'r data hyn wedi cael eu cyhoeddi er mwyn darparu crynodeb wythnosol ar raglen frechu coronafeirws (COVID-19) yng Nghymru. Mae'r ffigurau'n dangos nifer cronnol y dosau a ddyrannwyd i Gymru a nifer cronnol y dosau a gyflenwyd erbyn y dyddiad. Mae nifer y dosau yn cynnwys y dosau Pfizer/BioNTech (12+ oed), AstraZeneca, Moderna a Pfizer/BioNTech (5-11 oed). Mae'r ffigurau ar gyfer dosau a ddyrannwyd ac a gyflenwyd yn cyfeirio at un dos o frechlyn. Daw'r data o wybodaeth reoli ac maent yn destun newid. Ni fuont yn destun i’r un prosesau dilysu a gynhaliwyd ar gyfer datganiadau ystadegau swyddogol.
|
Metadata
- Gwybodaeth lefel uchel
- Gwybodaeth cryno
- Gwybodaeth ansawdd ystadegol
- Dolenni'r we
- Allweddeiriau
- Data agored
Teitl
Rhaglen frechu COVID-19 - lefelau stoc a dosbarthiadDiweddariad diwethaf
13 Ebrill 2022Diweddariad nesaf
I'w gadarnhauSefydliad cyhoeddi
Llywodraeth CymruFfynhonnell 1
Yr Adran Iechyd a Gofal CymdeithasolCyswllt ebost
kas.covid19@llyw.cymruDynodiad
Gwybodaeth reolaetholLefel isaf o ddadelfennu daearyddol
CymruCwmpas daearyddol
CymruCwmpas ieithyddol
Saesneg a ChymraegTrwyddedu data
Gallwch ddefnyddio ac ailddefnyddio'r data hwn am ddim mewn unrhyw fformat neu gyfrwng, dan delerau'r Drwydded Llywodraeth Agored - gweler http://www.nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence-cymraegDisgrifiad cyffredinol
Mae'r data hyn wedi cael eu cyhoeddi er mwyn darparu crynodeb wythnosol ar raglen frechu coronafeirws (COVID-19) yng Nghymru.Mae'r ffigurau'n dangos nifer cronnol y dosau a ddyrannwyd i Gymru a nifer cronnol y dosau a gyflenwyd erbyn y dyddiad.
Mae nifer y dosau yn cynnwys y dosau Pfizer/BioNTech (12+ oed), AstraZeneca, Moderna a Pfizer/BioNTech (5-11 oed). Mae'r ffigurau ar gyfer dosau a ddyrannwyd ac a gyflenwyd yn cyfeirio at un dos o frechlyn. Mae cwrs o frechlyn yn cynnwys nifer o ddosau ac yn amrywio rhwng unigolion. Argymhellwyd tri dos i unigolion sy’n ddifrifol o imiwnoataliedig o ddechrau'r rhaglen frechu. Argymhellwyd dau ddos i weddill y boblogaeth gymwys, gyda thri dos yn cael ei argymell ar ôl i'r rhaglen atgyfnerthu ddechrau yn hydref 2021.
Daw'r data o wybodaeth reoli ac maent yn destun newid. Ni fuont yn destun i’r un prosesau dilysu a gynhaliwyd ar gyfer datganiadau ystadegau swyddogol.
Llywodraeth y DU sydd â'r contractau ar gyfer nifer y brechlynnau a'r ffordd y'u dosberthir ledled y DU. Caiff Cymru gyfran ar sail poblogaeth o'r holl frechlynnau a gaffaelir gan Lywodraeth y DU. Dyrennir brechlynnau i fyrddau iechyd ar sail meintiau o'r boblogaeth yng ngrwpiau blaenoriaeth y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (JCVI) yn dilyn dyraniadau i Iechyd Cyhoeddus Cymru (ICC) ac Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre.
Casgliad data a dull cyfrifo
Daw'r data ar ddyrannu a cyflenwi brechlynnau o wybodaeth a ddarparwyd gan Public Health England (PHE) a Llywodraeth Cymru. Cesglir y data o wybodaeth reoli a gynhyrchir wrth weithredu'r Rhaglen Frechu ac a gaiff ei choladu'n anolog gan PHE ac, ar gyfer brechlyn Pfizer/BioNTech, gan Lywodraeth Cymru.Mae cyfanswm nifer y dosau a ddyrannwyd yn cyfeirio at nifer y dosau sydd, yn achos brechlynnau Prifysgol Rhydychen / AstraZeneca a Moderna wedi bod ar gael gan Public Health England i Lywodraeth Cymru eu harchebu (hyd at 11:55 ar y diwrnod a restrir) neu, yn achos brechlyn Pfizer/BioNtech, sydd wedi'u cyflenwi'n uniongyrchol i Gymru gan y gwneuthurwr (hyd at ddiwedd y dydd).
