Amcanestyniadau aelwydydd yn ôl awdurdod lleol a'r flwyddyn
None
|
Metadata
- Gwybodaeth lefel uchel
- Dolenni'r we
- Gwybodaeth cryno
- Allweddeiriau
- Gwybodaeth ansawdd ystadegol
- Data agored
Teitl
Amcanestyniadau aelwydydd sy'n seiliedig ar 2018 ar gyfer Cymru, Llywodraeth CymruDiweddariad diwethaf
Awst 2021Diweddariad nesaf
Nid yw’n cael ei ddiweddaru mwyach. Bydd hwn yn cael ei ddisodli gan amcanestyniad yn y dyfodol.Sefydliad cyhoeddi
Llywodraeth CymruFfynhonnell 1
Sail-2018 amcanestyniadau aelwydydd Cymru, Llywodraeth CymruCyswllt ebost
ystadegau.poblogaeth@llyw.cymruDynodiad
Ystadegau GwladolLefel isaf o ddadelfennu daearyddol
Awdurdodau lleolCwmpas daearyddol
Awdurdodau lleolCwmpas ieithyddol
Saesneg a ChymraegTrwyddedu data
Gallwch ddefnyddio ac ailddefnyddio'r data hwn am ddim mewn unrhyw fformat neu gyfrwng, dan delerau'r Drwydded Llywodraeth Agored - gweler http://www.nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence-cymraegDisgrifiad cyffredinol
Amcanestyniadau aelwydydd ar gyfer Cymru a gynhyrchwyd gan Gwasanaethau Gwybodaeth a Dadansoddi, Llywodraeth Cymru.Mae'r fethodoleg wedi'i datblygu mewn cydweithrediad â grwp Amcanestyniadau Is-genedlaethol Cymru (WaSP). Mae aelodau WaSP yn cynnwys cynrychiolwyr â phrofiad o ddata demograffig a thai o awdurdodau lleol Cymru, Data Cymru a Llywodraeth Cymru.
Casgliad data a dull cyfrifo
Mae amcanestyniadau aelwydydd yn rhoi syniad o nifer posibl yr aelwydydd a’u cyfansoddiad yn y dyfodol yng Nghymru. Mae amcanestyniadau aelwydydd awdurdodau lleol sy’n seiliedig ar 2018 yn seiliedig ar amcanestyniadau poblogaeth awdurdodau lleol sy’n seiliedig ar 2018. Mae’r amcanestyniadau aelwydydd hefyd yn seiliedig ar ddata am ‘natur yr aelwyd’. Mae rhagdybiaethau am natur, neu fathau gwahanol, o aelwydydd yn seiliedig ar ddata Cyfrifiad 2001 a 2011, a gynhyrchwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol. Nid ydy amcanestyniadau aelwydydd yn rhagolygon o faint o dai y dylid eu hadeiladu yn y dyfodol. Maen nhw'n dangos faint o aelwydydd ychwanegol fyddai'n ffurfio pe bai poblogaeth Cymru yn parhau i newid fel y gwnaeth rhwng 2014 a 2018, a phe bai aelwydydd yn parhau i ffurfio fel a wnaed rhwng 2001 a 2011.Rydym hefyd yn cyhoeddi pum amrywiolyn amcanestyniadau ychwanegol ochr yn ochr â'r prif amcanestyniad. Mae hyn yn cynnwys amrywiolyn poblogaeth isel ac amrywiolyn poblogaeth uchel, yn ogystal â thri amrywiolyn yn seiliedig ar dybiaethau mudo amgen. Mae hyn yn cynnwys amrywiolyn dim mudo, amrywiolyn cyfartaledd mudo 10 mlynedd ac amrywiolyn cyfartaledd mudo 15 mlynedd.
Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn y datganiad ystadegol. Mae dolen i'r datganiad yn yr adran ‘Dolenni’r we’.
Amlder cyhoeddi
Dim hwy diweddaruCyfnodau data dan sylw
2018 - 2043Gwybodaeth am ddiwygiadau
Ddydd Llun 18 Mai 2020, cyhoeddodd yr ONS nodyn ar eu gwefan i roi gwybod i ddefnyddwyr eu bod wedi darganfod gwall a oedd yn effeithio ar yr amcanestyniadau poblogaeth cenedlaethol sy’n seiliedig ar 2018. Roedd y gwall wedi ei achosi gan brosesu mudo rhwng Cymru a Lloegr yn anghywir, gan arwain at amcanestyniad poblogaeth canol-2028 oddeutu 65,000 yn rhy isel yng Nghymru, ac amcanestyniad poblogaeth 65,000 yn rhy uchel yn Lloegr.Yn dilyn ymgynghori gyda’n grwp arbenigol am y goblygiadau i’n cynnyrch ystadegol a oedd yn seiliedig ar amcanestyniadau poblogaeth cenedlaethol sy’n seiliedig ar 2018, penderfynom ni dynnu’r amcanestyniadau poblogaeth awdurdodau lleol a’r amcanestyniadau aelwydydd sy’n seiliedig ar 2018 oddi ar ein gwefan.
Cyhoeddodd yr ONS amcanestyniadau wedi eu cywiro ar gyfer Cymru ddydd Iau 11 Mehefin. Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru amcanestyniadau poblogaeth awdurdodau lleol diwygiedig sy’n seiliedig ar 2018 ddydd Mawrth 4 Awst. Mae’r amcanestyniadau aelwydydd awdurdodau lleol hyn yn seiliedig ar yr amcanestyniadau poblogaeth awdurdod lleol diwygiedig sy’n seiliedig ar 2018. Mae gwybodaeth bellach am y cywiriadau ar gael yn yr amcanestyniadau aelwydydd awdurdodau lleol diwygiedig sy’n seiliedig ar 2018, yn ogystal â dadansoddiad o sut mae’r amcanestyniadau hyn sydd wedi eu cywiro yn cymharu ag amcanestyniadau a gyhoeddwyd yn flaenorol.