Pobl sy'n Cysgu ar y Stryd yn ôl ardal awdurdod lleol
None
|
Metadata
- Gwybodaeth lefel uchel
- Gwybodaeth cryno
- Gwybodaeth ansawdd ystadegol
- Allweddeiriau
- Dolenni'r we
- Data agored
Teitl
Pobl sy'n Cysgu ar y Stryd yn ôl ardal awdurdod lleolDiweddariad diwethaf
Chwefror 2020Diweddariad nesaf
Chwefror 2021Sefydliad cyhoeddi
Llywodraeth CymruFfynhonnell 1
Cyfrif Cenedlaethol o Gysgu Allan, Llywodraeth CymruCyswllt ebost
ystadegau.tai@llyw.cymruDynodiad
Ystadegau arbrofolLefel isaf o ddadelfennu daearyddol
Awdurdodau lleolCwmpas daearyddol
CymruCwmpas ieithyddol
Saesneg a ChymraegTrwyddedu data
Gallwch ddefnyddio ac ailddefnyddio'r data hwn am ddim mewn unrhyw fformat neu gyfrwng, dan delerau'r Drwydded Llywodraeth Agored - gweler http://www.nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence-cymraegDisgrifiad cyffredinol
Mae'r wybodaeth hon yn dangos nifer y bobl sy'n cysgu allan mewn ardaloedd awdurdodau lleol . Mae'r data yn cael ei gasglu i gael gwell dealltwriaeth o raddfa a thueddiadau mewn cysgu ar y stryd dros gyfnod o amser i lywio polisi lleol a chenedlaethol.Mae cyfanswm y cyfrif o bobl sy'n cysgu allan yn gipluniau nos sengl. Y cyfrif Amcangyfrifir yn seiliedig ar ddata a gasglwyd dros gyfnod o bythefnos gyda chymorth gan y sector gwirfoddol, grwpiau ffydd , asiantaethau busnesau / preswylwyr, iechyd a chamddefnyddio sylweddau.
Yn 2015-16, cynhaliwyd y cyfrif un noson rhwng 11yh ar 25 Tachwedd a 3yb ar 26 Tachwedd 2015.
Yn 2016-17, cynhaliwyd y cyfrif un noson rhwng 10yh ar 3 Tachwedd a 5yb ar 4 Tachwedd 2016.
Yn 2017-18, cynhaliwyd y cyfrif un noson rhwng 10yh ar 8 Tachwedd a 5yb ar 9 Tachwedd 2017.
Yn 2018-19, cynhaliwyd y cyfrif un noson rhwng 10yh ar 9 Tachwedd a 5yb ar 10 Tachwedd 2018.
Casglwyd y data dros gyfnod o bythefnos.
Yn 2015-16, casglwyd y data rhwng 2 Tachwedd a 15 Tachwedd 2015.
Yn 2016-17, casglwyd y data rhwng 10 Hydref a 23 Hydref 2016.
Yn 2017-18, casglwyd y data rhwng 15 Hydref a 28 Hydref 2017.
Yn 2018-19, casglwyd y data rhwng 16 Hydref a 29 Hydref 2018.
Casgliad data a dull cyfrifo
Mae'r wybodaeth a gyflwynir yma yn cael ei gasglu trwy ffurflenni blynyddol gan Awdurdodau Lleol.Felly, nid oes modd cymharu data 2017-18 yn uniongyrchol gyda data 2016-17 a nid oes modd cymharu data 2016-17 yn uniongyrchol gyda data 2015-16 oherwydd y gwahaniaethau amseru.