Mae cyfanswm nifer y dosau a gyflenwyd yn cyfeirio at nifer y dosau sydd naill ai wedi'u darparu gan ddosbarthwr Public Health England i’r GIG yng Nghymru neu, yn achos brechlyn Pfizer/BioNtech, sydd wedi'u cyflenwi gan ddosbarthwr Llywodraeth Cymru i'r GIG yng Nghymru, a dyma'r swm cronnol a gyflenwyd erbyn 23:59 ar y diwrnod cynt.
Mae'r gwahaniaeth rhwng y brechlyn a ddyrannwyd i Gymru a'r brechlyn a gyflenwyd i Gymru yn cynnwys brechlynnau a ddyrannwyd ond nad ydynt wedi'u cyflenwi eto.
Amlder cyhoeddi
WythnosolCyfnodau data dan sylw
15 Chwefror 2021 ymlaenGwybodaeth am ddiwygiadau
Mae'r holl ddata'n dros dro ac yn destun i adolygiad yn y dyfodol oherwydd gweithgareddau cofnodi a glanhau data parhaus.Ansawdd ystadegol
Cyn 26 Ionawr 2021, roedd y wybodaeth cynnyrch ar gyfer y brechlyn Pfizer yn nodi bod pob ffiol yn cynnwys 5 dos; ond mewn rhai achosion efallai y bydd yn bosibl tynnu chweched dos o rai ffiolau. Cefnogir y defnydd o'r dos ychwanegol hwn gan yr Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd (MHRA). O 26 Ionawr 2021, diweddarodd yr MHRA eu rheoliadau i nodi bod ffiol Pfizer yn cynnwys 6 dos yn swyddogol. Mae nifer y dosau o frechlyn Pfizer wedi’i gyfrifo ar sail y dyddiad y derbyniwyd y brechlyn yng Nghymru.Mae'r wybodaeth cynnyrch ar gyfer brechlyn Prifysgol Rhydychen / AstraZeneca yn nodi bod ffiolau yn cynnwys 8 neu 10 dos (yn dibynnu ar y cyflwyniad), ond mewn rhai achosion efallai y bydd yn bosibl tynnu dos pellach (9fed neu 11eg) o rai ffiolau. Cefnogir y defnydd o'r dos ychwanegol hwn gan yr MHRA.
Mae dau gyflwyniad gwahanol o frechlyn Prifysgol Rhydychen / AstraZeneca yn cael eu cyflenwi:
• Pecynnau 80 dos (Deg o ffiolau 4 ml gydag o leiaf 8 dos ym mhob ffiol)
• Pecynnau 100 dos (Deg o ffiolau 5 ml gydag o leiaf 10 dos ym mhob ffiol)
Mae'r wybodaeth ar gyfer y brechlyn Moderna yn nodi y gellir tynnu 10 dos o 0.5mL o bob ffiol, sef y ffigur a ddefnyddir i adrodd y data a gyflwynir yn y datganiad hwn; fodd bynnag mae gorlenwi ychwanegol wedi'i gynnwys ym mhob ffiol i sicrhau y gellir dosbarthu 10 dos. Weithiau bydd yn bosibl tynnu dosau pellach o rai ffiolau. Mae MHRA yn cefnogi defnydd o'r dos ychwanegol hwn. Gyda'r brechu atgyfnerthu, mae'r dos argymelledig o frechlyn Moderna yw 0.25mL. Rhoddir Moderna mewn dosau 0.5mL a 0.25mL ac o'r herwydd bydd nifer y dosau mewn ffiol yn amrywio rhwng 10 ac 20 sydd yn dibynnu ar y gymysgedd o ddos cyntaf ac ail, a dosau atgyfnerthu a roddir.
Mae’r holl ddata ar frechlynnau a ddyrannwyd ac a gyflenwyd i Gymru wedi’u cymeradwyo gan Lywodraeth y DU.
Ar 13 Medi 2021, roedd nifer cronnol y dosau o frechlyn COVID-19 a ddyrannwyd i Gymru wedi gostwng o'i gymharu ag wythnosau blaenorol. Y rheswm am hyn oedd bod brechlynnau a ddyrannwyd i Gymru i ddechrau wedi’u hailddyrannu o fewn rhaglen frechu ehangach y DU.
O 4 Hydref 2021, mae nifer y brechlynnau a ddyrannwyd i Gymru yn cynnwys stoc a ohiriwyd yn flaenorol ar gyfer y rhaglen atgyfnerthu COVID-19 sy’n dechrau yn Hydref 2021.