
None
|
Metadata
- Gwybodaeth lefel uchel
- Gwybodaeth cryno
- Gwybodaeth ansawdd ystadegol
- Dolenni'r we
- Allweddeiriau
- Data agored
Teitl
Sgôr gymedrig llesiant meddyliol plant yng Nghymru – Mesurau iechyd a llesiant ar gyfer plant mewn perthynas â’r Dangosyddion CenedlaetholDiweddariad diwethaf
Medi 2021Diweddariad nesaf
AnhysbysSefydliad cyhoeddi
Llywodraeth CymruFfynhonnell 1
Arolwg Deall Cymdeithas (USOC)Cyswllt ebost
ystadegau.iechyd@llyw.cymruDynodiad
DimLefel isaf o ddadelfennu daearyddol
CymruCwmpas daearyddol
Y Deyrnas UnedigCwmpas ieithyddol
Saesneg a ChymraegTrwyddedu data
Gallwch ddefnyddio ac ailddefnyddio'r data hwn am ddim mewn unrhyw fformat neu gyfrwng, dan delerau'r Drwydded Llywodraeth Agored - gweler http://www.nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence-cymraegDisgrifiad cyffredinol
Diben Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yw gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae’r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol yn gyfreithiol i Weinidogion Cymru osod dangosyddion cenedlaethol i fesur cynnydd o ran cyflawni’r nodau llesiant.Mae’r sgôr gymedrig ar gyfer llesiant meddyliol sydd i’w gweld yn y tabl data wedi cael ei gosod fel un o ddangosyddion cenedlaethol Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015. Mae wedi’i chymryd o’r Holiadur Cryfderau ac Anawsterau (gwybodaeth o’r arolwg Deall Cymdeithas).
Casgliad data a dull cyfrifo
Mae Deall Cymdeithas, Astudiaeth Hydredol o Aelwydydd y DU, yn arolwg hydredol o aelodau o aelwydydd yn y Deyrnas Unedig, hy yr ardal ddaearyddol o wledydd Cymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon.Gofynnir i aelodau’r aelwydydd sydd rhwng 10-15 oed lenwi holiadur byr i bobl ifanc. Dim ond ym mhob yn ail don y mae’r cwestiynau cryfderau ac anawsterau i bobl ifanc yn cael eu cynnwys. Cynhelir y cyfweliadau wyneb yn wyneb fel arfer gan gyfwelwyr hyfforddedig yng nghartrefi’r rhai sy’n ateb.